‘Angen codi llais yn erbyn bwlio’

Llinos Dafydd

“Ro’n i’n agos iawn fwy nag unwaith i ladd fy hun oherwydd effaith y bwlio.”

Mae sgil-effeithiau bwlio pan oedd hi’n blentyn, ac yn ddiweddarach yn y gweithle, wedi gadael ei ôl ar Elen Roberts, 42 oed, o Borthaethwy.

A hithau’n wythnos gwrth-fwlio, mae nawr yn annog dioddefwyr i godi llais, a pheidio gadael i’r bwlis ennill.

Un o’r rhesymau pam oedd pobl yn pigo arni, meddai, yw oherwydd bod ganddi broblemau iechyd.

Cafodd ei geni gyda hydrocephalus (dŵr ar yr ymennydd), cerebal palsy ac epilepsi.

“Mae hydrocephalus yn gallu effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd,” meddai. “Lle ro’n i yn y cwestiwn, mi wnaeth o fy ngwneud i’n arafach na phobl fy oed i bigo pethau fyny yn yr ysgol fel ysgrifennu.

“Ond ar yr un pryd gwneud i fy nghorff fynd yn hen cyn ei amser. Er enghraifft, fe ddechreuais fy mislif mewn oed cynnar iawn.”

Rhannu

Mae’n bryd i bethau newid, meddai, er mor anodd ydy hi i drafod pwnc mor ddyrys.

“Mae mor, mor bwysig i siarad a rhannu teimladau, a rhannu gofidiau hefyd,” meddai Elen Roberts.

“Byswn i’n cynghori’r bwlis i feddwl sut effaith mae eu hagwedd nhw a’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn cael ar y rhai maen nhw’n eu bwlio, a sut y bydden nhw’n teimlo o gael yr un driniaeth.

“Ar ddiwedd y dydd, gall eu creulondeb nhw arwain at bobl i ladd eu hunain,” meddai.

Roedd dyddiau ysgol yn hunllef, mae’n cyfaddef, wrth gofio’n ôl i greulondeb y plant.

“O’n i’n teimlo’n ofnadwy – ac roedd yn un athro hefyd yn fy mwlio. Roedd e mor greulon nes oedd rhaid i mi adael y dosbarth,” meddai.

Cafodd ei bwlio yn y gweithle hefyd gan ddwy ddynes a dyn. Roedd y pethau bach, fel siarad tu ôl i’w chefn yn effeithio arni’n fawr.

“Mi wnaeth un ohonynt fy ngwneud i’n ofidus iawn i ddefnyddiol lifft hyd heddiw, oherwydd iddynt bwyso’r botwm ‘I lawr’ cyn allwn i ddod allan ohono. Mae gen i ofn defnyddio lifft o hyd,” meddai Elen Roberts.

Straen

Erbyn hyn, dydy hi ddim yn gallu gweithio o gwbl, meddai Elen Roberts, oherwydd y straen. Mae’r holl fwlio wedi gadael craith, yn feddyliol a chorfforol.

“Dw i ddim wedi gallu gweithio ers ugain mlynedd. Mae’r bwlio wedi fy ngwneud i’n lot fwy swil mewn llefydd cyhoeddus.

“Ond os oes angen i mi fynd allan, rhaid i mi gario un o fy nhapestris i’w wnïo yn ystod yr amser dw i’n gorfod bod yng nghwmni pobl er mwyn tynnu fy sylw oddi ar y sefyllfa.

“Mae hefyd yn helpu gyda’r poenau sydd gen i yn fy  nghefn ac ysgwyddau, sy’n achosi anhawster i symud weithiau.

“Dw i ddim yn dewis aros yng nghwmni pobl yn rhy hir – dyna pam y byddai’n amhosib i mi weithio 9 tan 5 oni bai fy  mod i’n gweithio o adref, oherwydd dw i angen bod ar fy mhen fy hun yn fwy na bod gyda phobl eraill. Mae’n achosi gormod o straen.”

Articles via Email

Get instant updates to your inbox

2 Comments

  1. No-one could argue with the sentiments of Ms Dafydd’s article. Quite simply, bullying is unacceptable.
    This isn’t a specifically Welsh issue, of course, and may therefore not have had a place on this site, but a national Welsh policy on the problem wouldn’t go amiss.

    • You will quite easily get a torrent of wishy washy policy words out of the present regime, but as for a real commitment to tackle bullying, even within their own bubble, don’t hold your breath. Most of the hard graft will need to be done by victims and those who get to know about it. Together they can go to the source and demand “corrective action”. At times it may need a bucket of tar and some feathers !!!!

Leave a Reply