5 rheswm i wrthwynebu Deddf Iaith wannach Llywodraeth Cymru

Cymdeithas yr Iaith yn tarfu ar agoriad siop Iceland yn y Rhyl o achos diffyg Cymraeg

Manon Elin, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith

Fis Awst 2017, cyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyn yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer Deddf Iaith newydd.

Deddf a fydd yn gam yn ôl o ran y Gymraeg, ac ni fydd yn ein helpu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Yn wir, byddai’n well i’r Llywodraeth beidio â deddfu o gwbl na bwrw ymlaen gyda’i chynlluniau presennol.

Dyma bump rheswm i wrthwynebu’r Deddf Iaith wannach newydd.

1) Dim Safonau Iaith i’r Sector Breifat

Unwaith eto, rai wythnosau yn ôl fe welsom un o benaethiaid cwmni mawr sy’n masnachu yng Nghymru yn gwneud sylwadau sarhaus am y Gymraeg.

Er mai un cwmni ymysg nifer yw Trago Mills, onid yw sylwadau cadeirydd y siop yn dangos, unwaith eto, mor fawr yw’r angen am ddeddf iaith sy’n cynnwys y cwmniau mawrion?

Mae’n gwbl glir mai gwanhau a lleihau rheoleiddio yw diben newidiadau Gweinidog y Gymraeg.

Dywedodd ei bod ‘o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffon.’

Ychwanegodd bod ganddi ‘lot mwy o ddiddordeb mewn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg fel blaenoriaeth’.

‘A dyna beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud – rhoi help lle rŷn ni’n gallu i wireddu’r ffaith ein bod ni’n gobeithio y byddan nhw’n rhoi’r arwyddion hyn i fyny yn y dyfodol.’

Sôn am anwybyddu gwersi hanes! Mae dibynnu ar ewyllys da a pherswâd eisoes wedi ei dreialu ers chwarter canrif, heb fawr o newid.

Pam bod rhaid dewis rhwng ‘ewyllys da’ a deddfwriaeth beth bynnag? I lwyddo mae angen deddfu, gyda lle hefyd i hybu a hyrwyddo.

Y gwir amdani yw bod y Llywodraeth yn defnyddio’r esgus bod angen mwy o hyrwyddo er mwyn lleihau rheoleiddio gan mai dyna sy’n plesio cyrff a busnesau mawrion.

Mae’r rheoleiddio sydd eisoes wedi digwydd wedi cynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg gyda gwasanaethau ac yn y gwaith, ac mae tystiolaeth fod hyn eisoes yn ymdreiddio wedyn i weithgaredd cymunedol ac yn y cartref.

Mae rhai cwmniau, fel Iceland, wedi dweud yn blwmp ac yn blaen na fyddan nhw’n newid gan nad oes rheidrwydd cyfreithiol arnynt i wneud hynny, a dangosodd arolwg barn YouGov llynedd bod y mwyafrif o bobl Cymru eisiau estyn deddfwriaeth iaith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan fanciau ac archfarchnadoedd.

Synnwyr cyffredin yw gosod rheolau ar gwmniau mawrion sy’n gwneud elw yng Nghymru i ddangos parch at ein hiaith.

2) Gwanhau ein hawliau

Byddai’r drefn a awgrymir gan y Llywodraeth yn gwanhau ein hawliau i gwyno, gan y byddai’n rhaid cwyno i’r sefydliad yn gyntaf cyn mynd at y Comisiwn newydd.

Yn ogystal, byddai’r comisiwn yn ymchwilio i achosion ‘difrifol’ yn unig. Dyna oedd y drefn dan yr hen Fwrdd yr Iaith. Gallech chi gwyno, ond anwybyddwyd y rhan fwyaf o gwynion gan nad oeddent yn ddigon pwysig.

Collodd siaradwyr Cymraeg ffydd yn y system gan y bu gan gyrff rwydd hynt i anwybyddu eu ‘hymrwymiadau’ i’r Gymraeg. Doedd dim modd i bobl gael cyfiawnder.

3) Dileu Comisiynydd y Gymraeg – troi’r cloc yn ôl

Dylid cofio mai dim ond dwy flynedd sydd ers i’r Comisiynydd ddechrau rheoleiddio’r Safonau, ond eto mae’r Llywodraeth nawr am ei ddiddymu.

Ddechrau’r ganrif, roedd consensws eang iawn bod Bwrdd yr Iaith yn methu, ac yn dilyn ymgyrch dorfol a chytundeb trawsbleidiol, sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg fel pencampwr amlwg dros y Gymraeg.

