Vergangenheitsbewältigung a phechodau’r gorffennol

Llun gan Orator (CC BY-SA 4.0)

 

Simon Chandler

Fe gyflwynwyd rhaglen addysgol newydd yn yr Almaen ar ôl yr Ail Ryfel Byd: sef, “Vergangenheitsbewältigung” sydd yn rhan o broses seicolegol ac yn golygu “dod i delerau â’r gorffennol” yn y Gymraeg.

Fel rhan o’r rhaglen hon, cafodd (a chaiff o hyd) plant ysgol yn yr Almaen eu haddysgu am yr Holocost. Yn ogystal, roedd (ac mae o hyd) yn orfodol iddyn nhw fynd ar deithiau ysgol i wersylloedd crynhoi i weld â’u llygaid eu hunain tystiolaeth o’r troseddau yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd gan eu hynafiaid, er mwyn sicrhau na fydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Yn anffodus, mae hanes wedi ailadrodd ei hun sawl gwaith yn y cyfamser (yn Serbia a Rwanda, er enghraifft), ond nid yn yr Almaen, sydd wedi dod yn wlad ofalgar a thrugarog, fel y dangosir gan ei thriniaeth o ffoaduriaid o Syria: yn rhannol oherwydd Vergangenheitsbewältigung, yn fy marn i.

Wrth gwrs, nid yr Almaen yw’r unig wlad sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth, fel y mae Cymru’n boenus o ymwybodol ohono.

Y gwir trist amdani yw ni wnaeth unrhyw wareiddiad fyth newid ei ymddygiad yn radical (yn hytrach na chymryd camau’n gymharol llai sylfaenol fel ailgylchu neu osod targedau newid hinsawdd) oherwydd pryderon rhagweithiol ac allgarol er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Naddo, mae hynny’n digwydd ond oherwydd cywilydd annioddefol yn wyneb pechodau’r hynafiaid: cywilydd sydd gen i’n ddirprwyol fel Sais.

Yn achos yr Almaen, achoswyd hynny gan ddatguddiad erchyllterau’r Holocost ynghyd â’r ffaith i’r Almaen golli’r Ail Ryfel Byd, fel ydym oll yn gwybod.

Mewn cyferbyniad, ni orfodwyd Prydain i ddod i delerau â’r erchyllterau masnachu caethweision Affricanaidd neu greulondeb trefedigaethol yn gyffredinol i’r un raddau.

Iawndal

Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Berlin yn y blynyddoedd diwethaf yn ymwybodol iawn o Gofeb y Holocost siŵr o fod.

Mae hi’n cwmpasu arwynebedd o bron i bump erw o dir drws nesaf i un o’r gwestai drutaf y ddinas (ble mae’r Frenhines yn aros yn ystod bob ymweliad, hyd y gwn).

Mae’r gofeb yn cynnwys 2,711 o lechi concrit enfawr, ac mae pob un ohonyn nhw’n symboleiddio nifer fawr o Iddewon wedi’u llofruddio.

A allwch chi ddychmygu cofeb ddirfawr i’r dioddefwyr trefedigaethiad Prydeinig ynghanol Llundain?

Allaf i ddim chwaith. Mae hynny’n broblem oherwydd bod heddiw nid yn unig yn blentyn ddoe ond hefyd yn dad yfory.

Mae rhan Cymru yn hyn yn gymhleth. Dyma wlad a chafodd ei gwladychu ond a oedd hefyd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwladychu ar ôl cael ei llyncu gan yr Ymerodraeth.

Felly, nid yn unig yn Lloegr y mae angen Vergangenheitsbewältigung.

Ond a fyddwn ni’n gweld Lloegr yn cydnabod bod Cymru’n drefedigaeth hefyd? Trefedigaeth a anrheithiwyd ei hadnoddau, a erydwyd ei hiaith a’i diwylliant, a’i phobl wedi’i gormesu ac anwybyddu; trefedigaeth sydd yn haeddu rhyw fath o iawndal sylweddol?

Sut y bydd Lloegr yn gallu gweld yr angen i newid ei bolisïau tuag at Gymru nes ei bod yn cydnabod camweddau’r gorffennol?

Mae hwnnw’n gwestiwn rhethregol, yn anffodus, oherwydd na fydd Lloegr fyth yn gosod Vergangenheitsbewältigung ar ei hun (neu gydnabod bod angen iddo hyd yn oed).

Yn lle hynny felly, bydd rhaid i’r Cymry ddysgu am (neu gofio) pob agwedd ar hanes ein gwlad ni – y da a’r drwg – ac wedyn cymryd ein tynged ni i’n dwylo ein hunain: mae hi’n hen bryd.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox