Tra fod agweddau fel rhai bos Trago Mills yn parhau, rhaid deddfu ar y Gymraeg

© Copyright Chris Allen and licensed for reuse under this Creative Commons Licence.

 

Siân Gwenllian, AC Plaid Cymru yn Arfon

Mae sarhad Trago Mills wedi ennyn ymateb chwyrn gan bobol Cymru – yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, fel ei gilydd.

Dydy hynny ddim yn syndod gan fod y rhan fwyaf o bobl yn gweld gwerth y Gymraeg, am weld ei pharhad ac yn barod i’w hamddiffyn.

Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn deall pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan o’n hanes, ein treftadaeth a’n hunaniaeth; mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn gwybod fod siarad mwy nag un iaith yn llesol i ni gyd.

Dangosodd arolwg diweddar gan Lywodraeth Cymru pan holwyd 10,000 o bobl, fod 86% yn teimlo fod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.

Parch

Ond be mae Llafur Cymru yn bwriadu ei wneud? Maen nhw yn bwriadu disodli’r unig ddeddfwriaeth sydd gennym sydd yn amddiffyn ac yn datblygu hawliau i’r Gymraeg. 

Eu bwriad yw dileu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Eu bwriad yw cyflwyno Bil gwan sy’n mynd â ni nôl i ddyddiau ‘perswadio’ a ‘chynnig moronen’ fel yn neddfwriaeth diffygiol 1993.

Pob lwc i hynny efo perchennog Trago Mills a’i debyg! 

Mae’r saga yma – y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ar ein hiaith – yn dangos nad gwanio ond cryfhau y ddeddfwriaeth sydd angen.

Mae Plaid Cymru yn credu fod angen diwygio’r ddeddf bresennol er mwyn cynnwys mwy o’r sector breifat. 

Ar hyn o bryd mae modd deddfu yn y sector telathrebu, dŵr a thrydan a thrafnidiaeth er nad yw’r llywodraeth bresennol wedi dangos unrhyw uchelgais i’r cyfeiriad hwnnw. 

Ond beth sy’n berffaith glir bellach yw y dylai hi fod yn ddisgwyliad, ac nid yn ddisgresiwn, ar i siopa mawrion a’r banciau ddarparu gwasanaethau dwyieithog sylfaenol yng Nghymru.

Yn wir, pasiodd y Cynulliad gynnig yn ddiweddar yn galw am ‘ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat’. 

Dileu

Mae Llywodraeth Lafur Cymru ar fin cyhoeddi ei raglen ddeddfwriaethol, sef rhestr o’r biliau y maen nhw yn gobeithio eu cyflwyno rhwng haf 2018 a haf 2019.

Y biliau hynny mae’r llywodraeth yn obeithio fydd yn troi’n ddeddfau maes o law. Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn debygol o gynnwys Bil Y Gymraeg.  

Yn hytrach na chryfhau hawliau ac ymestyn deddfwriaeth, mae cynigion Llywodraeth Lafur Cymru argyfer y Bil hwnnw yn arwyddo newid cyfeiriad arwyddocaol ym mholisi iaith y Llywodraeth. 

Mae’r pwyslais ar berswadio ac nid ar osod rheolau. Nid yw Plaid Cymru yn credu fod y pwyslais ar berswadio yn mynd i ddwyn ffrwyth.

Ac mae dileu swydd y Comisiynydd yn arwydd o wanio nid cryfhau. Troi’r cloc yn ôl fyddai gwanio’r ddeddfwriaeth.

Rydym angen diwygio a chryfhau. Rydym angen Safonau cryf ar gyrff cyhoeddus a phreifat ac rydym angen Comisiynydd i’w rheoleiddio. 

Onid nid yn unig bod cynigion y Llywodraeth yn amlwg yn rhai gwantan, nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i gyflwyno ychwaith i awgrymu y bydd y newid trywydd – gollwng rheolau a dibynnu ar berswadio – yn debygol o lwyddo.

Tystiolaeth

Yn Nhachwedd 2017, ar gychwyn ei chyfnod fel Gweinidog y Gymraeg, dywedodd Eluned Morgan, ei bod yn “tanlinellu pwysigrwydd cael tystiolaeth yn gefn i bopeth rŷm ni’n ei wneud”.

Felly lle mae’r dystiolaeth sy’n profi’r angen am newid trywydd? Lle mae’r dystiolaeth fod y trywydd o ‘berswadio’ yn debygol o lwyddo? Am yr union reswm fod ‘perswadio’ ddim yn gweithio y cyflwynwyd Deddf newydd yn 2011!

Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus fod 85% o ymatebwyr yn erbyn dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r cyrff sydd wedi dod o dan Safonau Deddf 2011 eu hunain hefyd yn datgan fod y Gymraeg yn datblygu yn sgil y ddeddfwriaeth.

Does dim angen edrych y tu hwnt i stepan drws Llywodraeth Cymru ei hun i weld prawf o hynny: mae Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg – a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf – yn dangos fod y rheidrwydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn newid arferion gwaith mewnol yn y gwasanaeth sifil.

Megis dechrau gwreiddio mae deddfwriaeth 2011– a chyn disodli’r ddeddf honno efo fersiwn llawer salach, onid oes dyletswydd ar y Llywodraeth i ystyried o ddifri yr effaith mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn ei chael ar wasanaethau Cymraeg a gweithluoedd Cymraeg? 

Dyna pam mae’r Blaid yn galw ar y Llywodraeth i oedi cyn cyflwyno Bil newydd yn ei rhaglen ddeddfwriaethol – er mwyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o weithrediad Mesur Iaith 2011, o’i gymharu efo Deddf Iaith 1993.

Rydym hefyd angen buddsoddi i hyrwyddo a hybu manteision y Gymraeg. Ond stori arall yw honno. Dylid gwneud hynny hefyd wrth gwrs a byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo’n llawn i hynny.

Ond tra fo agweddau fel rhai Trago Mills yn parhau, deddfu nid perswadio yw’r ffordd i barchu’r Gymraeg.


Beth am gefnogi cyfryngau annibynol yng Nghymru? Os hoffech chi weld Nation.Cymru yn datblygu ymhellach mae modd i chi gyfrannu yn fisol drwy wasgu’r botwm i’r dde.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox