Support our Nation today - please donate here
Opinion

Pam rwy’n brwydro am ddyfodol teg a bywiog i bobl Dwyfor Meirionnydd

22 Jun 2019 7 minute read
Former Plaid Cymru MPs Elfyn Llwyd and Dafydd Wigley wiith Nia Jeffreys

*Saesneg yn dilyn oddi tanddo / English follows below*

Nia Jeffreys, ymgeisydd ar gyfer enwebiad Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd

Rwyf am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae gan Blaid Cymru y weledigaeth, egni a’r grym i greu newid yng Nghymru ac fel AC mi fyddai’n arwain newid cadarnhaol i bobl Dwyfor Meirionnydd.

Mae gennyf brofiad Cynghorydd Cyngor Gwynedd ac aelod o’r Cabinet o rhoi polisïau a gwerthoedd Plaid ar waith. Yn ddiweddar, cyflwynais argymhelliad i’r cyngor llawn ar godi cyflog 2,000 o weithwyr cyngor oedd ar y cyflog isaf.

Ers i’r enwebiadau agor, rwyf wedi teithio ar draws yr etholaeth yn siarad â phobl. Maent yn poeni am y gwasanaeth iechyd, yr iaith Gymraeg, swyddi, tai, amaethyddiaeth ac addysg.

Mae addysg yn ganolog i hanes fy mywyd. Rwyf yn ei werthfawrogi oherwydd gwn, o brofiad personol, fod addysg dda yn dod â chyfleoedd a bywyd gwell.

Dyna oedd neges a chri fy rhieni i mi o’m plentyndod, i fod y cyntaf o’m nheulu i fynd i’r brifysgol, i weithio yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn y Cynulliad Cenedlaethol, i brynu fy nhŷ cyntaf, i fod yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol ar elusen iechyd ac i ddychwelyd adref i fagu fy mhlant.

Mae’n rhaid i addysg yng Nghymru fod o safon fyd-eang, yn arloesol ac yn rhoi’r sgiliau iawn i’n pobl ifanc fel y gallant aros a ffynnu yma neu ffynnu yn unrhyw le yn y byd, gan wybod bob amser y gallant ddod adref i swydd dda.

Dyma’r addysg rwyf am ei chael i’m plant – mae’r ddau ohonynt yn mynychu ysgolion lleol – a dyma’r addysg mae pob plentyn yn Nwyfor Meirionnydd yn ei haeddu. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi torri cyllidebau addysg i’n hysgolion yn ddidrugaredd ac yn anonest, ac ni all hyn barhau.

Onid yw cael llyfrau ac adnoddau ar gael yn Gymraeg yn hawl sylfaenol? Mae’r ffaith nad ydynt ar gael mewn pryd yn warth ac yn symptom o agwedd ddiystyriol Llywodraeth bresennol Cymru at anghenion myfyrwyr ac athrawon Cymraeg eu hiaith.

Mae Sian Gwenllian AC wedi gafael ar y cyfle gyda’r cwricwlwm newydd i addysgu ein plant am hanes Cymru.  Mae’n rhaid darparu adnoddau priodol ar gyfer hyn er mwyn i’n pobl ifanc deimlo’n falch o’u hunain ac o ble maent yn dod.

Ni ddylem anghofio ychwaith bod gan ein plant a’n pobl ifanc lawer i’w ddysgu i ni hefyd. Mae’r argyfwng newid hinsawdd yn un maes lle maen nhw’n arwain y ffordd ac yn mynnu newid. Rhaid i ni wrando ar ein pobl ifanc a gweithio gyda’n gilydd i gyflawni newidiadau ymarferol fel mwy o bywntiau i geir trydan yn Cymru wledig.

Mae hyfforddiant galwedigaethol ymarferol yn bwysig er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau. Mae arnom angen mwy o beirianwyr, adeiladwyr a thowyr i dyfu ein heconomi ar lawr gwlad. Sicrheais £300,000 ar gyfer rhaglen brentisiaeth yng Ngwynedd. Bydd hyn yn helpu pobl ifanc dalentog i aros yn yr ardal a rhoi cyfle iddynt ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda’n cyfran deg o’r ardoll prentisiaethau gallem wneud cymaint mwy.

Rwyf yn deall problemau pobl ifanc yn gadael yr ardal i ddod o hyd i waith, oherwydd yr oedd fy ffrindiau, fy nheulu a minnau yn eu hwynebu hefyd.  Mae hyder yn allweddol yma – dim ond rhan o’r ateb yw mewnfuddsoddi neu swyddi yn y sector cyhoeddus. Rhaid inni feithrin hyder a swyddi yn ein busnesau cynhenid ein hunain, mewn amaethyddiaeth ac mewn mentrau cymunedol. Mae’r swyddi hyn wedi’u gwreiddio yma ac ni chânt eu colli oherwydd amrywiadau mewn marchnadoedd byd-eang neu fympwyon Llywodraethau Llundain.

Mae pobl Dwyfor Meirionnydd yn ganolog i bopeth rwyf yn ei wneud – dysgodd fy magwraeth yma bwysigrwydd gweithio’n galed, helpu eraill a chydweithio – dyma’r gwerthoedd sy’n fy arwain. Gwelaf ddyfodol hyderus, teg a bywiog i bobl Dwyfor Meirionnydd – a dyma’r un y byddaf yn gweithio’n  ddiflino i’w gyflawni.


I want to make a difference to people’s lives. Plaid Cymru has the vision, energy and the power to create change in Wales and as AM I would lead positive change for the people of Dwyfor Meirionnydd.

I have the experience as a Gwynedd Councillor and Cabinet member of putting Plaid policies and values into action. I recently presented to full council a pay increase for 2,000 of the lowest paid council workers.

Since nominations opened, I have travelled across the constituency talking to people. They are worried about the health service, the Welsh language, jobs, housing, agriculture and education.

Education is central to my life story. I value it because I know, from personal experience, that a good education brings opportunities and a better life.

My parents drummed this into me – from my childhood, to being the first from my family to go to university, to working in the House of Commons and the National Assembly, to buying my first house, being national director of a health charity and returning  home to bring up my children.

Education in Wales must be world class, innovative and equip our young people with the right skills so that they can stay and flourish here or thrive anywhere in the world, always knowing that they can come home to a good job.

This is the education I want for my children – both of whom attend schools in Porthmadog – and the education every child in Dwyfor Meirionnydd deserves. To achieve this, we must invest for the future. The current Welsh Government has mercilessly and dishonestly cut education budgets to our schools, this cannot continue.

It is surely a basic right to have books and resources available in Welsh. That they are not available in time is a scandal and symptom of the current Welsh Government’s dismissive attitude to the needs of Welsh speaking students and teachers.

Sian Gwenllian AM has seized the opportunity with the new curriculum to guarantee that our children learn about our Welsh history. This must be resourced properly so that our young people feel proud of themselves and where they come from.

We should not forget that our children and young people have a lot to teach us too. The climate crisis is just one area where they led the way and demanded action. Let’s work with them to find practical solutions, like electric charging points in rural Wales, to the crisis that faces us.

Practical vocational training is important – there is a skills gap. We need more engineers, builders and roofers to grow our economy from the grassroots up. I secured £300,000 for an apprenticeship programme in Gwynedd; this will help talented youngsters to stay in the area and give them a chance to learn through the medium of Welsh. With our fair share of the apprenticeship levy we could do so much more.

I understand the problems of young people leaving the area to find work, because my friends, family and I faced them too.  Confidence is key here – inward investment or public sector jobs are only a part of the answer. We must grow confidence and jobs in our own homegrown businesses, in agriculture and in community enterprises. These jobs are rooted here and will not be lost due to fluctuations in global markets or the whims of London governments.

The people of Dwyfor Meirionnydd are at the heart of all I do – my upbringing here taught me the importance of working hard, of helping others and of collaboration – these are the values that guide me. A fair, confident and vibrant Dwyfor Meirionnydd is the future I see for our people – and the one I work tirelessly to deliver.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.