Pam fy mod i’n gofyn am enwebiad Plaid Cymru ar Ynys Môn

Vaughan Williams

Vaughan Williams

Brodor o Gaergybi ydw i efo fy ngwreiddiau’n ddwfn iawn ar draws yr ynys o Gaergybi, wrth gwrs, i Rydwyn, Llanfaethlu, Tregele a Llanrhyddlad.

Roedd teulu ochr fy nhad y dod o ochra Cemlyn a theulu fy mam o Landdeusant a’i thad o Cork. Dwi’n hynod ddiolchgar iddo (er nes i erioed ei gyfarfod yn anffodus – bu farw pan oedd Mam druan yn 15 oed yn unig) gan mai drwyddo ef mae gen i hawl i basbort yr Iwerddon, ac yn nyddiau tywyll Brexit mae hynny’n hanfodol!

Dwi’n gweithio fel athro ers degawd bellach ac yn gweithio yn yr ysgol uwchradd lleol – digwydd bod yn yr ystafell y dysgais i Gymraeg ynddi. Mae hynny’n brofiad swreal.


Cofiwch chi, ges i sawl swydd amrywiol cyn mynd i fewn i’r byd addysg. Gweithiais i yn y porthladd yng Nghaergybi am sawl blwyddyn ac ar un adeg fel glanhawr yn Ysbyty Gwynedd. Dysgais i lawer wrth wneud y swyddi felly, yn enwig fel y mae deall problemau pobl o ddydd i ddydd.

Dwi hefyd yn Gynghorydd Tref dros fy ward enedigol, Ffordd Llundain. Mae’n fraint cael gwasanaethu eich cymuned a gwneud y pethau bychain i helpu pobl. Codi pres i’r banc bwyd, codi pres ar gyfer elusennau canser (am resymau teuluol), brwydro dros bobl sydd angen help ond heb lais. Dwi wedi bod ar sawl pwyllgor lleol, timau pêl-droed a bellach wedi newid siâp y bêl i fod yn un rygbi. Dwi hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Morswyn.

Gyda chymorth eraill roeddwn yn rhan o dîm a sefydlodd Parêd Gwŷl Dewi, y cyntaf yn hanes Caergybi ac o bosib Môn.

Dwi’n adnabod pobl Môn yn dda iawn ac yn sicr aelodau’r Blaid gan fy mod i wedi bod yn aelod ers (cyfrif efo bysedd), 1997! Dwi wedi cyd-ymgyrchu yn y gwynt a glaw, a heulwen godidog Awst 2013 ac is-etholiad Rhun.

Mae’r byd gwleidyddol yn newid yn eithriadol o sydyn, mae’n gyffrous ac yn arswydus yr un pryd. Wrth siarad efo pobl o ddydd i ddydd ar draws Môn mae’n amlwg fod pobl eisiau gwleidydd maen nhw’n nabod. Rhywun sy’n fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw. Rhywun efo profiadau o’r byd go iawn.

Pan ges i f’ethol fel Cynghorydd roeddwn yn awyddus i sefydlu grwpiau lleol a bod yn weithgar yn y gymuned. Mae Grŵp Codi Sbwriel yn cyfarfod yn rheolaidd. Hefyd mae grŵp Hoffi Coffi yn cyfarfod yn aml, grŵp ar gyfer dysgwyr. Yr hyn sy’n bwysig am y ddau grŵp yma ydy eu bod nhw’n dod â phobl allan ac yn rheswm i gymdeithasu. Mae’n bwysig rhoi rhywbeth nôl bob tro.

Mae Brecsit wedi sugno’r aer o’r byd gwleidyddol. Bydd y wasg yn trafod dim byd ond Brecsit pan ddaw etholiad. Mae dyletswydd arnom oll i godi lefel ein gwleidyddiaeth a defnyddio hwn fel cyfle i ddangos y fath o Gymru rydym am greu.

Gwlad sy’n credu mewn tegwch a chydraddoldeb i bawb sy’n byw yma. Gwlad sy’n credu mewn cyfiawnder. Gwlad sy’n dileu tlodi. Gwlad amgylcheddol sy’n arwain y byd trwy fuddsoddi mewn ynni glân. Gwlad sy’n cydweithio efo gwledydd eraill y byd wrth greu byd gwell.

Mae gan Gymru botensial anhygoel ond dim ond trwy annibyniaeth wnawn ni gyrraedd ein gwir gallu.

Dwi’n hynod ddiolchgar am y negeseuon dwi wedi derbyn eisoes a hynny gan bobl sydd ddim o reidrwydd yn gefnogol i’r Blaid. Felly Monwysion – dewch efo fi. Gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth a chyda’n gilydd fe wnawn ni beintio Môn yn werdd unwaith yn rhagor.

Articles via Email

Get instant updates to your inbox

We do not moderate comments before they appear. The views expressed in the comments are those of our users and do not necessarily reflect the views of Nation. Cymru. Please read our community standards and participation guidelines before contributing.

1
Leave a Reply

avatar
1 Comment threads
0 Thread replies
0 Followers
 
Most reacted comment
Hottest comment thread
1 Comment authors
Richard Recent comment authors
  Subscribe  
newest oldest most voted
Notify of
Richard
Guest
Richard

Pob lwc I ti👌