Iechyd meddwl: Rhaid trafod y cysylltiad â dirywiad ieithyddol y Fro Gymraeg

 

Aled Gwyn Job

Heno, Mawrth 19, bydd y gwasanaethau iechyd meddwl a’r Gymraeg yng Ngwynedd o dan y chwyddwydr mewn cyfarfod arbennig sydd i’w gynnal yng nghanolfan iaith newydd Bangor, Popty.

Bydd panelwyr Mwy na Geiriau yn cynnwys defnyddiwr gwasanaeth, nyrs iechyd meddwl lleol a chynrychiolydd gwefan sydd wedi ei chychwyn ar gyfer Cymry Cymraeg.

Bydd trafodaeth i ddilyn ynghylch sut y gellid gwella’r darpariaethau perthnasol trwy’r Gymraeg mewn sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, sef 64%.

Bu tan-ariannu iechyd meddwl yn broblem barhaus yn ein cymdeithas  dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda’r agenda gyni a ddilynwyd ers 2010.

Does dim amheuaeth y cafodd hyn oll effaith negyddol ar effeithlondeb y gwasanaethau a gynigwyd i’r cyhoedd, a bu’r trafferthion a welwyd mewn mannau megis Uned Hergest, Bangor, ac Uned Tawelfan, Bodelwyddan yn straeon cyson yn y cyfryngau yn ddiweddar.

Dros y penwythnos hefyd, tynnodd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru sylw at y ffaith bod 13% o alwadau’r heddlu bellach yn ymwneud â delio gyda phroblemau materion iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd.

Galwyd am sefydlu llochesau pwrpasol i ysgafnhau’r pwysau ar yr Heddlu a’r tair uned iechyd meddwl sydd yn y gogledd.

Yn ieithyddol wrth gwrs, bu’n wybyddus ers blynyddoedd bod y gwasanaeth iechyd lleol ar ei hôl hi’n ddifrifol o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn enwedig o’i gymharu â’r camau breision iawn a gymrwyd gan Gyngor Sir Gwynedd dros yr un cyfnod i normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gwaith ac iaith gwasanaethau yn y sir.

Bydd y cyfarfod felly yn edrych sut y gall y Bwrdd Iechyd Lleol, Betsi Cadwaladr, fynd i’r afael gyda’r heriau hyn trwy rannu profiadau siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio’r gwasanaethau, adnabod arferion da presennol ac ystyried sut i gynllunio gweithlu a gwasanaethau Cymraeg i’r dyfodol.

Ond wrth gadeirio’r cyfarfod heno, ac fel rhywun sydd â phrofiad o iselder a phryder fy hun yn y gorffennol, credaf fod rhaid gochel rhag cyflwyno’r broses hon fel mater o ddarparu gwasanaethau ar gyfer y “nhw” bondigrybwyll.

Pawb yn dioddef

Mae gen i ofn fod gormod o bobl wedi llyncu’r ffigwr hwn y bydd 1 bob 4 ohonom yn cael problem iechyd meddwl yn ystod eu bywydau. Yn fy marn bersonol i, mae’r ffigwr hwn yn gwbl gyfeiliornus, a’i fod yn agosach at 4 o bob 4 mewn gwirionedd (h.y pob un ohonom).

Rhaid inni chwalu’r syniad hwn bod yna ddioddefwyr ar un ochr a phawb arall ar yr ochr arall.

Llawer gwell yw ystyried iechyd meddwl fel continwwm y mae pob un ohonom arno, a chontinwwm y byddwn yn rhodio yn ôl a blaen ar ei hyd tra fyddwn ar yr hen ddaear hon.

Be sydd ei angen yn fwy na dim ydi dysgu mwy ohonom sut y gallwn reoli ein taith ar hyd y continwwm hwn.

Ac mae gwir angen trafodaeth am hyn yn Gymraeg, gan y gellid dadlau bod yr hen stigma am iechyd meddwl yn waeth yn y Gymru Gymraeg hyd heddiw gyda’r ardaloedd dan sylw yn glytwaith o drefi a phentrefi bychain a phawb yn dueddol o adnabod ei gilydd yno.

