Cynllunio a’r Gymraeg – mae’n amser gweithredu

Richard Vale

Ymhlith y ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau, y  system gynllunio yw un o’r pechaduriaid mwyaf.

Adeiladu stadau tai lle nad oes angen lleol, rhwystro pobl ifainc leol rhag codi tai yn eu milltir sgwar, gorddibynnu ar sectorau â chyflogau isel, cysylltiadau gwael i’r we a ffyrdd gwaeth byth. Mae’r rhestr yn hir.

Conglfaen y system gynllunio ar lefel llywodraeth leol yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), neu Local Development Plan (LDP).

Mae Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion newydd ddechrau ddiwygio eu cynlluniau datblygu lleol.

Dwy sir lle mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn y fantol, a gall hyd yn oed datblygiadau bychain newid cymeriad cymuned am byth, er gwell neu er gwaeth.

Dyma gyfle i bawb sy’n gofidio am ddyfodol y Gymraeg ddweud eu dweud a phwyso ar ein cynghorwyr sir i sicrhau bod gan yr iaith le canolog yn y broses.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog pawb i gysylltu â’ch cynghorydd sir i holi pa bwysau maen nhw’n dwyn ar y Cyngor i greu cynllun sydd wir yn mynd i’r afael ag anghenion lleol ac ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad i holi’r un cwestiwn.

Maent hefyd yn galw ar y Llywodraeth a’r Comisiynydd Iaith i gomisiynu astudiaeth annibynnol o effaith hirdymor cynlluniau datblygu ar yr iaith.

Er bod y Llywodraeth a’r cynghorau sir yn mynnu bod eu cynlluniau’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, mae’n syfrdanol nad oes astudiaeth o’r fath wedi bod.

Dyma oedd ymateb y Comisiynydd i’r cais:

“Mae’r Comisiynydd yn cytuno y byddai rhagor o waith ymchwil i effaith cynlluniau datblygu lleol, a fyddai’n adeiladu ar ganfyddiadau’r ymchwil …. yn rhoi sail dystiolaeth gadarn ar gyfer y Llywodraeth ac awdurdodau lleol wrth iddynt ddiwygio eu polisïau a’u cynlluniau datblygu lleol.

“Er hynny, nid yw’r gyllideb sydd ar gael i’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn caniatáu cynnal ymchwil sylweddol o’r math hwn.”

Dyfodol

Cyn iddynt fwrw ymlaen â’u cynlluniau newydd, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn gofyn i’n cynghorwyr a’r cynghorau sir am gysylltu â’r Llywodraeth i fynnu bod yr ymchwil hon yn cael ei hariannu.

Afraid dweud bod y gwaith o lunio’r cynlluniau datblygu swmpus hyn yn un hirwyntog a chymhleth, gyda chyfarfodydd di-rif, ymgynghoriadau, ymgynghoriadau ar ymgynghoriadau a llwyth o ddogfennau trwchus i’w darllen.

Mi fyddai system gynllunio Cymru yn drysu Einstein ei hun. Dyma ddryslwyn o ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a pholisïau lleol, canllawiau, nodiadau cyngor technegol, adroddiadau afarnu cynaliadwyedd, cyfarwyddiadau cynllunio atodol, ardaloedd twf,  ardaloedd gwasanaethu, fframweithiau a strategaethau  – i enwi ond ychydig o’r jargon y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Ond eto i gyd, dyma rywbeth sy’n llywio dyfodol ein cymunedau, ac sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.

Yn anochel, mae cymhlethdod a hirwyntogrwydd y broses statudol hon yn rhwystro pobl gyffredin a phawb sy’n gofidio am ddyfodol ein hiaith rhag cyfrannu a dweud eu dweud – er lles y datblygwyr a’r cwmnïau mawr nad yw’n malio dim am gymunedau Cymraeg wrth iddynt symud eu harian i Bermuda ac ynysoedd eraill.

Un o’r datblygiadau mwyaf yn y rhan yma o’r byd yw Gorllewin Caerfyrddin, safle anferth lle mae Persimmon a chwmnïau eraill am godi dros 1,000 o dai newydd.

Er bod Jeff Fairburn, prif weithredwr Persimmon, newydd dderbyn bonws o £128 miliwn, bu’n rhaid i’r Cyngor Sir fenthyg £5 miliwn i ariannu ffordd gyswllt a phont newydd yno am nad oedd y datblygwyr yn fodlon ysgwyddo’r risg.

Mae datblygiadau o’r fath yn chwalu Cymreictod ein cymunedau, a ni sy’n talu am y fraint.

Tan yn ddiweddar iawn, nid oedd angen i awdurdodau lleol ystyried yr iaith Gymraeg wrth baratoi eu cynlluniau datblygu lleol.

Ar ôl tro bedol ar y funud olaf, pasiwyd y Ddedf Cynllunio yn 2015, ac am y tro cyntaf erioed, mae’r iaith Gymraeg bellach yn “ystyriaeth berthnasol statudol” i’r system gynllunio.

Er bod bwriad y ddeddf i’w weld yn glir, nid oedd y Llywodraeth yn awyddus i roi cyngor ar sut mae dehongli’r geiriad. I raddau helaeth felly, ein cynghorau sir fydd yn gyfrifol am benderfynu tynged yr iaith yn y de-orllewin.

Ein dyletswydd ni yw gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwrando.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox