Support our Nation today - please donate here
Opinion

Cynllunio a’r Gymraeg – mae’n amser gweithredu

20 Feb 2018 4 minute read

Richard Vale

Ymhlith y ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau, y  system gynllunio yw un o’r pechaduriaid mwyaf.

Adeiladu stadau tai lle nad oes angen lleol, rhwystro pobl ifainc leol rhag codi tai yn eu milltir sgwar, gorddibynnu ar sectorau â chyflogau isel, cysylltiadau gwael i’r we a ffyrdd gwaeth byth. Mae’r rhestr yn hir.

Conglfaen y system gynllunio ar lefel llywodraeth leol yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), neu Local Development Plan (LDP).

Mae Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion newydd ddechrau ddiwygio eu cynlluniau datblygu lleol.

Dwy sir lle mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn y fantol, a gall hyd yn oed datblygiadau bychain newid cymeriad cymuned am byth, er gwell neu er gwaeth.

Dyma gyfle i bawb sy’n gofidio am ddyfodol y Gymraeg ddweud eu dweud a phwyso ar ein cynghorwyr sir i sicrhau bod gan yr iaith le canolog yn y broses.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog pawb i gysylltu â’ch cynghorydd sir i holi pa bwysau maen nhw’n dwyn ar y Cyngor i greu cynllun sydd wir yn mynd i’r afael ag anghenion lleol ac ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad i holi’r un cwestiwn.

Maent hefyd yn galw ar y Llywodraeth a’r Comisiynydd Iaith i gomisiynu astudiaeth annibynnol o effaith hirdymor cynlluniau datblygu ar yr iaith.

Er bod y Llywodraeth a’r cynghorau sir yn mynnu bod eu cynlluniau’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, mae’n syfrdanol nad oes astudiaeth o’r fath wedi bod.

Dyma oedd ymateb y Comisiynydd i’r cais:

“Mae’r Comisiynydd yn cytuno y byddai rhagor o waith ymchwil i effaith cynlluniau datblygu lleol, a fyddai’n adeiladu ar ganfyddiadau’r ymchwil …. yn rhoi sail dystiolaeth gadarn ar gyfer y Llywodraeth ac awdurdodau lleol wrth iddynt ddiwygio eu polisïau a’u cynlluniau datblygu lleol.

“Er hynny, nid yw’r gyllideb sydd ar gael i’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn caniatáu cynnal ymchwil sylweddol o’r math hwn.”

Dyfodol

Cyn iddynt fwrw ymlaen â’u cynlluniau newydd, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn gofyn i’n cynghorwyr a’r cynghorau sir am gysylltu â’r Llywodraeth i fynnu bod yr ymchwil hon yn cael ei hariannu.

Afraid dweud bod y gwaith o lunio’r cynlluniau datblygu swmpus hyn yn un hirwyntog a chymhleth, gyda chyfarfodydd di-rif, ymgynghoriadau, ymgynghoriadau ar ymgynghoriadau a llwyth o ddogfennau trwchus i’w darllen.

Mi fyddai system gynllunio Cymru yn drysu Einstein ei hun. Dyma ddryslwyn o ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a pholisïau lleol, canllawiau, nodiadau cyngor technegol, adroddiadau afarnu cynaliadwyedd, cyfarwyddiadau cynllunio atodol, ardaloedd twf,  ardaloedd gwasanaethu, fframweithiau a strategaethau  – i enwi ond ychydig o’r jargon y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Ond eto i gyd, dyma rywbeth sy’n llywio dyfodol ein cymunedau, ac sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.

Yn anochel, mae cymhlethdod a hirwyntogrwydd y broses statudol hon yn rhwystro pobl gyffredin a phawb sy’n gofidio am ddyfodol ein hiaith rhag cyfrannu a dweud eu dweud – er lles y datblygwyr a’r cwmnïau mawr nad yw’n malio dim am gymunedau Cymraeg wrth iddynt symud eu harian i Bermuda ac ynysoedd eraill.

Un o’r datblygiadau mwyaf yn y rhan yma o’r byd yw Gorllewin Caerfyrddin, safle anferth lle mae Persimmon a chwmnïau eraill am godi dros 1,000 o dai newydd.

