Support our Nation today - please donate here
Culture

Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick

15 Jul 2018 4 minute read
Yr Athro Nathan Abrams

Mae Athro o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.

Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.

Fe wnaeth Nathan Abrams o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, sy’n un o gyfranwyr Nation.Cymru, ddarganfod y sgript ffilm wrth ymchwilio i’w lyfr nesaf ar ffilm olaf Kubrick, Eyes Wide Shut.

“Am amser maith roedd y sgript ar goll,” meddai Nathan Abrams, a gyhoeddodd yn ddiweddar Stanley Kubrick: New York Jewish Intellectual gyda Rutgers University Press.  “Doedd neb yn gwybod a oedd hyd yn oed wedi ei chwblhau.”

“Fe syrthiodd ar fy nglin tra oeddwn yn ymchwilio ar gyfer fy llyfr nesaf, Eyes Wide Shut: Stanley Kubrick and the Making of His Final Film, sydd i’w gyhoeddi gan Oxford University Press y flwyddyn nesaf.  Fedrwn i ddim credu’r peth.  Doedd yr un ysgolhaig na beirniad wedi gweld y sgript yma am dros drigain mlynedd.  Mae mor gyffrous.

“O’r hyn rydw i wedi’i weld mae’r sgript ffilm i weld yn ddilys.  Mae’r dyddiad 24 Hydref 1956 arni, ynghyd â stamp Adran Sgript MGM.  Roedd i fod i gael ei chynhyrchu gan James B. Harris, ei chyfarwyddo gan Kubrick ac wedi’i hysgrifennu gan Kubrick a Willingham.

Dwi’n tybio bod y sgôr i gael ei lunio gan y cyfansoddwr Gerald Fried, a oedd eisoes wedi llunio sgôr rhai o ffilmiau cynharaf Kubrick.

Nofel fer a adroddir o safbwynt bachgen Iddewig deuddeg oed yw Burning Secret.  Mae barwn llyfn ei dafod a sgut am ferched yn cyfeillachu efo’r bachgen mewn spa wyliau yn Awstria er mwyn ceisio cael ei ffordd efo’i fam briod.

Mae’r plentyn yn ei ddiniweidrwydd yn gweithredu fel math o gyfryngwr rhwng ei fam a’r dyn yma sydd â’i lygad arni fel cariad, ac mae’n stori ddigon brawychus gyda themâu rhywioldeb a cham-drin plant yn corddi o dan yr wyneb.

Nôl yn 1956 roedd y Stanley Kubrick ifanc yn dal yn gymharol anadnabyddus, ac newydd gwblhau ei ffilm The Killing.

Gyda’i bartner cynhyrchu, James B. Harris, roedd yn chwilio am broject newydd i roi hwb pellach i’w enw da.  Cynigiodd MGM y cynnig cyntaf ar unrhyw eiddo i’r pâr.

Yr un a ddaliodd ei lygad yn wirioneddol oedd Burning Secret . “Roedd Kubrick yn daer iawn am y gwaith,” meddai Harris. “Dwi’n credu bod ganddo lawer iawn o feddwl o Stefan Zweig fel awdur.”

Fe gomisiynodd Kubrick y nofelydd o Greenwich Village, Calder Willingham, i ysgrifennu sgript ar gyfer y ffilm. Byddai Willingham yn mynd ymlaen yn ddiweddarach i weithio ar y sgript ffilm i Paths of Glory yn 1957.

Bu Kubrick yn gweithio ar yr addasiad gyda Willingham ac, yn ôl Harris, “fe gymerodd gryn amser i ddatblygu sgript y Burning Secret.”

“Mae sgript ffilm The Burning Secret yn rhoi golwg gynnar ar y ffordd y cyfieithodd Kubrick idiom fin-de-siècle Awstriadd i un Americanaidd cyfoes,” meddai Nathan Abrams.

“Wrth adleoli’r digwyddiadau i westy yn America mae’n rhagfynegi ei ffilmiau diweddarach, Lolita a The Shining.  Ond yr hyn mae’n ei wneud yn amlwg iawn yw rhoi’r templed i’w ffilm olaf, Eyes Wide Shut, yn arbennig o ran i chefndir Awstriaidd-Iddewig a’r sylw y mae’n ei roi i briodas, ffyddlondeb mewn priodas, godineb a rhywioldeb.

“Mae’r barwn suave, sy’n dod yn Americanwr sy’n gwerthu yswiriant, yn sicr yn fodel cynnar i Victor Ziegler a Sandor Szavost yn Eyes Wide Shut.”

Wnaeth y project erioed gael ei wireddu gan i MGM, y stiwdio yr oedd Kubrick yn gweithio iddi ar y pryd, ei ganslo.  Byddai fersiwn o’r nofelig, ond wedi’i seilio ar sgript ffilm wahanol, yn cael ei gwneud drachefn gan Andrew Birkin, cynorthwywr Kubrick, yn 1988.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.