Support our Nation today - please donate here
Opinion

Vergangenheitsbewältigung a phechodau’r gorffennol

23 Aug 2017 3 minute read
Llun gan Orator (CC BY-SA 4.0)

 

Simon Chandler

Fe gyflwynwyd rhaglen addysgol newydd yn yr Almaen ar ôl yr Ail Ryfel Byd: sef, “Vergangenheitsbewältigung” sydd yn rhan o broses seicolegol ac yn golygu “dod i delerau â’r gorffennol” yn y Gymraeg.

Fel rhan o’r rhaglen hon, cafodd (a chaiff o hyd) plant ysgol yn yr Almaen eu haddysgu am yr Holocost. Yn ogystal, roedd (ac mae o hyd) yn orfodol iddyn nhw fynd ar deithiau ysgol i wersylloedd crynhoi i weld â’u llygaid eu hunain tystiolaeth o’r troseddau yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd gan eu hynafiaid, er mwyn sicrhau na fydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Yn anffodus, mae hanes wedi ailadrodd ei hun sawl gwaith yn y cyfamser (yn Serbia a Rwanda, er enghraifft), ond nid yn yr Almaen, sydd wedi dod yn wlad ofalgar a thrugarog, fel y dangosir gan ei thriniaeth o ffoaduriaid o Syria: yn rhannol oherwydd Vergangenheitsbewältigung, yn fy marn i.

Wrth gwrs, nid yr Almaen yw’r unig wlad sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth, fel y mae Cymru’n boenus o ymwybodol ohono.

Y gwir trist amdani yw ni wnaeth unrhyw wareiddiad fyth newid ei ymddygiad yn radical (yn hytrach na chymryd camau’n gymharol llai sylfaenol fel ailgylchu neu osod targedau newid hinsawdd) oherwydd pryderon rhagweithiol ac allgarol er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Naddo, mae hynny’n digwydd ond oherwydd cywilydd annioddefol yn wyneb pechodau’r hynafiaid: cywilydd sydd gen i’n ddirprwyol fel Sais.

Yn achos yr Almaen, achoswyd hynny gan ddatguddiad erchyllterau’r Holocost ynghyd â’r ffaith i’r Almaen golli’r Ail Ryfel Byd, fel ydym oll yn gwybod.

Mewn cyferbyniad, ni orfodwyd Prydain i ddod i delerau â’r erchyllterau masnachu caethweision Affricanaidd neu greulondeb trefedigaethol yn gyffredinol i’r un raddau.

Iawndal

Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Berlin yn y blynyddoedd diwethaf yn ymwybodol iawn o Gofeb y Holocost siŵr o fod.

Mae hi’n cwmpasu arwynebedd o bron i bump erw o dir drws nesaf i un o’r gwestai drutaf y ddinas (ble mae’r Frenhines yn aros yn ystod bob ymweliad, hyd y gwn).

Mae’r gofeb yn cynnwys 2,711 o lechi concrit enfawr, ac mae pob un ohonyn nhw’n symboleiddio nifer fawr o Iddewon wedi’u llofruddio.

A allwch chi ddychmygu cofeb ddirfawr i’r dioddefwyr trefedigaethiad Prydeinig ynghanol Llundain?

Allaf i ddim chwaith. Mae hynny’n broblem oherwydd bod heddiw nid yn unig yn blentyn ddoe ond hefyd yn dad yfory.

Mae rhan Cymru yn hyn yn gymhleth. Dyma wlad a chafodd ei gwladychu ond a oedd hefyd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwladychu ar ôl cael ei llyncu gan yr Ymerodraeth.

Felly, nid yn unig yn Lloegr y mae angen Vergangenheitsbewältigung.

Ond a fyddwn ni’n gweld Lloegr yn cydnabod bod Cymru’n drefedigaeth hefyd? Trefedigaeth a anrheithiwyd ei hadnoddau, a erydwyd ei hiaith a’i diwylliant, a’i phobl wedi’i gormesu ac anwybyddu; trefedigaeth sydd yn haeddu rhyw fath o iawndal sylweddol?

Sut y bydd Lloegr yn gallu gweld yr angen i newid ei bolisïau tuag at Gymru nes ei bod yn cydnabod camweddau’r gorffennol?

Mae hwnnw’n gwestiwn rhethregol, yn anffodus, oherwydd na fydd Lloegr fyth yn gosod Vergangenheitsbewältigung ar ei hun (neu gydnabod bod angen iddo hyd yn oed).

Yn lle hynny felly, bydd rhaid i’r Cymry ddysgu am (neu gofio) pob agwedd ar hanes ein gwlad ni – y da a’r drwg – ac wedyn cymryd ein tynged ni i’n dwylo ein hunain: mae hi’n hen bryd.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

24 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Dafydd ap Gwilym
6 years ago

Very interesting article and one that would be better in English so that it may reach a wider audience.

Even as a re-learner I couldn’t get the drift at all without translating through Google. I just hope others like me or those that only speak English persevere as I did to read somethine very appropriate!

Would be nice in future if the author includes Engllish or Welsh as the case may be!

Thank you for a very interesting article.

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago

Thank you for making the effort to read the article in Welsh and for commenting on it. I take your point about reaching a wider audience by writing in English, but my view is that it is also very important to normalise the use of Welsh as much as possible.

Capitalist and Welshnash
Capitalist and Welshnash
6 years ago

Dafydd ap Gwilym, I think the occasional article here in Cymraeg is a good thing. S4C’s biggest fault, as it were, is that all Cymraeg was taken off of English-medium channels and non-Welsh speakers were no longer exposed to Cymraeg as a normalised, televised medium, interwoven within their normal sphere of entertainment. That is wrong. About this article: Dwi’n meddwl bod dod â phlant mor ifainc i wersylloedd crynhoi yn niweidiol a chreulon yn seicolegol. Ddylai plant ddim yn gorfod gweld y fath o bethau; mae’n gallu creu creithiau seicolegol ar unigolion mor ifainc, sy’n anfoesol yn fy marn i.… Read more »

glasiad
glasiad
6 years ago

An “executive summary” in English should suffice. Beth bynnag, Mae “Vergangenheitsbewältigung” yn swnio fel “White Man’s Guilt” i fi. Does dim angen ‘dod i delerau â’r gorffennol’ dros y Gymry. Gad i ni edrych ymlaen at y dyfodol.

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago
Reply to  glasiad

Glasiad, mae hi’n ymwneud ag euogrwydd, yn sicr, ond nid â hil. Er fy mod i’n Sais, rydw i o blaid y Cymry’n gant y cant, ond pwy sydd yn gallu ei fforddio peidio â dysgu o wersi’r gorffennol, a phwy sydd yn hollol ddi-fai?

Desdelguinardo
Desdelguinardo
6 years ago
Reply to  glasiad

Os wyt ti’n meddwl bod dim angen i Gymru werthuso a siarad yn blaen am ein rôl yn trefedigaethu ac yn y fasnach gaethweision, mae’n well i ti ddarllen mwy o dy hanes.

Rhys
Rhys
6 years ago

Credaf ei fod yn gamarweiniol i fynegi bydd ‘Lloegr’ byth yn cydnabod troseddau’r ymerodraeth – y gwir fynegiad yw bydd ‘Prydain’ byth yn cydnabod troseddau’r ymerodraeth. Mae hwn yn wahaniaeth pwysig: tra bod Lloegr (fel yr Almaen) yn genedl naturiol, mae Prydain yn sefydliad rhyngwladol annaturiol. Fel sefydliad annaturiol, mae angen ar Brydain am ffeindio modd o gyfiawnhau bodolaeth ei hun. Ers y dechrau mae’r un cyfiawnhad wedi cael ei defnyddio eisoes: mae Prydain yn haeddu bodoli oherwydd ei fod yn WELL na gwledydd arall. Spiwch ar rethreg undebwyr a gallwch weld beth rwy’n cyfeirio at: mae hanes Prydain gwastad… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago
Reply to  Rhys

Rhys, roedd eich sylwadau chi’n ddiddorol iawn, a chytunaf â chi mewn sawl ystyr. Wedi dweud hynny, erys gwahaniaeth barn rhyngon ni, oherwydd na dderbyniaf fod yr erthygl yn gamarweiniol o gwbl. Yn fy marn i, mae Lloegr a Phrydain yn gyfystyr mewn rhai ffyrdd sylweddol. Gallaf ddweud wrthoch chi, er enghraifft, bod y ddau derm yn cael eu defnyddio’n ymgyfnewidiol yng nghyfryngau’r Almaen. Tasai Prydain yn gerbyd, byddai Lloegr y gyrrwr. Wedi’r cyfan, roedd yn rhaid i Nicola Sturgeon ofyn i Theresa May am ganiatâd i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Tasai Theresa May’n awyddus i wneud… Read more »

Eos Pengwern
Eos Pengwern
6 years ago

I gymharu gyda bron unrhyw wlad arall yn y byd, mae hanes yn Deyrnas Unedig yn weddol lân; er enghraifft, i gymharu gwledydd a oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Prydeinig gyda’r gwledydd oedd yn rhan o ymerodraeth unrhyw wlad Ewropeaidd arall, neu heb fod yn rhan o unrhyw ymerodraeth o gwbl, mae’r rhai Prydeinig yn edrych yn eitha da. Gwell yw byw yn Hong Kong, Singapore neu Botswana na Macau, y Philippines neu Ethiopia. Hyd yn oed wrth ystyried caethwasanaeth, bach iawn yw nifer y rhai a gludwyd dros yr Iwerydd gan y Prydeinwyr (trwy y swyddfeydd yn Boston ac… Read more »

DDOwen
6 years ago
Reply to  Eos Pengwern

Gellir dadlau bod arteithio un person nes ei bod yn farw yn well (rhywsut) nag arteithio dau berson, a bod arteithio dwy yn well na arteithio tri. Ond serch hynny, mae arteithio un person yn weithred ffiaidd, a ddylid condemnio unrhyw sy’n gwneud hynny. Mae’r un peth yn wir am gaethwasiaeth. Does dim ots o gwbl am y niferoedd wnaeth y YP gaethweisio, mae’r ffaith ei bod nhw wedi caethweisio o gwbl yn destun cywilydd. Fodd bynnag, wrth edrych ar ymddygiad y YP yn fanwl, mae’n anodd cynnal y cred taw’r ‘Ymerodraeth Neis’ ydoedd; mae’n llawn newynu trwy esgeulusid neu… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago
Reply to  Eos Pengwern

Eos Pengwern: Cytunaf yn llwyr â DDOwen, mae’n rhaid i fi ddweud. Dyw hanes y Deyrnas Gyfunol ddim “… yn weddol lân …” yn fy marn i. Mae dilyn ‘Crimes of Britain’ ar Trydar yn addysgiadol iawn yn hynny o beth!

Tame Frontiersman
Tame Frontiersman
6 years ago

Wrth son am Vergangenheitsbewältigung a’r Almaen: tybed a yw ei ysbryd yn cyffwrdd â phawb. Nid yw pawb yn yr Almaen yn cefnogi polisi llywodraeth Frau Merkel i agor eu drysau i ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol. Mae pleidiau asgell dde eithafol yn cael lefelau newydd o gefnogaeth ar draws Ewrop. Ni welai pawb yng Ngwlad Groeg ysbryd Vergangenheitsbewältigung ym mholisïau’r Almaen tuag atyn nhw ers 2009. A ydy’r Almaenwyr wedi anghofio effeithiau iawndaliadau arnynt hwythau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf? Yn rhy aml os dysgir gwersi hanes o gwbl y maen nhw’n brysur fynd yn angof. Wrth son am… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago

Tame Frontiersman: Diolch am eich sylwadau doethion. Rydw i’n edmygu’r Cymry’n fawr ac yn credu y byddai dyfodol disglair i Gymru annibynnol. Mae hynny’n ddigon positif, gobeithio, ond rydw i’n credu hefyd y gellir dod o hyd i’r allwedd i’r dyfodol dim ond wrth archwilio’r gorffennol. Gormes ac ecsbloetio: dyna ran sylweddol o hanes Cymru, yn anffodus, ond gellir gwneud rhywbeth positif ohoni. Mae’r cywilydd sydd arna i fel Sais oherwydd y gorffennol (ar ôl darllen ‘Aros Mae’) wedi newid fy mywyd a gwneud i fi ddysgu’r Gymraeg o ddifrif ac ymuno â Phlaid Cymru. Gallai ymdeimlad o ddicter oherwydd… Read more »

Robert Kerr
6 years ago

I cannot read or speak Welsh, my native tongue is English and I understand Scots. I used google translate and understood the author’s intent. Please do not offer an English translation. May I suggest a podcast in Welsh to assist any learners. There has recently been discussions here in Scotland re national guilt for slavery etc and purported comment by Reinhard Heidrich on subjugation of minorities, ““Deprive the people of their National Consciousness, treat them as a tribe and not a Nation, dilute their National pride, do not teach their history, propagate their language as inferior, imply they have a… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago
Reply to  Robert Kerr

That is extremely pertinent: thank you.

desdelguinardo
desdelguinardo
6 years ago

Braf gweld ychydig o safon ar y wefan hon. Diolch am dy erthygl.

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago
Reply to  desdelguinardo

Diolch o galon!

Dafydd ap Gwilym
6 years ago
Reply to  Simon Chandler

I am really confused, shocked and angry and can see clearly why so many monoglots fear our very own language when they should be encouraged to embrace it. Confused because: I am from a Welsh family, a Welsh speaking family, I grew up with Welsh and my family accepted non-Welsh speakers into the family with warmth, open arms and showed them kindness, love and shared with them, they therefore learnt Welsh. Duw! it certainly seems others will not find the same warmth or embrace here. You are not normalising Welsh you are making it unobtainable. Either through intent or conservatism… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago

Dafydd ap Gwilym: I am dumbfounded by your response and, in particular, by its ferocity. I am particularly confused by your reference to ‘us and them’. I am an Englishman, who is learning Welsh out of love and deep respect, and who has written an article in the language: that is all. I would have hoped that, as a Welshman, you would have regarded that as something positive. I certainly cannot understand why you believe that I deserve to be castigated for it.

Dafydd ap Gwilym
6 years ago

One important addition I would like to make.

I do not want everything in English for the sake of it. As some of the article was difficult to translate and the translation does not always understand some of the regional dialects all I meant to say was can we have a copy in English?

Everything else I stand by.

Professional Autism Advice

Mae na hen dwediad -Enillodd Prydain y ryfwel on nid y’r heddwch. Er taw cyfeirio tuag at y ryfel byd cyntaf mae’n berthnesol I Brydain wedi’r ail ryfel byd. Roedd hyd yn oed Churchill yn weld rhan i Bryfdain tu fewn i Ewrop. Wrth adeladu mur rhwng Prydain ac Ewrop, mae yna ofn bod Prydain yn methu datblygu i warae ei ran i rwystro Ewrop rag dysgun i uffern creulon ffascaidd. Nid yw ein genedl ni yn ddi bai. Gyda’r anthem syn tystio bod y Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,-pa fath o feddwl sydd da ni fel… Read more »

Professional Autism Advice

May I add that the Welsh Language is fire in the soul. I make no apologies for defending passionately a language that has more life force in it than the other three languages I speak. The welsh language offers a richer life experience. Although I love the English language too, to read Orwell, Cowper Powys , Milton is a delight , but Hedd Wyn strikes at the soul and Caradog Pritchard takes the reader deeper into a mystical experience in a otherwise bleak landscape. It would be a sorry day to lose this powerful and earth bound, mystical language that… Read more »

Simon Chandler
Simon Chandler
6 years ago

Very well put: I entirely agree.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.