Support our Nation today - please donate here
News

Digwyddiadau Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

02 Aug 2018 3 minute read
Y Llannerch Gudd ar faes yr Eisteddfod 2018

Fe fydd sgyrsiau am annibyniaeth, y cyfryngau yng Nghymru, a ffuglen ffantasi a gwyddonias ymysg arlwy Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd y sgyrsiau yn digwydd yn y Llannerch Gudd am 2pm ar ddyddiau Sadwrn, 4 Awst, Mawrth, 7 Awst a Gwener, 10 Awst.

“Dyma’r tro cyntaf i Nation.Cymru gynnal digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gobeithio y bydd yn fodd o gyrraedd cynulleidfa newydd,” meddai golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones.

“Mae croeso i bawb i’r digwyddiadau hyn ac rydym yn gobeithio cynnwys cynifer o leisiau a phosib, gan roi llwyfan i’r drafodaeth frwd sydd wedi mynd rhagddo ar y safle dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Democrataidd

Ar ddydd Sadwrn fe fydd panel yn trafod ‘Y Diffyg Democrataidd yng Nghymru: Sut mae cynnal diddordeb y cyhoedd?’

Ymysg y pynciau trafod fydd sut y gall newyddiadurwyr, pleidiau gwleidyddol, y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wneud rhagor i ddod a newyddion am wleidyddiaeth Cymru i sylw’r genedl.

Yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd:

  • Aled ap Dafydd, gohebydd gwleidyddol gyda BBC Cymru
  • Mared Ifan gohebydd Golwg a Golwg360 yn y Senedd
  • Fflur Arwel o dîm cyfathrebu Plaid Cymru
  • Gareth Hughes, y newyddiadurwr gwleidyddol ffrilans profiadol

Fe fydd Ifan Morgan Jones, golygydd Nation.Cymru, yn holi’r cwestiynau, a bydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.

Gwyddonias

Ar y dydd Mawrth fe fydd sgwrs am lenyddiaeth ffantasi a gwyddonias yn y Gymraeg, gyda’r awduron Elidir Jones, Meilyr Sion, Rhiannon Williams ac Ifan Morgan Jones – pob un ohonynt wedi ac/neu yn ysgrifennu nofel ffantasi neu wyddonias.

Fe fyddant yn trafod pam fod llenyddiaeth ffantasi yn tueddu i gael ei ystyried yn eilradd yn y Gymraeg, pam bod braidd dim llenyddiaeth gwyddonias o gwbl, a hefyd a oes rhaid ysgrifennu am Gymru wrth weithio o fewn o genres rhain?

Annibyniaeth

Ddydd Gwener bydd cyfle i drafod ‘Annibyniaeth: Y Ffordd Ymlaen’, pwnc trafod sydd yn denu sylw cynyddol yn sgil Brexit, twf Yes Cymru, a’r sgarmesoedd arweinyddol ymysg y prif bleidiau yng Nghymru.

Yn cyfrannu at y sgwrs fe fydd:

  • Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru
  • Catrin Dafydd, awdur nofel Gwales sy’n trafod annibyniaeth
  • Iestyn ap Rhobert, cadeirydd Yes Cymru

Fe fydd golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, yn eu holi. Unwaith eto fe fydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.