Byddai disodli Comisiynydd y Gymraeg â Chomisiwn y Gymraeg yn troi’r cloc yn ôl i ddyddiau aneffeithiol Bwrdd yr Iaith a Deddf yr Iaith 1993.

Yn sicr, mae yna le am gorff ychwanegol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, gan gadw hybu a rheoleiddio’r iaith ar wahân. Gellid sefydlu corff newydd o’r fath nawr, heb ddeddfu.

4) Dim rhagor o Safonau Iaith

Mae’r sefydliadau sy’n dod o dan y Safonau wedi datgan y byddai diddymu’r Comisiynydd yn peryglu momentwm y blynyddoedd diwethaf.

Mae tystiolaeth wrthrychol yn dangos bod 76% o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg cyrff cyhoeddus yn gwella dan y system newydd, a bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer 56% yn fwy o swyddi na’r flwyddyn cyn i’r Comisiynydd ddechrau rheoleiddio’r Safonau.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gwelliannau hynny, yn lle ymestyn y Safonau a’r gyfundrefn lwyddiannus hon i ragor o sectorau, mae’r Llywodraeth wedi datgan eu bwriad i beidio â gwneud hynny am hyd at ddeunaw mis gan eu bod am newid y gyfundrefn.

Golyga hyn y bydd o leiaf dwy flynedd o beidio ag ymestyn hawliau iaith i beuoedd eraill.

Eisoes, mae cyfundrefn y Safonau wedi sefydlu hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg, er enghraifft sicrhau gwersi nofio Cymraeg. Pam bod y Llywodraeth yn oedi rhag estyn y llwyddiant i sectorau eraill?

Y gwir amdani yw bod Eluned Morgan eisiau rhoi buddiannau cwmniau fel Trago Mills o flaen ein hawliau ni i siarad Cymraeg.

5) Camarwain y cyhoedd

Wrth gyhoeddi’r canlyniadau i ymgynghoriad y Llywodraeth ar Fil y Gymraeg, dywedodd Eluned Morgan, y ‘cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad’.

Fodd bynnag, 15% yn unig o’r ymatebion oedd yn cefnogi eu cynnig i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, sydd yn un o gynigion y Bil.

Diystyrwyd dros hanner yr ymatebion i’r ymgynghoriad gan na ystyriwyd ymatebion y tybiwyd eu bod wedi eu hanfon yn rhan o ymgyrch.

Mae hyd yn oed ffigyrau’r Llywodraeth yn dangos bod 56% o’r ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n ansicr ynghylch cynnig i ddiddymu’r Comisiynydd.

Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi gorfod cyfaddef bod eu proses o gyfrif atebion yn ddiffygiol.

Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu’r cyhoedd i gwyno’n effeithiol a gwanhau’r pwerau i orfodi’r Safonau, byddai’r Ddeddf Iaith newydd yn gam mawr yn ôl.

Galwn ar y Llywodraeth i beidio â deddfu, ond yn hytrach i ganolbwyntio ar weithredu Strategaeth y Gymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr.

Byddai defnyddio’r pwerau sydd eisoes gan y Llywodraeth i wella a gweithredu’r system bresennol, gan gynnwys pasio rheoliadau mewn meysydd megis cyfleustodau a ffonau symudol, yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn gynt.

Felly, er gwaethaf eu holl ymdrechion i honni bod cefnogaeth i’r cynlluniau – o lywio’r cwestiynau mewn ffordd i geisio cynyddu cefnogaeth a chau’r cyhoedd allan o weithdai ar eu cynigion, i wrthod cyhoeddi casgliadau sylwadau mewn sesiynau gyda’r cyhoedd – does dim mandad na chefnogaeth gyda nhw i wneud hyn.

Bydd cyfle i leisio aniddigrwydd yn rali Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod. Bydd y brotest yn dechrau tu allan i Sainsburys ym Mae Caerdydd ar 2pm ar ddydd Gwener, 10 Awst. Ymhlith y siaradwyr fydd Angharad Tomos, Sian Gwenllian AC a Heledd Gwyndaf.


Mae angen cefnoaeth ariannol ar Nation.Cymru i ddatlygu yn wefan newyddion all herio sefydliadau, gwleidyddion a busnesau Cymru a’u dal i gyfrif. Byddai £2 yn unig bob mis yn gwneud gwahaniaeth – mae modd tanysgrifio yma.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox