Deg nofel Gymraeg y dylai pawb eu darllen

Adam Pearce

Un agwedd anffodus ar fod yn siaradwr iaith leiafrifol yw bod angen gwneud ymdrech arbennig i ddysgu am eich treftadaeth ddiwylliannol eich hunan.

Er ein bod yn cael clywed drwy’r amser am glasuron llenyddol Saesneg drwy’r cyhoeddusrwydd a ddaw o’r addasiadau teledu diweddaraf ac ati, pan ddaw at lenyddiaeth Cymraeg, i lawer, yr ysgol yw’r unig gyfle i gael mynediad at ein llenyddiaeth.

Gyda’r system addysg yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar sgiliau sylfaenol a chyflogadwyedd, a’r angen naturiol i wersi Cymraeg ganolbwyntio ar hanfodion llythrennedd yn y Gymraeg, prin yw’r cyfle i lawer o siaradwyr gael eu cyflwyno i lenyddiaeth yn yr iaith o gwbl.

Mae’r diffyg cyswllt hyn yn arwain rhai i feddwl nad oes cyfoeth llenyddol ar gael yn y Gymraeg, neu os oes, ei fod yn gysgod tila o’r hyn sydd ar gael mewn Saesneg.

Drwy lunio’r rhestr ganlynol rwy’n gobeithio dangos nad yw hyn yn wir o gwbl.

Gobeithio byddaf yn rhoi gwybod i ambell un am nofelydd newydd nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i fwynhau ei gwaith eto.

Os dim byd arall, gobeithio bydd darllen y rhestr hon yn dod â thipyn o hwyl, fel y gwnaeth i mi wrth ei llunio!

Rydw i wedi cadw at y rheolau canlynol, yn bennaf er mwyn sicrhau ystod eang o waith ar y rhestr:

  • Dim mwy nag un nofel gan yr un awdur
  • Dim mwy na dwy nofel a gyhoeddwyd yn yr un degawd
  • Dim llyfrau plant – nid er mwyn awgrymu nad yw’r un faint o werth llenyddol yn gallu perthyn i lyfr i bobl ifanc; ond rhestr wahanol fyddai hynny, ac nid wyf o reidrwydd yn meddu ar y wybodaeth angenrheidiol i’w lunio.
  • Rydw i wedyn wedi rhestri’r nofelau yn nhrefn dyddiad eu cyhoeddi yn hytrach na’i safon – digon anodd yw penderfynu ar ddeg nofel yn unig i’w cynnwys, heb sôn am orfod penderfynu ym mha drefn y dylid eu trefnu.

Rydw i wedi gwneud ymdrech i beidio â chynnwys gormod o weithiau sy’n rhy debyg i’w gilydd o ran testun nac arddull.

Cymaint yw cyfoeth y Nofel Gymraeg, y byddai’n ddigon hawdd creu rhestr o ddeg nofelCymraeg am ferched sy’n mynd yn wallgof, neu deg nofel am fywyd ar fferm, ac ati.

Rydw i wedi ceisio cynrychioli ystod eang o lyfrau gwahanol.

Cyn mynd ymlaen, rhaid pwysleisio wrth gwrs mae fy marn i yn unig a roddir fan hyn – fel y gwelwch chi, mae’r dewisiadau yn adlewyrchu’r hyn yr ydw i’n ei fwynhau ac yn chwilio amdani mewn llyfrau.

Dydw i ddim yn ceisio dweud mai dyma 10 Nofel Orau’r Iaith Gymraeg o reidrwydd – fel y gwelwch chi, mewn ambell achos rydw i wedi dewis llyfr nad yw o reidrwydd fy ffefryn gan yr awdur penodol.

Wedi dweud hynny, rydw i’n teimlo y byddai darllen y deg nofel yma yn rhoi trosolwg gweddol gyflawn o hanes y nofel yn y Gymraeg: deg nofel yma sydd, fel casgliad, yn amlinellu cyfoeth traddodiad y nofel yn y Gymraeg.

Os ydych chi’n teimlo fy mod i wedi methu nofel neu awdur, neu’n anghytuno am unrhyw un o fy newisiadau, rhowch wybod yn y sylwadau isod – neu beth am greu eich rhestr eich hun?