Er bod Jeff Fairburn, prif weithredwr Persimmon, newydd dderbyn bonws o £128 miliwn, bu’n rhaid i’r Cyngor Sir fenthyg £5 miliwn i ariannu ffordd gyswllt a phont newydd yno am nad oedd y datblygwyr yn fodlon ysgwyddo’r risg.

Mae datblygiadau o’r fath yn chwalu Cymreictod ein cymunedau, a ni sy’n talu am y fraint.

Tan yn ddiweddar iawn, nid oedd angen i awdurdodau lleol ystyried yr iaith Gymraeg wrth baratoi eu cynlluniau datblygu lleol.

Ar ôl tro bedol ar y funud olaf, pasiwyd y Ddedf Cynllunio yn 2015, ac am y tro cyntaf erioed, mae’r iaith Gymraeg bellach yn “ystyriaeth berthnasol statudol” i’r system gynllunio.

Er bod bwriad y ddeddf i’w weld yn glir, nid oedd y Llywodraeth yn awyddus i roi cyngor ar sut mae dehongli’r geiriad. I raddau helaeth felly, ein cynghorau sir fydd yn gyfrifol am benderfynu tynged yr iaith yn y de-orllewin.

Ein dyletswydd ni yw gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwrando.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

22 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
'ö-Dzin Tridral
6 years ago

For the benefit o people like me who aren’t fluent, this is a link Google’s translation https://goo.gl/t7AiwE (I hope that works) “Among the factors that have contributed to the decline of the Welsh language in our communities, the planning system is one of the largest sinners. Erection of housing estates where there is no local need, prevent local youngsters from building houses in their square mile, over reliance on low paid sectors, poor web connections and even worse roads. The list is long. …” I hope the translation reflects the intent of the original. I think it is important that… Read more »

Capitalist and Welshnash
Capitalist and Welshnash
6 years ago

Byddai ymgyrch sy’n duo arwyddion Saesneg mewn broydd Cymraeg yn gorfod iddyn nhw wrando. Byddai sefydlu bro helaeth heb arwyddion Saesneg y bygythiad mwyaf i ddomonyddiaeth Saesneg yng Nghymru ers dyddiau Glyndŵr.

Carnabwth
6 years ago

Plaid Cymru sy’n rheoli Sir Gar yn awr. Mi fydd pob peth yn iawn nawr. Na fydd e’?

Brian ap Francis
6 years ago

The biggest threat to the future of the Welsh Language is people who make comments only in that language, thus excluding those who do not speak the language. What hope is there when you effectively lock them out?.

CambroUiDunlainge
CambroUiDunlainge
6 years ago

Right click “Translate to English”.

sibrydionmawr
6 years ago

If you were really interested in what Welsh speakers write or spoke you’d make an effort to learn the language. Until you do, you can always copy & paste into Google Translate for a rough English version, but seemingly you can’t be bothered to to that, and just want to troll.

Trailorboy
Trailorboy
6 years ago

If you build 1000 houses in strongly welsh speaking areas, then I would assume that the increased need for schools provisions etc, will ensure that the children of all people moving there will have schools that ensure they are equally fluent and comfortable in Welsh and English. So I guess that would mean all new schools being welsh medium, the only option we currently have that can achieve this.

Coch-y-bonddu
Coch-y-bonddu
6 years ago
Reply to  Trailorboy

Except the vast majority of those houses would be bought up by retirees from england taking advantage of cheaper housing here plus other benefits such as free prescriptions. Not much benefit therefore to Wales particularly as the majority of incomers have no interest in assimilating but would rather create their own little englands within Wales. Amser i newyd y drefn.

Brian ap Francis
6 years ago

What about children and parents who don’t want to learn the language? Throwing it at them is one jolly good way of alienating them.

Trailorboy
Trailorboy
6 years ago

we are discussing the building of large numbers of houses, not needed by the local population, but for commuters anf for people migrating to the area for work. These people have all the choice in the world and can elect to move there or not, but all new schooling should offer the best standard of education in both Welsh and English and schools that teach almost exclusively through the medium of English fail to do that and shouldn’t be offered – there’s no need to.

sibrydionmawr
6 years ago

If someone moves to a country where there is a different language and they choose not to learn that local language then they are alienating themselves. They could of course choose to move back whence they came, or even not consider moving to Wales at all in the first place if they have such negative feelings towards the Welsh language and those who speak it.

