Support our Nation today - please donate here
Opinion

Bydd y Cymro yn dychwelyd yn fuan

27 Nov 2017 2 minute read

Wyn Williams

Mae’n bleser gallu cyhoeddi bod cais Cyfeillion y Cymro am arian cyhoeddus ar gyfer ail-lansio Y Cymro wedi bod yn lwyddiant.

Bydd datganiad llawn i ddilyn ar y cyd gyda Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae’n braf cael blogio am hyn fan hyn gan fod y gwefan wedi bod yn dipyn o ysbrydoliaeth i Gyfeillion Y Cymro; grwp cymunedol o bobl yn dod at ei gilydd er mwyn un nod.

Does dim modd i ail-adrodd yr holl hanes fan hyn, ond yn y bôn roedd fy ngwaith ar ran Cynghrair Cymunedau Cymraeg ar ymgyrch #CaruS4C yn ddigon amlwg wedi arwain at geisio achub Y Cymro’ ein hunig bapur newydd Cymraeg.

Meddai Ceridwen Lloyd-Morgan, aelod o bwyllgor Cynghrair Cymunedau Cymraeg:

“Newyddion ardderchog yn wir, i godi calon mewn cyfnod cythryblus!”

Sgiliau

Roedd cydlynu Cyfeillion Y Cymro yn un o brosiectau Un Wlad, Dwy Iaith, sydd wedi ei ariannu gan Arian i Bawb.

Nod Un Wlad, Dwy Iaith yw helpu grwpiau cymunedol Cymreig i weithredu eu prosiectau gwirfoddol a hunan-gymorth.

A drwy hynny, gynyddu sgiliau a chreadigrwydd ein gwlad drwy gefnogi gweithgareddau sy’n helpu ennyn hunan-hyder.

Bwriad y prosiect oedd integreiddio cymunedau wrth uno pobl o wahanol oed, profiadau neu gefndir a diwylliant a hyrwyddo dulliau newydd o weithio i bobl ifanc.

Roedd ein hymweliad diweddar i Goleg Merthyr wedi llwyddo i wneud hyn wrth i’r cynhyrchydd teledu Iwan England arwain sesiwn ar fanteision y Gymraeg yn y gweithle.

Fe gymrodd Iwan ei hun ysbrydoliaeth o blog Bethan Phillips ar y gwefan yma  – nation building yn wir!

Gobeithiwn rannu nifer o gyfweliadau gyda’r criw ifanc cyn hir, gyda sêr Cymreig y dyfodol yn esbonio beth ddysgon nhw am fanteision dwyieithrwydd trwy’r gweithdy.

Trwy annog mwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn grwpiau a phrosiectau lleol gallwn estyn mynediad a chyfranogiad, yn arbennig ble mae yna’r cyfle i gael pobl ifanc i weithio gyda’u grwpiau cymunedol, ac yn fwyaf arbennig ble bod y bobl ifanc yn meddu ar sgiliau ieithyddol sydd yn ddwyieithog.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

3 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
sianiflewog
sianiflewog
6 years ago

A dyma un berson na fydd byth darllen y ‘Cymro Newydd’. I mi, yr oedd yr hen ‘Gymro’ wedi’i ddyddio’n aruthrol. Yr oedd yn adlewyrchu popeth a oedd y gwaethaf am gymdeithas gul, capelaidd, nawddoglyd Cymru’r 1930’au. Heblaw, am Will Thomas trafod y blew yn ei fogail, nid oedd dim i mi erioed wedi bod o ddiddordeb i mi yn y Cymro plwyfol. Nid ydy enw’r ddarn o bapur yn addas i’r oes cyfoes: beth am yr holl Gymraesau? A safon deunydd bratiog, tenau,,gwael, a chybyddlyd y ddarn o bapur: nid oedd yn deilwng at berwylion glanhau’r tin. Mae defnyddio… Read more »

JD
JD
6 years ago

Cytuno’n llwyr, sianiflewog! Roedd yna reswm pam aeth hi i’r wal.

daffy2012
6 years ago

Pob lwc i’r Cymro

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.