 

  1. Profedigaethau Enoc Huws (1891)

 

Daniel Owen (1836-1895)

Mae hanes y nofel yn Gymraeg yn dechrau â Daniel Owen i bob pwrpas, ac ni fyddai unrhyw restr o nofelau pwysig yn y Gymraeg yn gyflawn heb gynnwys enghraifft o’i waith.

Rhys Lewis efallai oedd ei nofel fwyaf dylanwadol, ond rydw i wedi dewis Enoc Huws gan mai honno oedd ei nofel fwyaf strwythuredig a chrefftus.

Ond nid gwerth hanesyddol yn unig sydd i’r nofel hon: mae’r stori’n un gafaelgar sy’n cyfuno comedi gwirioneddol ddoniol â mewnwelediad craff o ragfarn ddynol.

Mae prif blot y stori yn dilyn ymdrechion conman i ddiogelu ei ddyfodol drwy berswadio dynion busnes, gan gynnwys Enoc Huws y teitl, i fuddsoddi mewn prosiectau mwyngloddio ffug.

Mae’r elfen grefyddol yn llai amlwg nag yn nofelau eraill yr awdur ac mae hynny hefyd yn cyfrannu efallai at y ffaith mai hwn yn nofel fwyaf hygyrch Daniel Owen i ddarllenwyr cyfoes.

Mae llawer yn credu nad oes lawer o werth i lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae’r llyfr hwn yn profi’r gwrthwyneb, a dylai pawb sydd â mymryn o ddiddordeb yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ei ddarllen.

Fel pob un o nofelau Owen mae gan Enoc Huws hanes golygyddol cymhleth ac mae’n werth sicrhau eich bod yn darllen y fersiwn llawn, anhalfyredig: yr argraffiad sy’n dwyn y clawr uchod sydd orau.

 

  1. O Law i Law (1943)

T. Rowland Hughes (1903-1949)

Roedd dewis un yn unig o bum nofel T. Rowland Hughes yn weddol anodd gan fod i bob un ei chryfderau.

Mae mwyafrif nofelau Hughes yn trafod diwylliant chwarel’r gogledd-orllewin, ac roeddwn eisiau dewis Chwalfa oherwydd pwysigrwydd hanesyddol pwnc y nofel, sef Streic Fawr chwarel y Penrhyn ar ddechrau’r 20fed ganrif, ond penderfynais setlo ar O Law i Law gan mai hon efallai yw nofel fwyaf dirdynnol a theimladwy’r awdur.

Mae dyn yn gwerthu eiddo ei Dad ac wrth wneud hynny mae’n rhannu ei atgofion gyda’r darllenydd am ei gymdeithas, eu bywydau a’u gwerthoedd.

Mae tueddiad weithiau i ddiystyru gwaith T. Rowland Hughes am fod yn sentimentalaidd ac er bod hynny weithiau’n gyhuddiad teg, ar yr un pryd mae’n tanbrisio nofelydd oedd yn llunio’i weithiau yn ofalus; gallu a fyddai wedi bod yn amhrisiadwy yn nwylo Daniel Owen.

Bu Hughes yn gynhyrchiol iawn dros ei yrfa cymharol fyr a phan fu farw’n gynnar o effaith sglerosis ymenyddol (MS), fe gollwyd un a allasai fod wedi cyfrannu dwsinau o nofelau eraill i’r iaith.

Cynrychiolodd Hughes ddechrau dadeni o ran nofelau yn y Gymraeg a barodd tan y 1960au.

 

  1. Y Byw sy’n Cysgu (1956)

Kate Roberts (1891-1985)

Nofelydd arall y mae’n anodd iawn dewis un gwaith i’w cynrychioli.

Nid heb reswm y gelwir Kate Roberts yn ‘frenhines y stori fer’ ac yn y genre hwnnw efallai y mae ei gwaith gorau, ond mae ei nofelau heb os yn llawn haeddu eu cynnwys ar unrhyw restr o nofelau pwysig yn y Gymraeg.

Rydw i wedi dewis Y Byw sy’n Cysgunofel fewnblyg am fenyw sy’n gadael ei gŵr – pwnc dadleuol a dewr i’w trafod yn 1956, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wahanol i Monica gan Saunders Lewis (nofel nad yw’n gwneud fy rhestr), mae’n gwneud hynny’n â sensitifrwydd a chydymdeimlad yn hytrach na chondemio.

 

  1. Wythnos yng Nghymru Fydd (1957)


Islwyn Ffowc Elis (1924-2004)

Yn sicr, nid y nofel hon mo uchafbwynt celfyddydol na llenyddol ei hawdur, na chwaith o reidrwydd ei nofel fwyaf darllenadwy.

Credaf fodd bynnag bod modd dadlau mai dyma nofel bwysicaf Elis, am nifer o resymau.

Yn gyntaf, dyma nofel ffuglen wyddonol gyntaf iaith Gymraeg, neu o leiaf y cyntaf o unrhyw sylwedd.

Cynrychiolodd ei chyhoeddiad y ffaith bod modd defnyddio’r Gymraeg i drafod unrhyw bwnc ac unrhyw ddeunydd, ffaith a fu wrth gwrs yn wir erioed, ond a wnaethpwyd yn glir i’r cyhoedd á chyhoeddi’r nofel hon.

Yn ail, er gwaetha’r agenda gwleidyddol oedd wrth wraidd yr hyn yr oedd Elis yn ceisio’i wneud gyda’r nofel, mae’r syniadau mae’r nofel yn cyffwrdd arnynt o ran natur hanes a realiti yn gwirioneddol ddiddorol ynddynt eu hunain.

Nofel sy’n llawn haeddu ei lle mewn rhestr fel hon.

 

  1. Un Nos Ola Leuad (1961)

 
Caradoc Pritchard (1904-1980)

Am gyfnod cyffrous yn hanes y nofel Gymraeg oedd hwn, gyda Kate Roberts ac Islwyn Ffowc Elis yn cyhoeddi eu campweithiau!

Fodd bynnag, nid i’r naill neu’r llall o’r nofelwyr yma y daeth nofel enwocaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod. Mae Un Nos Ola Leuad yn nofel arloesol, ond mewn ffyrdd hollol wahanol i Wythnos yng Nghymru Fydd.

Mae dylanwad gweithiau stream-of-consciousness awduron fel James Joyce yn glir yma, ond nofel Gymreig yw Un Nos Ola Leuad yn ei hanfod.

Nofel yw yn y bôn am ddirywiad meddyliol mam y traethydd, dirywiad a chyflwynir drwy gyfuniad o drosiadau cymhleth o dirwedd fynyddig y Gogledd-orllewin â chymeriad sydd, drwy ei oed a’i natur, rywfaint ar wahân o’r digwyddiadau sy’n digwydd o’i gwmpas.

Dyma ddechrau’r abswrd, y swrreal a’r tywyll mewn nofelau Cymraeg – heb sôn chwaith am ddefnydd tafodiaith drwchus – ac mae ei ddylanwad i’w weld yn glir iawn yng ngwaith awduron mwy diweddar megis Robin Llywelyn, Angharad Tomos, Mihangel Morgan ac eraill.

 

  1. Marged (1974)

T. Glynne Davies (1926-1988)

Efallai dyma nofel ac awdur lleiaf adnabyddus y rhestr hon, ond yn fy marn i mae’n perthyn i’r rheng flaenaf oll ymhlith nofelau yn y Gymraeg, a hnyny er gwaetha’r ffaith iddi gael ei chyhoeddi yn ystod cyfnod gweddol dawel yn hanes nofelau yn yr iaith.

Saga hir yw Marged am hanes teulu yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy dros nifer o genedlaethau o chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y rhyfel byd cyntaf; mae aelodau’r teulu yn dioddef effeithiau grymoedd nad oes modd eu gwrthwynebu, boed yn dlodi neu ryfel neu effaith andwyol gwasgedd cymdeithasol.

Mae i’r nofel ei wendidau, gyda rhagfarn obsesiynol gwrth-wyddelig yn flaenaf oll ymysg y rheiny, ond mae’n haeddu cynulleidfa mwy.

Dyma un o weithiau mwyaf uchelgeisiol Llenyddiaeth Gymraeg a dylai pawb sy’n ymddiddori yn ein hanes rhoi cynnig arni o leiaf.

 

  1. Y Pla (1987)

 

William Owen Roberts (1960 -)

Agwedd a sylwir arni’n gyffredin wrth drafod llenyddiaeth ieithoedd lleiafrifol yw bod tueddiad i lenorion ganolbwyntio ar destunau cyfarwydd, gan leoli eu gwaith yng nghyd-destun y diwylliant y maent yn perthyn iddo.

Mae William Owen Roberts yn enghraifft glir i’r gwrthwyneb: nid yw’n gadael i’r ffaith mae’n ysgrifennu yn y Gymraeg ei rwystro rhag trafod y pynciau sy’n ei ddiddori.

Mae rhannau o Y Pla yn digwydd mewn pentref yng Nghymru, ond mewn gwirionedd gellid eu symud i unrhyw fan arall yn Ewrop y canol oesoedd heb effeithio dim ar y stori.

Mae ei nofelau mwy diweddar, Paradwys Petrograd yn symud ymhellach y tu hwnt i’r profiad Cymreig, a da o beth yw hynny: os mae’r Saesneg yn gyfrwng teilwng i drafod unrhyw bwnc dan haul, yna pam lai’r Gymraeg?

Agwedd arall am waith William Owen Roberts sy’n apelio ataf i’n bersonol yw uchelgais ei nofelau: nid iddo ef cyfrolau byrion, hawdd eu darllen, ond yn hytrach nofelau enfawr, trwchus sy’n trafod hanfodion gwleidyddiaeth a’r ddyniolaeth.

Mae’r penderfyniad i ysgrifennu nofelau mor fawr a chymhleth mwy na thebyg wedi cyfyngu ei gynulleidfa rywfaint, ond mae gwaith William Owen Roberts yn haeddu ei ddarllen gan bawb.

Rydw i wedi dewis y Pla yn benodol er mwyn llenwi bwlch a fyddai yn y rhestr rhwng yr 70au a’r 21g, ac i fodloni’r rheol uchod am beidio cynnwys gormod o lyfrau o’r un cyfnod.

Ond mewn gwirionedd pob un o nofelau’r awdur yn gyfraniad pwysig at yr iaith ac ychydig sydd i ddewis rhyngddynt o ran safon gyffredinol.

 

  1. Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992)

 
Robin Llywelyn (1958) –

Dwi wedi gweld y term realaeth hud (magical realism) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio nofel unigryw Robin Llywelyn, ond ffantasi yw hwn mewn gwirionedd ac am wn i dim ond genre­snobyddiaeth sy’n achosi i unrhyw un osgoi’r term.

Er bod byd boncyrs y nofel yn hollol ddychmygus, mae’n hawdd gweld sut dyfodd o ddychymyg Cymreig gan fod y nofel yn ymdrin â phynciau fel cenedl a’r ymwybyddiaeth ohoni.

 

  1. O! Tyn y Gorchudd (2002)


Angharad Price (1972-)

Nofel arall sy’n herio diffiniadau a gwrthsefyll unrhyw ymgais i’w gategoreiddio’n llawn, mae’r llyfr hwn yn plethu elfennau o fywgraffiaeth, hanes lleol a’r dychymyg i greu rhywbeth sydd, am wn i, yn hollol unigryw yn yr iaith.

Heb eisiau datgelu gormod, mae’r nofel yn chwarae a’r syniad o “wir” a “ffuglen” mewn ffordd hollol annisgwyl. Mae’r llyfr yr un mor arbrofol a nofelau eraill ar y rhestr hon fel Y Pla neu Seren Wen, ond yn llawer mwy darllenadwy.

 

  1. Dyn yr Eiliad (2003)


Owen Martell (1976 -)

Gogledd-orllewin Cymru yw tarddiad llawer o nofelau Cymraeg, gan gynnwys nifer fawr ar y rhestr hon.

Does dim byd o’i le ar hynny – mae’n naturiol gan mae’r Gogledd-orllewin fu cadarnle’r iaith yn ystod yr 20fed ganrif.

Fodd bynnag teg yw nodi mai ardaloedd dinesig y De sy’n cynrychioli cylch profiad mwyafrif siaradwyr Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddwn eisiau cynnwys o leiaf un nofel sy’n adlewyrchu’r profiad hynny.

Roedd yn anodd dewis rhwng hon a Ffydd, Gobaith Cariad gan Llwyd Owen, ond penderfynais ddewis nofel Owen Martell yn y diwedd am mai honno yw’r mwyaf uchelgeisiol o’r ddau.

Mae’r stori hon am y berthynas rhwng tri chymeriad ifanc o Ddowlais yn llwyddo i wneud Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn elfen anghanolog o’r stori, tra ar yr un pryd disgrifio profiad a bodolaeth na ellir ond bod yn Gymreig.

Yn fy marn i dyma nofel orau’r iaith Gymraeg ers troad y ganrif.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox