Gwrthsafiad pobol Cymru – nid rhethreg wag y llywodraeth – fydd yn sicrhau dyfodol y Gymraeg

Llun gan Tripadvisor

Aled Gwyn Jôb

Pe baech chi am lunio mudiad torfol newydd o blaid y Gymraeg heddiw, falle mai model y seren fôr (starfish) fyddai’r un i’w ddefnyddio at y diben hwn.

Wedi’r cwbl, un o nodweddion seren fôr yw ei gallu i ad-gynhyrchu ei hun yn barhaus, ac ail-greu ei hun hyd yn oed wrth golli rhannau o’i chorff ei hun.

Nodweddion anhepgor ar gyfer iaith leiafrifol sy’n gorfod delio gyda cholledion o fath gwahanol yn gyson ac ail-ddiffinio ei hun yn barhaus yn ei sgil.

Efallai bod moeswers o’r ymgiprys rhwng yr Apaches a’r Sbaenwyr sawl canrif yn ol hefyd yn werth ei gofio yn nghyd-destun model y seren for a’r Gymraeg.

Roedd y Sbaenwyr wedi llwyddo i sbaddu diwylliannau cyfoethog yr Incas a’r Aztecs yn eu tro a hynny bron dros nos, trwy ladd eu harweinwyr a lladd ysbryd eu pobol yn yr un gwynt.

Ond fe roedd hi’n stori wahanol iawn pan geision nhw drechu llwyth yr Apaches yn America yn yr un modd yn ddiweddarach.

Doedd gan yr Apaches ddim arweinwyr penodol fel y cyfryw. Yn hytrach, roedd eu diwylliant hwy yn un gwasgarog a gwastad, yn seiliedig ar bawb yn ymarfer cyfrifoldeb dros eu hunain, trwy ba bynnag brosesau a welent hwy oedd yn briodol ar y pryd.

Roedd y grym wedi ei wasgaru i sawl cyfeiriad felly, a hyd yn oed pan syrthiodd rhan o’r llwyth i ddwylo’r gelyn, roedd y llwyth yn gallu ad-gynhyrchu ei hun mewn man arall mewn dim o dro.

Fe gymerodd hi flynyddoedd mawr i’r Sbaenwyr eu trechu, a dim ond trwy werthu gwartheg i gynheiliaid traddodiad ysbrydol yr Apaches, y Nant’an, y llwyddwyd i dorri eu crib fel pobol.

Model y seren fôr oedd gan yr Apaches wrth wraidd eu diwylliant – model sydd wedi ei efelychu i raddau gan gwmniau mawr megis Napster, Ebay a Wikipedia heddiw wrth iddynt hwythau wasgaru grym, gwastatau eu prosesau ac annog cymaint o gyfranogaeth ag sy’n bosib gan eu cwsmeriaid.

 

Sterileiddio

Tybed nad oes ganddon ni fodel seren fôr yn ei lle yn barod yng Nghymru ar gyfer y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg ar lefel torfol heddiw?

A hynny drwy YesCymru.

Yn amlwg ddigon, mudiad ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yw YesCymru. Dyna ei briod waith ac ni ddylai wyro o’r nod hwn, a mynd i hela gormod o ysgyfarnog gwahanol ar hyn o bryd.

Wedi dweud hynny, tybed nad oes yma gyfle hanesyddol ynghlwm wrth dwf rhyfeddol YesCymru fel ffenomena genedlaethol newydd dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf?

A bod ryw fodd o ddefnyddio’r ymchwydd hwn i hyrwyddo’r iaith Gymraeg hithau mewn modd cwbwl newydd i holl bobol Cymru.

Y gwir amdani ydi bod gwir angen pau (domain) newydd a byrlymus ar y Gymraeg heddiw.

Oherwydd mae’r sefydliadau cenedlaethol hynny sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg mor llwyddiannus yn y gorffennol pell a’r gorffennol diweddar wedi methu bellach.

Mae’n capeli a’n heglwysi – cynheiliaid anrhydeddus yr iaith dros sawl canrif – yn prysur dadfeilio. Mae sawl llywodraeth Gymreig wedi methu’n druenus i hyrwyddo’r iaith. Mae hyd yn oed ein sianel genedlaethol – fu’n destun cymaint o obaith a balchder ar un cyfnod – wedi ein methu.

Does ond angen cymryd golwg ar un o gynhyrchiadau dramatig cyfoes y sianel i sylweddoli mai marchnad ryngwladol yw’r gynulleidfa darged bellach pob gafael. Y cynhenid Gymraeg a Chymreig yn eilbeth sâl iawn yn y model cosmpolitan presennol sy’n rhan o fydolwg S4C heddiw.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hithau i’w weld yn berffaith fodlon gyda’r ganran bitw bach o 8% o Gymry Cymraeg sy’n mynychu’r wŷl pob blwyddyn. Maen nhw hefyd ymhlith y sefydliadau sydd wedi rhoi’r gorau i unrhyw ymdrech i wneud yr iaith yn offeryn gwirioneddol boblogaidd yng Nghymru heddiw.

Ac mae’r parlys hwn hefyd wedi ymdreiddio i’r sefydliadau newydd sydd wedi eu ffurfio i hyrwyddo’r Gymraeg dros y cyfnod diweddar, megis Bwrdd yr Iaith a Swyddfa’r Comisinydd Iaith. Er y gwaith pwysig a gyflawnir ganddynt i godi statws swyddogol yr iaith, mae yna ryw wacter mawr yng nghanol y cwbl.

Mae fel petai’r Gymraeg wedi cael ei sterileiddio rhywsut yn y broses hon, ac wedi datblygu’n iaith fiwrocrataidd yn bennaf oll – iaith swyddogol ar sawl ystyr, ond iaith rhyfedd o ddi-enaid yr un pryd.

Bron fod dyn yn teimlo bod yr iaith wedi cael ei hamddifadu o’i phwrpas mewn bywyd mewn ryw fodd.

Ffydd

Angen mawr y Gymraeg heddiw ydi bod yn iaith gwrthsafiad (resistance) unwaith eto. Ac onid oes cerbyd ar gyfer y gwrthsafiad hwn i’w weld yn yr ymgyrch dros annibyniaeth a arweinir gan YesCymru?

Dyma ymgyrch heb unrhyw baggage o’r gorffennol, dim methiant na siomedigaeth yn perthyn iddi, nag unrhyw synnwyr o ragorfraint a hunan-les ynghlwm wrthi ei hyrwyddo ychwaith. Ar hyn o bryd o leiaf! Ymgyrch sydd yn llawn newydd-deb, optimistiaeth, gweledigaeth, gobaith ac eneiniad.

Mudiad seren for hefyd yn ei phwyslais ar y rhwydwaith eang o grwpiau llawr gwlad ar hyd a lled Cymru, hafaledd yr holl grwpiau, a’u hawl i weithredu ar eu liwt eu hunain, hyd braich o’r canol. Mudiad agored ac ysgafndroed sy’n dibynnu mwy ar ymddiriediaeth a ffydd rhwng pobol a’i gilydd, rhagor na rheolau a strwythur top i lawr haernaidd.

Yr hyn a garwn i ei awgrymu yw gweld ffurfio brand newydd fel ‘spin-off’ o YesCymru (Cymraeg? – Oh YES! ) all gyflwyno’r iaith mewn modd llawr gwlad i aelodau, cefnogwyr a chynheiliaid a dilynwyr y mudiad trwy Gymru gyfan.

A hynny ar ffurf prosiect mentora iaith gwirfoddol. Gydag un siaradwr Cymraeg yn mentora un siaradwr Saesneg i’w annog a’i ysbrydoli i ddysgu iaith y gwrthsafiad.

Mae arbenigwyr iaith yn datgan mai’r ffordd orau i ddysgu unrhyw iaith ydi trwy ddiddordebau unigol y dysgwr, a theilwra’r dysgu o gwmpas y diddordebau hynny.

Tybed faint hwylusach fyddai’r broses hon hefyd trwy gyfuno diddordeb mewn annibyniaeth, gyda chyfeillgarwch, ymddiriedaeth a theyrngarwch rhwng unigolion a’i gilydd:yr union nodweddion sydd ar waith rhwng pobol sy’n rhan o’r mudiad hwn?

Yn enwedig felly yn y gorymdeithiau dros annibyniaeth sydd wedi’u cynnal yma dros y flwyddyn ddiwethaf. Gyda thair arall eisoes wedi eu cyhoeddi’n barod ar gyfer eleni.

Mae rhai’n dechrau dweud bod angen i drefnwyr y gorymdeithiau geisio meddwl am gynnwys gweithgareddau rhagor na dim ond gorymdeithio a chyfres o areithiau erbyn hyn.

Mwy o bwyslais ar hyrwyddo Cymreictod efallai. Beth am roi gofod i’r broses fentora hon fel rhan o hynny? Gan gynnig cyfle i bawb ddysgu rhagor am yr iaith a’i datblygu ymhlith ei gilydd fel rhan o’r gwrthsafiad Cymreig cyfoes.

Gyda’r ewyllys da sy’n bodoli tuag at yr iaith o fewn y mudiad (gweler yr ymgyrch i gael Yma o Hyd i rif 1 ar itunes) fe allai ymdrech fel hon ledu fel tân gwyllt trwy Gymru yn yr amgylchiadau sydd ohoni.

Rhywbeth ddigon tebyg i’r hyn a welwyd gydal llwyddiant y Gaelic League yn Iwerddon yn niwedd y 19eg ganrif, pan sefydlwyd 400 o grwpiau ar hyd a lled Iwerddon mewn cwta dwy flynedd rhwng 1893 ac 1895.

Pam na ellid dychmygu cynyddu canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 30% erbyn 2030? Targed llawer amgenach a phwrpasol na rhethreg wag Llafur Cymru am weld miliwn o siaradwyr erbyn 2050!

Nod wedi ei lunio nid trwy ddiktat biwrocrataidd llywodraeth, ond trwy ewyllys da a gweledigaeth pobol Cymru eu hunain.

Wedi’r cwbl, mae hynny o lwyddiannau gyda’r Gymraeg yng Nghymru dros y canrifoedd wedi codi o ymdrechion pobol eu hunain ar eu liwt eu hunain – heb gyfarwyddyd llywodraethol mewn gwirionedd.

Boed hynny’r ysgolion cylchynol yn y 18ed ganrif arweiniodd at y raddfa lythrennedd uchaf yn Ewrop erbyn canol y 19eg, neu’r broses o godi’r cannoedd o gapeli sydd i’w gweld ar hyd a lled y wlad: ymdrechion gwirfoddol yn seiliedig ar genhadaeth a phwrpas neilltuol sydd wastad wedi cario’r dydd.

A’r ymdrech wirfoddol sydd cymaint o’i eisiau hedddiw ydi mudiad torfol boblogaidd i sicrhau lle canolog i’r Gymraeg yn y Gymru Annibynol y mae cynifer yn dyheu am ei weld.

A hynny ar batrwm seren for wasgarog, hunan-gymhellol, hyblyg ac ymatebol all gynnal ac ail-greu ei hun fel bo’r angen.

Articles via Email

Get instant updates to your inbox

6
Leave a Reply

avatar
4 Comment threads
2 Thread replies
0 Followers
 
Most reacted comment
Hottest comment thread
6 Comment authors
Huw J DaviesRhosdduBill PhillipsJohn EvansHuw Davies Recent comment authors
  Subscribe  
newest oldest most voted
Notify of
Jonathan Gammond
Guest
Jonathan Gammond

Does dim lot o bobl sy gallu ddeall eich eich erthygl! Hefyd fel rhwyun sy’n dysgu Cymraeg dwi ddim yn siwr fy mod i eisiau gwario cymaint amser darllen erthygl ble rhwyun yn cymharu yr Apache, yr Incas a’r Aztecs i Gymry yng Nghymru. Mae lleoliadau yn wahanol iawn iawn. Ond wna i eistedd efo fy ngheiriadur dros y penwythnos neu effallai …google translate.

Huw Davies
Guest
Huw Davies

Syniadau deniadol am eu bod yn haws eu gweithredu na ryw “fframwaith reoleiddo” sy’n amal ffefryn cyrff cyhoeddus. Tybiaf y bydde Cymdeithas yn cymryd dipyn o ddiddordeb yn eich gweledigaeth a dyle fod miloedd o Gymry (lled -rhugl) Cymraeg yn barod I wario amser yn datblygu eu sgiliau “coach” gyda dysgwr, cymydog neu cyd genedlaetholwr/aig. Gyda llaw y Comanche fu yn “rheolu” gogledd ymerodraeth y Sbaenwyr yn Mexico. Ni orchfygwyd hwy, ynwir fe fuont yn boen di- ben draw i’r mewnlif Ewropeaidd tan i’r UDA fynd ati o ddifri i’w difa wedi y rhyfel rhwng y Talauthau . Bu bron… Read more »

John Evans
Guest
John Evans

regardless of the americas, I’m dysgu cymraeg at the mo – I could absolutely do with a person I could speak to regularly to help me. Of all the times I have made the effort to re-start learning I feel in with a chance making progress on good old duolingo! However it becomes rapidly obvious that without anyone to chat to I cannot gain much further ground. My cymraeg is stifled. Mentoring is a great idea – even an online / skype type of thing would be good. It seems to me that there are many like myself that would… Read more »

Bill Phillips
Guest
Bill Phillips

Me too, John Evans. I’m at a certain elementary level and will be unlikely to get a lot better on courses (particularly living in London). As adults we need a long immersive experience of the language within a Welsh speaking (and patient) community. Perhaps offering a skill in return for cheap board and lodging. This will only happen if Welsh speaking communities are willing to organise this – one of the arms of the starfish? I find bi-lingualism is a problem. It’s always easier for a Welsh speaker to switch to English when the learner is really struggling.

Rhosddu
Guest
Rhosddu

Lle dach chi’n byw, John? A lot depends on that, and I’m assuming you still live in Wales. There’s usually a pub or cafe where Welsh speakers hang out, or your local library might be able to point you in the right direction. Some places have a venue where Welsh learners can get together in order to practice and improve. I suspect that the teaching and mentoring you refer to would either have to be informal, or would not be free of charge. Hope I’m wrong. What about a class, with a real, live teacher? They’re well-subsidised and very affordable,… Read more »

Huw J Davies
Guest
Huw J Davies

Falle os yw y Cymry rhugl eu hiaith yn fwy parod i ddefnyddio Cymraeg ‘llygredig’ bydd mwy o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg bratiog yn fodlon defnyddio yr eirfa sydd ganddynt. Mae’n rhaid derbyn fod ‘mae Welsh fi’n crap ond fi yn tryo siarad e’ yn fil gwell na ‘my Welsh is so crap I don’t dare say anything’. Mae safon y Gymraeg ar Rhaglen Jonathan, yn fwy na digon da, a ‘doedd dim byd yn bod ar Gymraeg Tommo, druan, ar ei raglen radio. Mae ‘pidgin Welsh’ yn well na ‘no Welsh’. So rhaid i un o freichiau’r starfish fod… Read more »