Support our Nation today - please donate here
Opinion

Cwestiynau i’r Cymro

28 Nov 2017 6 minute read
Arwydd Cyfeillion y Cymro

Ifan Morgan Jones

Bydd y Cymro yn cael ei atgyfodi ym mis Mawrth 2018, wedi i’r Cyngor Llyfrau gefnogi cais Cyfeillion y Cymro a darparu £13,500 i’w ail-sefydlu.

Fe fydd yna £18,000 ychwanegol ar ôl mis Mawrth i gadw’r papur ar ei draed am flwyddyn arall.

Trosglwyddiad yw hwn o’r grant a neilltuwyd ar gyfer cyhoeddi’r Cymro dan oruchwyliaeth Grŵp Tindle am weddill cyfnod y tendr presennol, felly ni fydd unrhyw un yn colli arian fel bod y Cymro yn cael byw.

Rydw i’n credu bod atgyfodiad y Cymro yn newyddion da. Ond ar yr un pryd rydw i’n ymwybodol bod sawl her yn wynebu’r cyhoeddwyr os yw’r fenter am fod yn llwyddiant.

Y meini prawf ar gyfer unrhyw wariant cyhoeddus ar newyddiaduraeth Cymraeg, yn fy marn i, yw:

  • A yw’n atgyfnerthu’r iaith Gymraeg?
  • A yw’n datblygu’r sffêr gyhoeddus yng Nghymru?
  • A yw’n hybu newyddiaduraeth ymchwiliadol a fydd y dal ein sefydliadau cenedlaethol i gyfrif?

Wrth gwrs, mae’r gwariant ar y Cymro yn ticio bob un o’r blychau i ryw raddau, ond y cwestiwn yma yw ai dyma’r defnydd gorau posib y gellid ei wneud o’r arian.

Felly dyma ystyried bob un o’r meini prawf hyn yn eu tro.

Yr iaith Gymraeg

Mae dyfodol yr iaith yn nwylo’r rheini sydd tua 18-40 oed ar hyn o bryd.

Hyd at 18 oed does gan bobl ifanc ddim llawer o ddewis pa iaith y maent yn ei siarad adref, ond tu hwnt i hynny rhaid iddynt wneud dewis ymwybodol i’w defnyddio.

Fe fyddant yn penderfynu a ydynt am ymgartrefu mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith – mae ymlyniad at yr iaith yn gwneud hynny’n fwy tebygol.

Fe fyddant yn sefydlu eu cartrefi eu hunain ac yn penderfynu ar iaith yr aelwyd.

Dyma’r oed hefyd y bydd nifer yn cael plant ac yn penderfynu a ydyn nhw am drosglwyddo eu hiaith iddyn nhw.

Os yw’r iaith Gymraeg am barhau, felly, rhaid targedu’r oed yma “like a laser,” chwedl Bll Clinton.

Y cwestiwn cyntaf allweddol i Gyfeillion y Cymro yw, sut y maen nhw’n mynd i ddarparu cynnwys sy’n mynd i apelio at y genhedlaeth yma?

Bydd yn her ychwanegol o ystyried bod y cyfrwng, ynddo’i hunan, yn un sy’n debygol o olygu nad yw pobl dan 50 yn rhoi llawer o ystyriaeth iddo yn y lle cyntaf.

Mae pobl ifanc 18-34 oed yn cael 74% o’u newyddion o’r rhyngrwyd, a braidd dim o bapurau newydd.

Her #1: Er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ymddangos o dan drwynau pobl ifanc, felly, bydd rhaid darparu gwasanaeth perthnasol drwy gyfrwng digidol.

Newyddiaduraeth Cymraeg

Mae yna heriau hefyd wrth gwrdd â’r ail a’r trydydd o’r meini prawf, sef datblygu’r sffêr gyhoeddus yng Nghymru a dal sefydliadau cenedlaethol i gyfrif:

  • Ydi £18,000 y flwyddyn yn ddigon o arian er mwyn cynhyrchu papur newydd sy’n darparu newyddiaduraeth ymchwiliadol o safon?
  • Os na, ac mewn oes pan mae’r gynulleidfa yn gynyddol droi at y rhyngrwyd, a oes modd cyfiawnhau cyhoeddi papur newydd – gan gofio y bydd llawer iawn o’r draul yn mynd ar bapur, inc a dosbarthu?

Mae newyddiaduraeth o safon yn gostus iawn. Pan oeddwn i’n olygydd Golwg 360, a hyd yn oedd gyda tri neu bedwar o newyddiadurwyr ar y tîm, roedden ni’n aml iawn yn ei chael hi’n anodd cael yr amser i fynd ar ôl straeon mewn dyfnder mawr.

Dyw £18,000 ddim yn ddigon i gyflogi un newyddiadurwr profiadol, hyd yn oed pe na bai yna unrhyw gostau eraill ynghlwm.

Does dim ond angen edrych ar y Cymro fel ag yr oedd cyn cau i weld nad yw gwariant o’r fath yn ddigonol.

Y tu hwnt i’r colofnau, oedd yn sicr werth eu darllen, ychydig iawn o newyddion oedd ynddo. Un neu ddwy stori wreiddiol yr wythnos, fel arfer.

Roedd y gweddill yn ddatganiadau i’r wasg wedi eu copïo a’u gludo. Roeddwn i’n gwybod hynny, am fy mod i hefyd yn derbyn yr un datganiadau.

Nid bai’r Cymro oedd hynny ond sgil-effaith anochel sefyllfa lle’r oedd dim ond ychydig gannoedd yn weddill i’w wario ar newyddiaduraeth bob wythnos.

Her #2: Er mwyn gallu cynhyrchu newyddiaduraeth ymchwiliadol o safon, felly, bydd rhaid i’r Cymro ddenu cyllideb bellach o rywle – hysbysebion neu grantiau.

Ffug blwraliaeth?

Rhaid cyfaddef, pan gaeodd y Cymro yn gynharach eleni, roeddwn i’n drist, ond hefyd yn teimlo efallai ei fod wedi cyrraedd diwedd ei fywyd naturiol.

Wedi’r cwbl, mae nifer o bapurau newydd llawer mwy o faint yn wynebu cau dros y blynyddoedd nesaf.

Mae yna newid technolegol sylfaenol yn mynd rhagddo. Yn yr hinsawdd bresennol, nid arwydd o ddirywiad yr iaith oedd cau’r Cymro ond dirywiad y cyfrwng.

Y peryg drwy ei adfywio yw ei fod yn fath o sombi, yn dal i fynd ond yn colli perthnasedd a darllenwyr, ac yn llyncu arian y gellid ei wario’n fwy effeithiol rywle arall.

Mae yna gwestiwn sylfaenol fan hyn, felly, ynglŷn â’r modd y mae’r Cyngor Llyfrau yn dewis buddsoddi arian ar newyddiaduraeth Cymraeg.

A yw’n well :

  1. cael nifer fawr o gyhoeddiadau gyda chyllidebau bychain, neu
  2. ychydig bach o gyhoeddiadau gyda chyllidebau dipyn yn fwy?

Rydw i’n tueddu i ffafrio’r ail ddewis.

Y peryg drwy ochri â’r cyntaf yw bod yna ‘ffug blwraliaeth’ lle mae yna nifer o ffynonellau newyddion yn y Gymraeg ond, oherwydd diffyg adnoddau, maent oll yn cynnig gwasanaeth newyddion tebyg ac/neu arwynebol.

Dyw hyn, wrth gwrs, ddim yn golygu na all y Cymro ddarparu persbectif newydd ar newyddion y dydd. Ond bydd rhai brwydro’n galed i wneud hynny ggydag adnoddau prin.

Her #3: A’r her fwyaf, i’r Cymro, felly – darparu rhywbeth gwahanol, i’r hyn a welwyd gan y papur o’r blaen a’r hyn y mae gweddill y wasg, yn Gymraeg a Saesneg, yn ei ddarparu.

Casgliad

Nid y nod yma yw bod yn negyddol ac yn wrthwynebus i’r Cymro – rydw i am i’r fenter newydd lwyddo ac yn dymuno pob bendith iddynt wrth ymgymryd â’r dasg.

Rwy’n gwybod bod tîm llawn syniadau y tu cefn i’r papur. Os all unrhyw un wneud llwyddiant ohono, mi wnan nhw.

Yr hyn ydw i’n bwriadu ei wneud yma, fel rhywun sy’n cymryd diddordeb mawr yn hynt newyddiaduraeth Cymraeg, yw helpu fel y galla i wrth gynnig darlun gonest o’r heriau o’u blaenau nhw.

Nid yw papurau yn werth eu cael yn eu hunain – mae cannoedd o bapurau wedi mynd a dod yn y Gymraeg (gan gynnwys sawl Cymro, erbyn meddwl).

Gwerth papur newydd yn y Gymraeg yw’r hyn y mae’n ei gyflawni dros ein hiaith a’n cenedl.

Dyma obeithio felly y bydd y Cymro yn mynd i’r afael a’r heriau hyn. Ni fydd parhad o’r hen Gymro yn unig yn gwneud y tro.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

4 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Coch-y-bonddu
Coch-y-bonddu
6 years ago

Cytuno’n llwyr. Pob lwc i Gyfeillion Y Cymro. Dwi’n edrych ymlaen yn frwd at ei gefnogi unwaith eto.

Petroc
Petroc
6 years ago

Erthygl da ar fater o bwys mawr ond rhaid sylwi bod y Cymro oedd yr unig papur newydd yn y gymraeg, nid un ymhlith nifer, ac mi gollon ni Taliesin a Tu Chwith heb gael eFersiwn digonol i gymryd lle. Roeddwn i’n darllen y Cymro arlein yn unig, doedd y fersiwn papur ddim yn cadw yn dda ar y silff. Mae Nation Cymru wedi neud gwaith rhagorol efo newyddion glweidyddol ac pynciau mawr y dydd ers ei sefydlu, a Gwerddon yn enghraifft o e-bapur pwnc sy’ n llenwi bwlch mawr yn ieithwedd gwyddonol y Cymry. Felly beth am gael gwerth… Read more »

Huw
Huw
6 years ago

Mae her 1 a 3 i weld yn ddigon teg, ond mae her 2 yn gofyn o’r Cymro rhywbeth nad ydym yn gweld braidd dim ohoni gan ffynonnellau gyda llawer iawn mwy o bres…

sianiflewog
sianiflewog
6 years ago

Ifan – diolch am ddatansoddiad o’r elfennau sydd angen i wneud i unrhyw ‘Cymro’ newydd llwyddo. Ac er eich geiriau teg, nid ydych chi’n rhagweld yr hen bapur i lwyddo. Diolch byth, mae dyddiau’r he bapur ‘na wedi mynd heibio. Paham dylai rywun darllen cyhoeddiad gan y dylan nhw? Does dim byd gwaith. Tydwyf ddim yn gwrando llawer ar Radio Cymru am yr un rheswm: dim yn adlewyrchu fy niddordebau. Mae rhyw griw o hen gnecs sydd yn byw mewn byd na sy’n bodoli pellach eisiau atgyfodi’r teimlad eu bod nhw’n Gymry trwyddi draw gan eu bod nhw’n darllen yr… Read more »

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.