Credaf hefyd ei bod yn amserol dechrau siarad o ddifrif am elfen sydd heb gael sylw dyladwy hyd yma, sef y cysylltiad rhwng y dirywiad ieithyddol diweddar yn y Fro Gymraeg ac iechyd meddwl ei thrigolion.

Mae’r dinistr diwylliannol sydd wedi carlamu trwy’r ardaloedd Cymraeg dros y ddwy genhedlaeth ddiwethaf, sydd wedi breuo’r cysylltiad sydd gan bobl gyda’u hiaith, eu tir a’u treftadaeth, a dim argoel bod hyn am newid o gwbl – yn elfen ddiamheuol yn yr epidemic hwn o broblemau iechyd meddwl yn lleol yn fy meddwl i.

Pan ychwanegwch chi wedyn bod ein traddodiad ffydd, a fu’n gyfrwng i gynnig sefydlogrwydd, gobaith a chynhaliaeth i bobl ar hyd y cenedlaethau hefyd wedi dadfeilio dros yr un cyfnod, mae’r cwbl oll yn cyhoeddi argyfwg dwylliannol enbyd.

Mae gennym gymdeithas gyfan sy’n fregus a diamddiffyn – oes ryfedd fod iechyd meddwl pobl yn dioddef mewn amgylchiadau o’r fath?!

Cymuned

Ac yn gyffredinol, daeth hi’n bryd inni bellach symud i ffwrdd o edrych ar iechyd meddwl fel ffenomena unigolyddol, a rhywbeth y gellid ei ddatrys trwy daflu mwy o dabledi at bobl (gwelwyd cynnydd o 50% yn y niferoedd yn cymryd tabledi gwrth-iselder ers 2008) a dechrau ystyried atebion cymdeithasol creadigol i’r aflwydd hwn sy’n effeithio cymaint ohonom.

Treuliodd y newyddiadurwr Johan Harri naw mis yn teithio’r byd yn cywain tystiolaeth ar gyfer ei lyfr newydd “Disconnected”, gyda’r llyfr yn cyflwyno dadl gref nad anghydbwysedd cemegol ym meddyliau pobl yw’r broblem o gwbl, ac mai  ffenomena gymdeithasol sydd wrth wraidd y cynnydd mawr mewn problemau iechyd meddwl heddiw.

“Mental health is produced socially – it’s a social phenomenon, it’s got social indicators. And it needs social solutions,” meddai.

Awgryma’r awdur hefyd bod natur gwaith heddiw wrth wraidd llawer iawn o’r anobaith cymdeithasol a’r diffyg pwrpas a welir ar bob tu, gyda thra-arglwyddiaeth cyfalafiaeth gorfforaethol  gyda’i holl anhegwch yn creu awyrgylch gwaith sydd yn llythrennol yn gwneud pobol yn sal.

Dyfynna arolwg helaeth iawn a wnaed gan y Cwmni Gallup yn ddiweddar a ddangosodd mai dim ond 14% o bobl heddiw sydd wirioneddol yn mwynhau eu gwaith.  Roedd yr arolwg  yn dangos bod 19% yn goddef eu gwaith, ond dim llai na 67% yn casáu eu gwaith.

Mae’r ffigyrau hyn ar faes sydd mor greiddiol i fodolaeth dyddiol pawb ohonom yn dweud cyfrolau am natur ein cymdeithas heddiw.

Yng nghyd-destun y Gymru Gymraeg, efallai bod angen nid yn unig dychmygu’r math o wasanaethau Cymraeg iechyd meddwl sydd ar gael i bobl, ond ail-ddychmygu’r math o waith y gallwn ei greu ar gyfer pobl er mwyn llunio dyfodol sydd yn fwy iach yn feddyliol i bawb. Gwaith sy’n rhoi mwy o bwrpas ac ystyr i fywydau pobl.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox