Rhaid i ni wynebu’r gwirionedd am nifer o’n cymunedau ‘Cymraeg’

Llangrannog, Ceredigion

Carwyn Graves

Un o nodweddion amlycaf diwylliant y Cymry Cymraeg yw gafael cymaint ohonom ar ddaearyddiaeth.

Mae daearyddiaeth yn ganolog i’r broses o ddod i nabod rhywun – ‘o ble ych chi’n dod, de?’ – ac yn elfen graidd i hunaniaeth llawer ohonom gyda chysyniadau fel ‘y milltir sgwar’, ‘brogarwch’, ‘Cardi’ ayyb.

Rydym ni’n mapio pobl wrth gwrdd â nhw, ond hefyd yn mapio llefydd wrth eu henwogion – Hywel Gwynfryn = Llangefni, Ray Gravell = Mynyddygarreg, Ceri Wyn Jones = Aberteifi ayyb.

Ond yn fwy hynod na’r pethau hyn yw’r map meddyliol o Gymru sydd gan gymaint o Gymry Cymraeg.

Y map hwn sy’n diffinio Cymru i lawer, ac yn enwedig felly yn diffinio y Gymru Gymraeg.

Dychmygol

Meddyliwch am eich sir neu ardal eich hun. Oes gyda chi ryw synnwyr neu reddf ynglyn â pha mor Gymreigaidd yw gwahanol drefi neu bentrefi yn yr ardal?

A mannau eraill yng Nghymru – pa mor Gymraeg ydy Casnewydd, Llandysul, Pontardawe a Blaenau Ffestiniog?

(Mi waranta i bod y mwyafrif helaeth o Gymry Cymraeg sy’n gwybod unrhywbeth am y llefydd dan sylw yn gallu eu trefnu yn gywir yn ôl canran siaradwyr Cymraeg).

‘O, mae dal digon o Gymraeg ma’. ‘O, ma lot o Gwmrag yng Nghrymych!’ ‘Tre Gymraeg di hon, ia!’

Ac felly mae gan y Cymry Cymraeg map meddylio, neu fap ‘dychmygol’ o’r Gymru Gymraeg.

‘Dychmygol’ yn yr ystyr ei fod e’n fap sydd yn bodoli yn nychymyg pobl, yn nychymyg y diwylliant rydyn ni’n ei rannu.

Ond yn araf deg, mae’r map hefyd yn mynd yn un dychmygol yn yr ystyr nad yw’n bodoli yn y byd go iawn.

Agwedd

Beth fyddai’ch ateb i’r cwestiwn ‘beth yw iaith y lle hwn?’ petaech chi’n mynd am dro i lawr strydoedd Llambed, Caerfyrddin, Aberteifi am y tro cyntaf fel ymwelydd chwilfrydig yfory?

Nid Cymraeg fyddai’r ateb, o geisio ateb gwrthrychol. O, mae yna Gymry Cymraeg yn byw yn y llefydd hynny. Mae yna fwy fyth sydd yno ar y stryd fawr yn siopa neu weithio bob dydd.

Ond nid Cymraeg fyddai eich ateb heddiw petaech chi ddim yn adnabod y llefydd nac yn gwybod dim am eu hanes.

Mae dwy gymuned ieithyddol weddol gyfartal o ran maint yn y mwyafrif o bentrefi a threfi de-orllewin Cymru heddiw. Cymry Cymraeg yw’r naill, a siaradwyr Saesneg yw’r llall (yn hannu o Loegr mewn mannau fel Ceredigion wledig, Cymry cynhenid di-Gymraeg mewn mannau fel Cwm Aman neu Gwm Llwchwr).

Ac mae gan y ddau grwp bersbectif gwahanol ar y llefydd maen nhw’n byw, ac yn aml hefyd agwedd wahanol tuag ati.

Tuedda’r Cymry, er enghraifft, i weld hanes lle yn ei bresennol. Weithiau oherwydd hen, hen gysylltiadau teuluol (‘cas ‘yn hen-dadcu ei fagu ar y ffarm honno), weithiau o ganlyniad i ymwybyddiaeth diwylliannol (‘Foel Drigarn, Carn Gyfrwy…mur fy mebyd’), weithiau oherwydd teyrngarwch i ‘bethe’ lleol, boed yn gapeli, yn siopiau, yn sefydliadau.

Ran amlaf cyfuniad o’r pethau hyn i gyd a mwy.

Anweledig

Mae’r uchod yn tueddu i fod yn gwbl anweledig i’r mwyafrif o siaradwyr Saesneg, fodd bynnag. Mae’r enwau llefydd yn ddiystyr. Mae’r tirwedd yn llawn gwyrddni adfywiol, ac yn diferu o botensial ‘eco’.

Pentrefi yw’r pentrefi, a weithiau mae siop, tafarn, weithiau ‘weight watchers’; weithiau ‘WI’ ayyb.

Mae’r teledu, y papurau newydd, y siopau llyfrau yn cario’r un stoc, yr un cynnwys ag y byddent yn Lloegr (i’r Sais; a’r un peth â rhai Cwmbran i’r Cymry di-Gymraeg).

Mae hyn yn oed y Cymry yn weddol anweledig, am eu bod i gyd yn siarad Saesneg gyda chi – dim ond o dro i dro y clywch chi rai yn siarad Cymraeg, ac maen nhw’n tueddu i ryw fwmial siarad ta beth….

Ychydig iawn o bwyntiau cyffwrdd sydd rhwng y ddwy gymuned, y ddau ddiwylliant, y ddwy ffordd hyn o weld yr un llefydd.

Fe fyddwn i bron yn mynd mor bell â dweud nad yr un lle yw ‘Caerfyrddin’ y Cymry a ‘Carmarthen’ y di-Gymraeg; na ‘Llambed’ a ‘Lampeter’, ‘Cardigan’ ac ‘Aberteifi’; ayyb.

I raddau bu hyn yn wir erioed; ond oherwydd meintioli’r newid yn y de-orllewin a rhai mannau eraill dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae’r bwlch rhwng y dychmygol a’r realiti, fel y bwlch rhwng ‘lle’ y Cymry a ‘lle’ y lleill, yn fwy nag erioed ac yn codi her aruthrol.

Ond dim ond i un ochr o’r agendor; ochr y Cymry. Does dim rheswm gan yr ochr arall i geisio bontio’r bylchau hyn.

Parhad

I’r Cymry fodd bynnag, mae’r bwlch rhwng yr hyn rydym ni’n credu ei fod yn wir am ein cymunedau a’r hyn sy’n wir yn bygwth ein cadw mewn ystad o denial, yn yr ystyr seicolegol.

Heb gydnabod realiti pethau, a heb wneud hynny yn gyhoeddus a’i drafod, annhebyg iawn yr enillir unrhyw ‘frwydr dros yr iaith’ yn y bröydd dan sylw.

Er lles pawb yn y cymunedau hyn, er mwyn parhad yr iaith, er mwyn economiau lleol bwyiog, gwleidyddiaeth leol iach a llawer mwy, rhaid deall natur y gymuned fel ag y mae.

Peth da yw’r iaith Gymraeg, a does dim rhaid iddi hi, nac i ni, gyfiawnhau ei bodolaeth na’n defnydd ni ohoni.

Ond nid doeth yw ceisio sicrhau parhad yr iaith honno heb ddechrau gan weld y map fel ag y mae.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox