Opinion

Neges i Fôn

01 Sep 2019 3 minutes Read
Aled ap Dafydd

Aled ap Dafydd

Trawsnewidiwyd Llundain gan chwilfrydedd y Chwedegau o fod yn ddinas arw, ôl-ryfel byd i fod yn hafan i hedonistiaeth.

Roedd rhyddid barn yn ffynnu, ond prin y sylwodd neb ar stori Bethan.

Yn un o Gymry Llundain i’r carn, hi oedd Merch y Mans. Daeth salmau’r Sul a slang y ‘Cockney’ ar y stryd yr un mor gyfforddus iddi.

Ym 1966 safodd mewn etholiad, merch dwy ar bymtheg oed a aned yng nghadarnle’r Deyrnas Unedig yn gwisgo roset Plaid Cymru gyda balchder.

Diolch i’r drefn, doedd dim angen ernes yng ngornest Leyton High a gwnaeth Gwynfor gryn dipyn yn well yn yr etholiad a oedd wir yn cyfri’r flwyddyn honno.

Ond i Bethan, roedd gwreiddiau gogledd Môn cyn ddyfned â rhai gogledd Llundain.

Yn Llanerchymedd y ganed a magwyd ei thad, y Parchedig Meic Parry ac yn Ysgol Gyfun Llangefni y bu hi’n athrawes hanes. Roedd ei gŵr, Dafydd yn brifathro yn ysgol uwchradd fwyaf Môn, David Hughes. Mae hi’n record deuluol falch o wasanaeth cyhoeddus ar y fam ynys.

Fe wyddom o brofiad serch hynny nad pawb sydd yn dangos yr un arwydd o barch at yr ynys a’i phobol.

Gyda Llywodraeth Geidwadol ddinistriol yn San Steffan sydd yn fodlon aberthu economi Môn ar allor nostalgia yr Ymerodraeth Brydeinig, mae’n rhaid gwneud i  Fôn gyfri yn fwy nag erioed.

Rheidrwydd ydi cael llais profiadol a chadarn all gyfathrebu’r neges yn broffesiynol mewn cyfnod gwleidyddol digynsail; lladmerydd blaengar ac egnïol i drechu Brexit a chynnig gobaith.

Heddiw, rwy’n gofyn i aelodau Plaid Cymru ym Môn ymddiried ynof fi yn yr etholiad cyffredinol i wneud y gwaith.

Mi fydd gen i gytundeb gyda chi – pobl Môn – un sydd yn well, yn fwy gonest a goleuedig nag unrhyw gytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gadewch i ni wneud yr etholaeth yn lasbrint o beth fydd y Gymru newydd annibynnol. Cymdeithas sydd yn cefnogi’n pobol ifanc trwy waith, fel y gall pawb gadw’r iaith heb orfod gwneud y daith am fywoliaeth.

Rwy’n addo bod yn gwmpawd moesol, un sydd yn anelu at sicrhau cyfiawnder economaidd. Rhoi cil dwrn i’r DUP sy’n mynd ag amser y Ceidwadwyr ond mynnu cyfran deg i Fôn trwy Gynllun Twf y Gogledd fydd fy mlaenoriaeth i.  Wnaiff Llafur mo hynny. Fydd plaid ranedig – gwrthblaid sydd mewn diffeithwch dychymyg – byth yn gwneud i Fôn gyfri.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn ennill. Cawn edrych ymlaen i ail gydio yng ngwaith campus Ieuan Wyn Jones yn San Steffan, a braint ydi cael ein cyn arweinydd a chyn ddirprwy Brif Weinidog Cymru yn cefnogi fy ymgyrch.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar fod Yr Arglwydd Dafydd Wigley, Elfyn Llwyd a Delyth Jewell AC yn fy nghefnogi.

Gwyddom yn y Blaid bod ein cryfder yn ein gallu i greu cynghrair o bobl sy’n rhannu egwyddorion ac yn anelu am yr un wobr.

Gwn y bydd fy mam Bethan ar fy ochr, fel yr oedd hi ar eich ochr chi ym Môn, a byddai fy niweddar dad hefyd.

Ond eich dewis chi yw hwn. Dyma ddechrau’r sgwrs a dwi wedi mwynhau siarad gyda nifer ohonoch chi eisoes.

Rhannwn syniadau, codwn obeithion ac adeiladwn bontydd. Mae hi’n ynys wedi’r cwbl!

Subscribe
Notify of
guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

Our Supporters