Support our Nation today - please donate here
Opinion

Why I’ve decided to put my name forward for the Plaid Cymru nomination in Dwyfor-Meirionnydd

06 May 2019 11 minute read
Mabon ap Gwynfor

Mabon ap Gwynfor

English version follows below

Nid annibyniaeth a chreu gwladwriaeth Gymreig ydy pendraw’r daith i genedlaetholwyr. Yn hytrach, cerbyd ydyw ar gyfer creu cymdeithas well yn y rhan fach yma o’r byd a elwir yn Gymru.

Er mwyn i unrhyw wlad gael bod yn annibynnol ac yn rhydd, rhaid i’w phobl fod yn awduron ar eu dyfodol eu hunain. Golyga hyn roi’r dewis iddynt hwy i benderfynu beth i’w wneud.

Ond, os ydych yn byw mewn tlodi, heb ddim cyfalaf i fuddsoddi yn eich dyfodol neu’ch teulu; os ydy’ch gallu i gael mynediad i drafnidiaeth yn wael, gyda diffyg gwasanaethau iechyd, a dewisiadau addysg cyfyngedig, yna nid oes gennych chi ddewis, ac mae eich dyfodol yn cael ei bennu gan ddylanwadau allanol heb fod gennych unrhyw ddylanwad drostynt. Mae rhyddid economaidd yr un mor bwysig â rhyddid gwleidyddol.

Felly, mae annibyniaeth ar ei ben ei hun yn ddi-bwynt. Pe bai’r Gymru Newydd annibynnol yn ail-greu’r model Llundeinig hwn, gyda’r cyfoeth a’r cyfleoedd i greu cyfoeth oll wedi eu canoli mewn un rhan o’r wlad, a chyda gwladwriaeth ganolog yn awdurdodi pob dim o’r brif ddinas tra bod gweddill y wlad yn mynd i ddifancoll, yna ni fyddai modd i ni gefnogi’r math hwnnw o annibyniaeth. Nid ydym am weld San Steffan fach arall yn cael ei hail greu yma. Gallwn ni wneud pethau yn wahanol yng Nghymru er budd Cymru gyfan.

Yn wir, mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol yma. Mae dyfodol ein hiaith, ein diwylliant, a’n cymunedau gwledig yn ddibynnol ar ein bod yn gwneud pethau’n wahanol, gan newid y pwyslais. Yn hytrach na chanoli rhaid datganoli, a sicrhau bod pawb yn cael budd o’r pwrs cyhoeddus. Rhaid troi yr hen drefn ar ei phen er mwyn atal y llif o bobl ifainc sy’n gadael ein cymunedau am nad oes yna swyddi na’r un ystod o gyfleodd iddynt, ac yn hytrach trwy ddatganoli a datblygu’r economi leol gallwn roi’r dewis iddynt aros yn eu cymunedau a fydd yn galluogi’r iaith i flaguro unwaith eto.

Oherwydd, fel y dywedodd Gwynfor Evans, cymuned o gymunedau yw Cymru. Mae pob un o’n cymunedau yn werthfawr a chanddynt ran i’w chwarae ym mywyd y genedl. Trwy amddifadu un rydym yn amddifadu’r cyfan.

Ac wedi’r cwbl, yn union fel yr ydym yn dadlau mai Cymru sydd orau i wneud y penderfyniadau ynghylch Cymru, yn yr un modd ein cymunedau sydd orau i wneud y penderfyniadau drostynt hwy eu hunain.

Er mwyn chwarae fy rhan yn y frwydr i sicrhau fod ein cymunedau yn cael eu grymuso, rwyf wedi rhoi fy enw ymlaen ar gyfer enwebiad Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.

Mae’r etholaeth hon yn enghraifft berffaith o sut y mae trefn sydd yn canoli pob dim yn gweithio yn erbyn ein cymunedau, ond mae hefyd yn cynnig enghreifftiau clir o sut y mae’n cymunedau yn brwydro yn ôl yn erbyn y drefn honno.

Mae’r etholaeth yn doreithiog o adnoddau naturiol, llawer heb eu datblygu, ond llawer hefyd yn cael eu defnyddio er mwyn creu elw i nifer fach o bobl ymhell i ffwrdd. Onid dyma yw hanes Cymru?

Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn cyflwyno gweledigaeth economaidd ar gyfer yr ardal i’r aelodaeth leol.

Bydd y weledigaeth yma’n seiliedig ar greu cyfleoedd a datblygiadau economaidd drwy ein cymunedau.

Bydd datblygu grwpiau cydweithredol cymunedol, sydd yn cadw llawer yn fwy o’u harian yn yr economi leol, gyda gweithlu a chwsmeriaid mwy ffyddlon, yn ganolog i’r weledigaeth hon. Mae’n fodel y gellir ei ddefnyddio fel sylfaen i ddatblygu economi gynaliadwy a gwyrdd yn Nwyfor-Meirionnydd. Mae gan yr etholaeth hanes balch yn y maes yma eisoes. Mae hanesion twf Tafarn y Fic yn Llithfaen, y Pengwern yn Llan Ffestiniog, Cyfanfwyd Mawddach a mentrau cymunedol Antur Stiniog yn fodelau o’r mathau o ddatblygiadau cymunedol a chydweithredol y dylid eu dilyn.

