Cân newydd yn Gymraeg am ymgyrch annibyniaeth Catalwnia
Mae band o Ynys Môn a Chaernarfon wedi cyhoeddi cân newydd am yr ymgyrch annibyniaeth yng Nghatalwnia.
Dywedodd Ifan Gwilym Pritchard o’r band Gwilym ei bod yn gân serch tuag at y wlad, gan gydnabod fod tebygrwydd rhwng sefyllfa Catalwnia a Chymru.
“Dwi’n meddwl fod y gân yn dwad yn bennaf o fy mrwdfrydedd at gefnogi gwlad bach gyda iaith fregus ac felly’n debyg i’r emosiwn dwi’n deimlo dros fy ngwlad fy hun,” meddai.
Ar yr un pryd, mae’r canwr 18 oed yn cyfaddef fod posib dehongli’r gân yn fwy gwleidyddol.
“I mi, y prif beth mae’n gyfleu ydi gobaith, ac efallai’n rhoi golau ar ddiffyg democratiaeth y sefyllfa”.
Dywedodd Yws Gwynedd o label Recordiau Côsh Records bod rhyddhau’r gân yn “un o’r prif uchafbwyntiau” o’i ugain mlynedd yn y sin rôc.
“Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o fynegi rhwystredigaeth a gobaith,” meddai. “Fel rhywun sy’n credu’n gryf mewn anibyniaeth i Gymru, a gwbod fod y dasg honno’n un anferth, mae cefnogi gwlad sydd ychydig agosach ati’n cadw’r fflam yn fyw.”
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.