Support our Nation today - please donate here
Opinion

Yr iaith: Mae’r cloc yn tician ond y Llywodraeth yn llaesu dwylo

04 Oct 2017 4 minute read
Cloc Dinas Bangor. Llun gan Denis Egan (CC BY 2.0)

Siân Gwenllïan AC

Trwy gydol y broses o ymgynghori ar bapur gwyn y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg, mae Plaid Cymru wedi gosod ei safbwynt yn glir:

  • Nid ydym am weld unrhyw wanhau na chyfyngu ar hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg
  • Rydym yn credu fod angen cadw rheoleiddio a hyrwyddo ar wahân – a’u bod yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol
  • Rydym yn galw am symud ymlaen gyda’r Safonau Iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder ac yn galw am amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, trenau a bysys
  • Ac rydym yn galw ar y llywodraeth i ymestyn y Safonau Iaith i weddill y sector breifat.

Mi fyddai unrhyw wanhau ac unrhyw gyfyngu ar y ddeddfwriaeth yn gam sylweddol yn ôl i’r Gymraeg.

Gwyddom fod y Gymraeg yn colli tir. Dim ond mewn 7% o gymunedau Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith fyw ar y stryd ac yn y dafarn.

Mae hynny yn loes calon i mi ac ni fedraf ddim cefnogi unrhyw droi’n ôl nag unrhyw wanhau ar yr hawliau sydd eisoes wedi eu sefydlu.

I’r gwrthwyneb, rhaid i ni weithredu a chryfhau os ydym o ddifrif eisiau gweld y Gymraeg yn parhau.

Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yn mynd i wanhau ein hawliau, ac fe fydd Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu.

Mae’r Llywodraeth eisiau dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a mynd yn ôl at un corff gan ddisgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth gwbl wahanol.

Y mae hefyd eisiau rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan ddyletswydd iaith, pa bryd ac ati.

Dymuna’r Llywodraeth:

  • ddileu’r rhestrau presennol sy’n sicrhau fod hawl gan y Cynulliad i osod dyletswyddau iaith ar rai cwmnïau preifat
  • dileu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg
  • dweud mai dim ond cwynion ‘difrifol’ fydd yn cael eu hymchwilio heb ddiffinio beth yw ‘difrifol’.

Mae hyn oll yn cyfyngu ar ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg.

Hyd-braich

Mae Plaid Cymru yn credu fod angen corff annibynnol i wneud y gwaith pwysig o hyrwyddo a hybu’r iaith, gan adael y Comisiynydd yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith o osod Safonau a Rheoleiddio.

Byddai sefydlu Comisiwn fyddai’n ceisio gwneud yr holl waith sydd ei angen yn gam sylweddol yn ôl.

Dyna pam yr ydym wedi dadlau yn gyson dros gael Asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo, hybu ac i gynllunio’n strategol dros y Gymraeg ar sail egwyddorion cynllunio-ieithyddol cadarn.

Os ydym am gryfhau ein hawliau, rhaid i ni ymestyn y Safonau i’r sector breifat.

Mae sawl esiampl o pam fod angen gwneud hyn wedi amlygu eu hunain dros y misoedd diwethaf – saga Sports Direct pan geisiwyd cyfyngu ar hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio eu hiaith yn y gweithle; Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg ac yn y blaen.

Fe ymatebodd y Gweinidog yn chwyrn ar y pryd ond eto y mae wedi gwrthod gosod safonau ar y sector breifat.

Os nad yw’r Llywodraeth yn barod i reoleiddio er mwyn amddiffyn beth ddylai fod yn hawl sylfaenol i siaradwyr Cymraeg – mae arna i ofn mai geiriau gwag oedd yr ymyrraeth yma.

Cloc yn tician

Yn anffodus, mae hanes yn dangos nad yw dibynnu ar berswadio cyrff i fabwysiadu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn mynd i weithio.

Mae angen deddfu ac mae angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector breifat – ond dydy’r llywodraeth Lafur ddim yn fodlon cymryd y cam pwysig hwn.

Fy argymhelliad i’r llywodraeth yw hyn: yn lle gwastraffu amser ar y papur gwyn hwn, beth am symud ymlaen efo’r gwaith.

Mae angen gweithredu. Rydyn ni dal yn disgwyl cynnydd ar y Safonau ar gyfer cyrff iechyd wedi i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi dros ddwy flynedd yn ôl.

Mae adroddiad safonau’r cymdeithasau tai ar ddesg y Gweinidog ers dwy flynedd; adroddiad y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd; adroddiad ar fysiau a threnau a rheilffyrdd ers bron i flwyddyn.

Ac yn y cefndir wrth gwrs mae’r strategaeth Miliwn Siaradwyr. Gwell gan y Llywodraeth hon brysuro’i hun gyda thrafodaethau diangen yn hytrach na chanolbwyntio ar y gwaith sydd ei angen er mwyn gweithredu’r strategaeth honno a gwneud gwahaniaeth i fywydau siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cloc yn tician ac nid oes amser am fwy o laesu dwylo gan y Llywodraeth.

Dyletswydd y Llywodraeth yw gwarchod hawliau ei ddinasyddion – mae Plaid Cymru’n benderfynol o beidio gadael i Lafur droi cefn ar y cyfrifoldeb hollbwysig hwnnw.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

6 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Eos Pengwern
Eos Pengwern
6 years ago

Yr unig amgylchiadau o dan y rhai y buasai’r Blaid Lafur yn cymryd unrhyw sylweddolaeth o beth fod Plaid Cymru yn dweud ar unrhyw bwnc, byddai petai unrhyw perygl ohonyn nhw beidio a chefnogi Llafur yn daeogaidd ar ol pob etholiad. Petasen nhw’n barod, hyd yn oed unwaith, i gydweithio gyda’d Ceidwadwyr neu UKIP er mwyn hyrwyddo eu hagenda eu hunain, yna buasai’n bosib i’u cymryd nhw o ddifrif.

Tame Frontiersman
Tame Frontiersman
6 years ago

Yn wir, mae’r cloc yn tician. Ble mae’r gweithredu? Ble mae’r cynlluniau lleol? Ydym ni’n dal i siarad am hawliau pan ddylen ni fod yn canolbwyntio ar hybu’r defnydd o’r iaith?

Swyn Enlli
Swyn Enlli
6 years ago

Cytuno’n llwyr fod angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector preifat, ac na ddylai hawliau presennol siaradwyr Cymraeg gael eu gwanhau o gwbl; byddai hynny’n gwbl hurt ac yn groes i arferion rhyngwladol o ran hawliau dynol sydd wedi’u cydnabod ers degawdau. Urddas a hyder unigolion a chymunedau yn eu dymuniad diymddiheuriad i fyw bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r ystyriaeth bennaf yn hyn o beth, a rhaid i unrhyw gamau a gymerir gan y Llywodraeth a’r Cynulliad gadw’r nod hwnnw mewn cof a pheidio â gwyro dim ohono. Mae’r Gymraeg yn rhy werthfawr, a phrofiadau gwirioneddol pobl sy’n dymuno’i defnyddio… Read more »

Capitalist and Welshnash
Capitalist and Welshnash
6 years ago

Mae rhaid derbyn na fydd Llywodraeth Cymru yn achub yr iaith a chael meddylfryd mwy ‘entrepreneurial’. No one is going to do it for you, the historical hoping for a ‘mab darogan’ is part of this problem, you’re going to have to do it yourselves. Sut gall y Llywdraeth laesu dwylo os nad ydy y Llywodraeth, unwaith yn hanes Cymru, wedi ymroddi ei hun yn llwyr at y Gymraeg? Are you so desperate to be deceived, manipulated and lied to that you would believe anyone who overs to increase the number of Welsh speakers and hand over your patriotic responsibility… Read more »

sianiflewog
sianiflewog
6 years ago

Sian Gwenllian, diolch am dynnu ein sylw at ddiffyg ddiddordeb sydd gan y marcsist leninistiaid at ein hiaith. Nhw i bob pwrpas ydy gelyn ein hiaith a’n huniaeth. Ni fyddai Cymru’n parhau’n hir fel endid heb ei hiaith. Rhaid cofio nid oedd arweinyddiaeth gan Labor Party o Wales adeg y ‘troad’ yn y tridegau yng Nghymoedd y De. Yn hytrach na sefyll i fyny i hawliau ein brodyr, gwnaethant eu sathru yn enw ‘internationalism’ a ‘solidarity’ a’r undeb sofietaidd. Ac nid ydy pethau wedi newid dim. Mae’r marcsistiaid yn dweud bod yr iaith yn rhannu. Wel efallai ei bod hi… Read more »

boicymraeg
6 years ago

Meddwl bod y comisiynydd wedi gorfod gwastraffu eu hamser yn delio â nifer fawr o achosion o bobl yn cwyno am gamdreigladau neu fân wallau ac ati – nid pwrpas y safonau oedd rhoi fframwaith I gwynion o’r fath. Cytuno’n llwyr y dylai’r comisiynydd rhoi blaenoriaeth i gwynion pwysig, a nhw dylai cael dewis a dethol pa gwynion sydd fwyaf pwysig.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.