Sgwrs fideo: Etholiad 2021 – Beth i’w ddisgwyl gyda blwyddyn i fynd?
Gydag ychydig llai na blwyddyn i fynd nes Etholiad Senedd 2021, beth yw cyflwr y prif bleidiau, pa ganlyniad allen nhw obeithio amdano a pha bynciau llosg sy’n debygol o ddylanwadu ar y ras?
Yn ymuno â’r sgwrs mae rhai o’r unigolion rheini sydd wedi cyfrannu’r erthyglau mwyaf heriol a diddorol ar gyfer Nation.Cymru dros y blynyddoedd diwethaf:
- Leena Farhat, sydd yn ymgeisydd ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ac yn swyddog ymgyrchu gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol Ifanc yng Nghymru.
- Daran Hill, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Positif, cwmni materion cyhoeddus mwyaf Cymru.
- Huw Williams, Uwch Ddarlithydd mewn athroniaeth gwleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac aelod blaenllaw o’r grŵp Llafur dros Gymru Annibynnol.
- Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd.
Beth sydd angen i’r Ceidwadwyr ei wneud er mwyn ad-ennill eu lle ar y blaen yn y polau piniwn? A ydi hi ar ben i obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru? Pa effaith gaiff yr ymwybyddiaeth ehangach o ddatganoli yn sgil Covid-19 ar y Blaid Lafur? Pam nad ydi Plaid Cymru yn gallu torri y tu hwnt i’w cadarnle gorllewinol?
Trafodir rhai o’r cwestiynau hyn, a rhagor, yn rhan o’r sgwrs sy’n rhan o arlwy yr Eisteddfod AmGen.
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.