Brian ap Francis
6 years ago
Reply to  sibrydionmawr

Too easy to forget that the language of modern Wales is English.

Trailorboy
Trailorboy
6 years ago

Un o’r iaith Cymru yw Saesneg – be fyddet ti’n dadl yn erbyn heb iaith y nefoedd.

I don’t speak welsh – but some people like yourself inspire me to want to, so much more.

Diolch.

Wrexhamian
Wrexhamian
6 years ago

Mi wnes i ddarllen yr erthygl hon yn Saesneg achos dw I ddim yn medru darllen Cymraeg yn gyflym, mae’n ddrwg gen i. Local Development Plans for Wales are less complicated than Richard Vale thinks. As far as I can make out, the Planning Inspectorate, which is an EnglandandWales body, submits a plan to the Welsh Government which then rubber-stamps it. So the Planning Inspectorate makes the actual decision, overriding local and national objections and paying only lip service to the issue of the impact on Welsh-speaking communities of large-scale housing projects that exceed local need and which are beyond… Read more »

Wrexhamian
Wrexhamian
6 years ago

Mi wnes i ddarllen yr erthygl hon yn Saesnag, achos dw i ddim yn medru ddarllen ynGymraeg gyflym, me ddrwg gen i. The planning system in Wales is not as confusing as Richard Vale thinks. As far as I can tell, the Planning Inspectorate submits a plan to the Welsh Government, which then rubberstamps it. So the final decision is made by the Planning Inspectorate, which is an EnglandandWales body paying only lip service to the potential impact on Welsh speaking communities of large-scale housing projects which are out of proportion to local needs and which locals cannot generally afford… Read more »

Cefyn H.
6 years ago

Snide remarks like those of Carnabwth are not needed.Councils have no real choice in this matter.It is another scenario like closing schools.The powers that be say”find the sites for X number of houses or we will find them for you”.I believe there is a deliberate policy here of creating a climate where the choice at election time will to all intents and purposes be only between Labour and Conservative

sibrydionmawr
6 years ago
Reply to  Cefyn H.

They may have no real choice in the matter, but they are still rather cravenly not even putting up token opposition to highlight that lack of choice, so therefore they are complicit in the injustices being imposed upon us. Effectively they are Quislings. If they are indeed surrendering to what amount to imperialist pressures then those councillors should surely be highlighting this and bringing it to our attention so that we have an opportunity to organise opposition. Until the mechanisms are laid bare, and local politicians distance themselves from these planning decisions, local people will continue to blame local politicians… Read more »

Carnabwth
6 years ago
Reply to  Cefyn H.

Beth yw pwynt pleidleisio i Blaid Cymru felly os nad ydynt yn gallu gwneud unrhyw beth am y mater? Beth yw’r pwynt pleidleision o’r gwbl? Mi allai cynghorwyr Plaid Cymru fod wedi gwneud safiad yng Ngynedd y flwyddyn ddiwethaf ond ni wnaeth y rhan fwyaf ohynynt sydd wrth gwrs yn codi’r cwestion ‘beth yw pwrpas y blaid erbyn hyn’?

Wrexhamian
Wrexhamian
6 years ago
Reply to  Carnabwth

And yet it’s one of the issues that could land Plaid Cymru with a huge potential increase in support throughout the country, if only they’d strap on a pair. Planning is perhaps the one issue that has the potential to turn into a genuine national crusade. Think Tryweryn, but with wider national support.

glasiad
glasiad
6 years ago

Ymateb byr: Mae’r iaith Gymraeg yn byw ar dafodau o siaradwyr. Bydd e’n marw yno hefyd – er gwaethaf bydd y llwyodreath yn gwneud. Ond dim esgus dros Blaid Cymru fodd bynnag.

Tame Frontiersman
Tame Frontiersman
6 years ago

Does dim canllawiau cam wrth gam yn Nodyn Cyngor Technegol 20: Llywodraeth Cymru “Cynllunio a’r Gymraeg” (Hydref 2017) ar sut i roi “ystyriaeth” y Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 i’r iaith ac yn ôl pob tebyg bydd anghenion y Gymraeg eu hystyried a’u hanwybyddu wedyn, a phery madfallod cribog mawr ac ystlumod i fwynhau gwarchodaeth well na’r Iaith Gymraeg.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.