Support our Nation today - please donate here
Opinion

Mae angen dod â rhagor o fenywod i mewn i wleidyddiaeth Cymru

08 Mar 2019 7 minute read
Siân Gwenllian AM. Llun gan y Cynulliad (CC 2.0).

Bydd llawer o’r negeseuon y byddwn yn eu clywed ar Diwrnod Rhyngwladol y Menywodyn negeseuon am gydraddoldeb a thegwch i fenywod – ond fydda nhw ddim yn negeseuon newydd sbon.

Pam felly fod angen i ni ailadrodd yr un negeseuon yn flynyddol?

Wel yn gyntaf mae nhw werth eu dweud os yn unig i ddangos cefnogaeth ac undod i’n cyd- fenywod, ac i ddathlu ein galluoedd, cyflawniadau, a’n chwaeroliaeth.

Ond ar ben hynny mae rhaid i ni ddefnyddio’r diwrnod hwn oherwydd dydy cydraddoldeb gyflawn i fenywod ddim eto’n bodoli. Mae hi tipyn anoddach i fod yn anabl, neu’n ethnig leiafrifol, neu’n ddi-waith o fod yn fenyw hefyd. Nid yw cynnydd yn digwydd ar raddfa digon cyflym. Fedrwn ni ddim eistedd yn ôl ag aros i gydraddoldeb gyflawn ein cyrraedd ni.

Yr ystadegau

Mae ambell i ystadegyn yn pwysleisio’r pwynt. Yn ôl adroddiad gan Chware Teg, mae graddfa tlodi yn uwch ymhlith menywod. Rhai rhesymau dros hyn yw bod 42% o fenywod yng Nghymru yn gweithio’n rhan-amser o’i gymharu a 12% o ddynion, ac mae 90% o rieni sengl yn fenywod.

Yng Nghymru, 41.7% o Aelodau Cynulliad a etholwyd yn 2016 oedd yn fenywod; ffigwr sydd wedi llithro o’r sefyllfa pan oeddem yn arwain y byd yn 2003, gyda hanner yr aelodau yn fenywod. A gwaethygu mae’r ystadegau o fan hyn ymlaen gyda dim ond 28% o ASau o Gymru yn fenywod a 28% o gynghorwyr lleol yn fenywod. Ar sail cyfradd y cynnydd presennol bydd rhaid i ni aros tan 2073, 54 mlynedd, cyn sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein cynghorau lleol sy’n golygu gallwn golli cenedlaethau cyfan o fenywod talentog.

Un ystadegyn trawiadol sy’n pwysleisio pwysigrwydd diwrnod y fenyw i mi – heb os – yw na fu yr Aelod Cynulliad benywaidd yng Nghymru o gefndir ethnig lleiafrifol. Caiff hyn effaith ar undod ein chwaeroliaeth oherwydd heb i bob rhan o’r gymdeithas gael ei chynrychioli’n effeithiol caiff hygyrchedd democratiaeth ei sgiwio ac ni chaiff materion perthnasol i gymunedau BME eu clywed fel y dylasent.

Fe ddylai’r Cynulliad, a’n mudiadau gwleidyddol fod yn esiampl i weddill ein gweithluoedd a’n diwylliant. Does dim un mudiad yn imiwn o effeithiau anghydraddoldeb. Mae’n gyfrifoldeb i bleidiau gwleidyddol, cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd y mater hwn o ddifri ac ymrwymo i dargedau uchelgeisiol.

Cydraddoldeb lawn

Felly pam yr annhegwch? Beth sy’n ei wneud hi mor anodd i ni gyrraedd cydraddoldeb lawn? Ac wrth gwrs nid yw’r ateb yn un syml: cyfleoedd, cyfrifoldebau gofal, rhagfarn a thueddiadau anymwybodol, casineb ar-lein ac yn y cyfryngau ac aflonyddu rhywiol yw rhai o’r heriau.

Rydw i wedi gorfod profi rhai o’r heriau yma fy hun fel cynghorydd sir: diffyg gofal plant, diffyg rolau model, cyfarfodydd ar amseroedd anghyfleus, diwylliant cefnogaeth ac rwy’n ymwybodol hefyd fod awyrgylch gelyniaethus a bygythiol yn gallu wynebu rhai menywod wrth iddynt fentro i mewn i’r byd hwn. Ynghyd â phroblemau ymarferol mae yna rhwystrau mwy diwylliannol a chymdeithasol yn bodoli hefyd.

Problem fawr ddiwylliannol sy’n rwystr bendant yw aflonyddu rhywiol. Mae menywod ifanc yn benodol yn agored i aflonyddu ac yn llai tebygol o adrodd ar gamdriniaeth ac aflonyddu pan mae’n digwydd. Mae hyn yn ymestyn i ddiffyg hyder cyffredinol ymysg menywod ifanc o ran cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Yn ystod eu blynyddoedd cynnar mae merched a menywod ifanc yn cael eu bwydo negeseuon negyddol – nad yw eu lleisiau mor bendant ac ymwthgar a lleisiau dynion, ac nad yw eu barn mor ddilys. Fel canlyniad mae menywod ifanc yn llawer llai tebygol o godi llaw i siarad mewn trafodaethau. Mae nifer yn aros yn dawel. Mewn oes o gamdriniaeth a beirniadaeth ar-lein, lle mae menywod di-flewyn-ar-dafod yn cael eu targedu’n, mae’n haws i aros yn dawel yn hytrach na mynegi barn. Mae’n ddealladwy pam y byddai’r rhan fwyaf o fenywod yn penderfynu gweithio yn y cefndir yn hytrach na chymryd swyddi mwy cyhoeddus, uchelgeisiol.

Mae’n rhaid i’r status quo yma ddod i ben, a diwylliant o atebolrwydd gymryd ei le.

Rhaid i ddeddfwriaeth gael ei gryfhau, ac mae’n rhaid i weithdrefnau disgyblu fod yn gadarn a thryloyw. Rhaid i sgyrsiau sy’n digwydd mewn sibrydion mewn corneli tawel gael eu clywed. Rhaid i ddioddefwyr camdriniaeth wybod lle i droi a theimlo’n hyderus y bydd eu cwynion yn cael eu hymchwilio. Mae nhw angen teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn hytrach nag aros yn ddi-lais ac yn ddi-bŵer.

Cydbwysedd er Gwell

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw eleni yw Cydbwysedd er Gwell, Balance for Better. Yn y geiriau hynny mae deall beth yw’r seiliau sydd eu hangen ar lywodraeth er mwyn cyflawni cymdeithas hafal go iawn.

Bu’r mudiad Chware Teg yn ymchwilio i werth economaidd cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru – neu ddiffyg cydraddoldeb i fod yn fanwl gywir. Rhagdybiodd yr adroddiad petai gennym gydraddoldeb rhywiol llawn – mewn cyfraddau cyflogaeth, oriau gwaith a chynhyrchiant – erbyn 2028, amcangyfrifwyd y byddai hyn yn roi hwb o £13.6 biliwn i werth ychwanegol gros Cymru.

Byddai £9.2 biliwn o hyn yn dod o’r cynnydd mewn oriau cyfartalog a weithir gan weithwyr benywaidd, a £4.4 biliwn yn dod drwy’r cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth menywod a’u cyfranogiad mewn sectorau cynhyrchiant uchel.

Ni allwn fforddio tanddefnyddio sgiliau a photensial menywod. Ac yn hyn, ni allwn fforddio troi i ffwrdd o’r gair ‘ffeministiaeth’. Y cwbl yw hyn yw chware teg a chydraddoldeb er mwyn cyrraedd cydbwysedd. Fel dywed Laura McAllister, sut all Cymru gyflawni ei llawn botensial heb gael Cymru sy’n falch o fod yn ffeministaidd?

Busnesau cytbwys, llywodraeth cytbwys, sylw cytbwys yn y cyfryngau, cydbwysedd rhyw mewn cyflogaeth, cydbwysedd rhyw mewn cyfoeth, cydbwysedd rhyw mewn chwaraeon. Mae cydbwysedd rhyw yn allweddol er mwyn i economïau a chymunedau lewyrchu.

Ffordd ymlaen

Sut i wneud hyn yn y byd gwleidyddol felly? Mae adroddiad gan Laura McAllister ar ddiwygio’r Cynulliad yn awgrymu y dylid integreiddio cwota rhywedd i’r system etholiadol a sefydlir ar gyfer etholiadau 2021. Byddai hyn yn cyflwyno gwaelodlin o ran cyfran yr ymgeiswyr a gyflwynir gan bleidiau yn yr etholiad sy’n ddynion ac sy’n fenywod.

Mae Iwerddon wedi cyflwyno cwota o’r math yma yn ddiweddar, i’w gwneud yn ofynnol fod o leiaf 30 y cant o’r ymgeiswyr y mae pob plaid yn eu cyflwyno ar gyfer yr etholiad yn fenywod (yn cynyddu i 40 y cant ar ôl saith mlynedd). Cynyddodd canran yr ymgeiswyr a oedd yn fenywod 90 y cant yn etholiad 2016 o gymharu ag etholiad 2011, gyda chynnydd cyfatebol o 40 y cant yn nifer y menywod a etholwyd—35 yn 2016 o gymharu â 25 yn 2011.

Mae pleidiau yn Sgandinafia, Sbaen ac Awstria wedi cyflwyno cwotâu cyffelyb o’u gwirfodd, yn amrywio o 33 y cant hyd at 50 y cant.

Petai Plaid Cymru mewn Llywodraeth mi fyddwn i yn ymgyrchu dros roi argymhellion Laura McAllister ar waith. Rydym yn barod yn bwriadu cael y mwyaf o ymgeiswyr benywaidd ar gyfer etholiad Cynulliad 2021 nag erioed o’r blaen gyda’n polisi gefeillio, ond hoffwm weld y polisi cynrychiolaeth gyfartal trwy cwotâu wedi ei gloi mewn deddfwriaeth. Byddai’r fath ddeddfwriaeth yn sicrhau mecanwaith sydd wedi’u gynllunio yn benodol i ddod â mwy o fenywod i mewn i wleidyddiaeth a chynghorau lleol, ac wedi’u strwythuro trwy dargedau, amcanion a mesuriadau. Rydym hefyd yn awyddus i gael polisi clir ar rannu swyddi.

Yn ogystal a hyn byddem yn cynnig gofal plant am ddim i bawb, yn gwthio am ddatganoli gweinyddiaeth les, yn sefydlu rhaglenni mentora, ac onid ydyw’n hen bryd am Weinidog dros Fenywod?

Dyw cydraddoldeb lawn ddim eto’n bodoli, ond mae’r glorian yn symud. Wrth ddefnyddio ein grym a’n lleisiau ar ddiwrnodau fel hyn, gam wrth gam, fe fydd y glorian yn symud – ac yn symud yn gynt wrth fagu momentwm.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.