Support our Nation today - please donate here
Culture

Mae angen yr hyder arnom ni i greu ffilmiau Cymraeg a’u gwerthu ledled y byd

03 Mar 2019 5 minute read
Y Llyfrgell (2016), ffilm sy’n addasiad o nofel Fflur Dafydd a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Benjiman Angwin

Gyda llai o siaradwyr na’r Gymraeg – tua 300,000 – mae Llywodraeth Gwlad yr Iâ’n ariannu 12 ffilm y flwyddyn yn Islandeg.

Mae cannoedd o ffilmiau wedi’u cynhyrchu yn Islandeg, ond mae llai na 30 o ffilmiau’n bodoli yn yr iaith Gymraeg.

Mae’n swm pitw ac yn embaras a dweud gwir, a gall Cymru wneud yn llawer gwell na hyn.

Yn 2003, sefydlwyd Kvikmyndamiðstöð Íslands (Canolfan Ffilmiau Gwlad yr Iâ) gan Lywodraeth Gwlad yr Iâ i hyrwyddo ffilm yn yr iaith Islandeg.

Cymerodd le’r hen Gronfa Ffilmiau a sefydlwyd yn 1979 a sianelu egni creadigol cymunedau’r ynys drwy hybu gweithdai ledled Gwlad yr Iâ.

Mae Kvikmyndaiđstöđ Îslands yn defnyddio lleoliadau sy’n debyg iawn i adeiladau sy’n bodoli ledled Cymru yn barod. Lleoedd fel Clwyd Theatr Cymru (Yr Wyddgrug), Chapter (Caerdydd), Pontio (Bangor), Canolfan Soar (Merthyr Tudful), CellB (Blaenau Ffestinog), Theatr Mwldan (Aberteifi).

Ym mhob un o’r lleoedd hyn, mae canolfannau addysg wrth law boed prifysgol neu goleg yn y dref y gellid eu defnyddio ar gyfer creu to o gyfarwyddwyr ffilm Cymraeg.

Canolbwyntiodd Kvikmyndaiđstöđ Îslands i ddechrau ar greu to newydd o gyfarwyddwyr ffilm drwy gyfrwng yr Islandeg. Dim actorion, ond cyfarwyddwyr, pobl sy’n creu a hyrwyddo stori.

Mae Cymru’n enwog am ei hactorion, ond beth sydd wir ei angen er mwyn creu diwydiant ffilm frodorol yw cyfarwyddwyr ifanc a mentrus.

Mae Basgeg wedi cynhyrchu ffilmiau yn y degawd diwethaf fel Loreak (Blodau) sy wedi ennill 4 gwobr. Ond y peth pwysicaf mae ffilmiau o’r fath wedi ei roi i Wlad y Basg yw swyddi, boed ar gyfer actorion neu ddosbarthwyr a hyrwyddwyr.

Gŵyr Caerdydd, Llanelli a Chaernarfon a Bangor pa mor bwysig mae diwydiant y cyfryngau wedi bod o ran yr economi a chreu gobaith o ffyniant.

Mae dangosiad ffilm yn creu swyddi, ac mae swyddi’n creu arian drwy bobl yn prynu a gwerthu, ac mae hyn yn creu mwy o swyddi.

Mae datblygiadau technolegol yn creu cyfleoedd newydd hefyd. Gyda dyfeisiadau fel gwas y glas (drone) a llwyfannau fel YouTube gall unrhyw wlad o fwy na 300,000 o bobl greu diwydiant ffilm yn eu hiaith ei hunan gydag ugeiniau o ffilmiau’r flwyddyn.

Mae gan Gymru fwy o siaradwyr a gwell isadeiledd na Gwlad yr Iâ ar gyfer diwydiant ffilm yn barod. Yr unig beth sydd ei angen bellach yw’r ewyllys i’w wneud.

Straeon

Efallai mi’r hyn sydd yn dal Cymru yn ôl yw’r gred na fydd pobol o amgylch y byd eisiau gwylio ffilmiau yn Gymraeg.

Yn hynny o beth mae’r hen sydd gyda ni nad yw’r Gymraeg rywsut gystal ag ieithoedd eraill y byd yn ein dal ni’n ôl.

Mae yna farchnad ar gyfer ffilmiau a chyfresi mewn ieithoedd brodorol o amgylch y byd.

Mae cwmnïau fel Netflix yn eiddgar dros ben i fuddsoddi mewn marchnadoedd newydd, mewn ieithoedd newydd.

Mae The Girl Wtih the Dragon Tattoo yn ffilm Swedaidd, ac mae cyfres arbennig 1983 yn yr iaith Bwyleg.

Oherwydd mae’r iaith Gymraeg mor unigryw, bod Cymru’n gallu gwerthu’r peth am bris uwch na Saesneg oherwydd does neb arall yn gallu creu ffilmiau Cymraeg.

Dw i’n dod o America ac mae gen i ffrindiau ledled y byd, ac yn gwybod fod yna farchnad ar gyfer ffilmiau da yn y Gymraeg os ydyn nhw’n cael eu gwerthu’n iawn.

Mae geiriau fel British, Britain, the Britons, Prydain hyd yn oed,  yn atseinio ledled y byd â chymeriad a chwedleuon.

Faint o arian fyddai ffilm am Myrddin o safon yn y Gymraeg yn gwerthu yn America? Byddai’n dod â miliynau o bunnau i Gymru.

Pam? Oherwydd bod y Gymraeg, beth bynnag sefyllfa gyfansoddiadol Cymru, yn ‘the language of the native Britons/British’. Ac mae hynny’n werth bwcedi a bwcedi o arian.

Mae Siapan yn cymryd mantais ar hudoliaeth y diwylliant Cymraeg yn barod, â’r gêm gyfrifiadur ‘Mabinogi’.

Ond Cymru ddylai fod y wlad sy’n defnyddio’r enw hwnnw i wneud arian a hybu cwmnïau a chreu cyfalaf ar gyfer ei phobl.

Does dim gwlad arall sy’n gallu creu straeon am hanes ynys sydd wedi swyno’r byd, o safbwynt pobl frodorol yr ynys.

Bydd y byd yn llyncu straeon o ‘The Britons’ yn eu hiaith nhw fel dadas. Wedi’r cyfan, mae’n anodd credu nad yw stori’r Brenin Arthur wedi cael ei dangos yn y Gymraeg mewn sinemâu. Mae yn union fel petai Robin Hood erioed wedi cael ei sgrinio’n rhyngwladol yn Saesneg.

Ac os yw cynulleidfaoedd ar draws y byd yn gwylio ffilmiau Cymraeg, bydd y llif o bobl sy’n dod i Gymru fel y gwnes i eisiau dysgu’r iaith yn troi’n ffrwd egnïol.

Dw i’n galw ar yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, i drafod efelychu diwydiant ffilm Gwlad yr Iâ yn ein Senedd.

I’m from America, I know, this would sell like pancakes.


Support Nation.Cymru’s work? We’re looking for just 600 people to donate £2 a month to sponsor investigative journalism in Wales. Donate now!


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.