Rydym yn gwybod fod Cymru’n allforio mwy o drydan o lawer na’r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio. Mae’r un yn wir am Ddwyfor-Meirionnydd. Mae yma isadeiledd a chapasiti yn y sector hydro yn unig i gynhyrchu 20,000kw o drydan – digon ar gyfer bron pob tŷ yn yr etholaeth. Mae gan gapasiti presennol ynni solar y gallu i gynhyrchu tua’r un faint, heb sôn am ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill sydd yn yr etholaeth.

Mae yma fwyngloddiau dwfn y gellir archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio eu dŵr fel ffynhonnell gwresogi. Gallwn ddysgu o enghreifftiau llwyddiannus led-led y byd sydd eisoes wedi mabwysiadu’r dechnoleg yma, megis yn Shettleston yn Glasgow, Park Hills ym Missouri neu Kongsberg yn Norwy.

Gellir defnyddio’r rhain oll, a llawer iawn mwy, er mwyn creu swyddi a chyfoeth. Byddant yn dod ag arian newydd i mewn i’r ardal ac, yn achos gwres o ddŵr mwyngloddiau, byddai’n rhyddhau’r arian sydd gan bobl i’w wario ar bethau eraill.

Yn olaf, rhaid sicrhau buddsoddiad yn isadeiledd yr etholaeth. O drafnidiaeth i dechnoleg ddigidol, mae’r ardal wedi cael ei gwasanaethu’n wael ers cenedlaethau. Gwyddom fod gwariant ar isadeiledd yn lluosydd. Nid yn unig ei fod yn creu swyddi yn syth bin wrth i bethau gael eu hadeiladu ond mae’r isadeiledd yn ei dro yn arwain at fwy o fuddsoddiadau eraill yn llifo i mewn i’r ardal.

Mae Cais Twf Gogledd Cymru wedi bod yn gywir wrth adnabod yr angen am fuddsoddiad yn isadeiledd technoleg ddigidol yr ardal. Dylid sicrhau fod yr elfen hon yn ganolog i’r Cais Twf. Gallai buddsoddi yn yr isadeiledd arbennig yma fod yn chwyldroadol i botensial economaidd yr etholaeth.

Ond rhaid i hyn oll gael ei weithredu mewn cydweithrediad â’n cymunedau, gan adael iddynt hwy arwain a chyfeirio.

Dyma rai syniadau yn unig y byddaf yn edrych i’w datblygu wrth i mi ymgeisio am yr enwebiad ar gyfer Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.

Rwy’n edrych ymlaen i siarad gyda’r aelodaeth dros yr wythnosau nesaf. Rydym eisoes yn gwybod y bydd yna o leiaf ddau ymgeisydd arall, ac mae’r ddau ohonynt yn ymgeiswyr da a chryf, ac rwy’n falch o’u hadnabod ac o gyd-weithio â nhw. Byddaf yn rhedeg ymgyrch gadarnhaol yn seiliedig ar fy mhrofiad helaeth a gweledigaeth glir.

Bwriad Plaid Cymru yw i fod mewn Llywodraeth yn dilyn yr etholiadau nesaf yn 2021. Mae’r patrwm sy’n datblygu yn y polau piniwn a’r neges glir a leisir gan Adam Price yn awgrymu bod yna bosibilrwydd go iawn y gwelwn ni Blaid Cymru yn llywodraethu. Rwyf innau am chwarae fy rhan yn gadarnhaol yn hyrwyddo Plaid Cymru a’n syniadau a sicrhau ein bod yn blaid Llywodraeth, a hynny trwy fod yn ymgeisydd ar gyfer Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.


Independence, and the creation of a new nation state is not the end goal for Welsh nationalists.

It is, rather, a means to an end.

For any nation to be truly independent and free, her people need to be the authors of their own destiny. That means having the ability to choose what to do. However, if you’re stuck in poverty, with no capital to invest in your future or the future of your family; if you have poor transport links, poor infrastructure, a lack of health services, and limited educational options, then you have no choice, and your destiny is dictated by outside influences that you have little or no control over.

So, independence on its own is pointless. For Wales to create another London model here, with wealth and wealth creation opportunities concentrated in one corner of the Country, and a centralist state controlling and dictating from its capital while the rest of the country withers away, would not be true independence. We don’t want to see the Westminster model replicated here. We can do things differently, for the benefit of the whole of Wales.

Indeed, it’s imperative that we do things differently. The future of the Welsh language, our culture and rural communities depend on us doing things differently, and change the emphasis away from the over centralised, controlling Governments that we’ve experienced. Instead, we must decentralise and ensure that every corner of Wales benefit from the public purse. The old order must be turned upside down in order to stem the flow of young people leaving our communities because of a lack of jobs and opportunities, and instead give them that choice of staying in their communities which would allow the language to flourish once again.

Because, as Gwynfor Evans memorably said, Wales is a community of communities. Each community is valuable and has a role to play. To abandon one, is to abandon the whole.

And after all, just like Wales is best placed to make decisions about Wales, the same is true for our communities. Decisions about their futures should be made by our communities.

In order to achieve this and fight for the empowerment of our communities I have decided to put my name forward for the Plaid Cymru nomination in Dwyfor-Meirionnydd.

Dwyfor-Meirionnydd is a perfect example of how a distant over-centralised system works against our communities, but also of how our communities fight back.

It has an abundance of natural resources, much of it untapped, but much of it too creating wealth for a few. Such is the story of Wales.

Over the coming weeks I will be setting out an economic vision for the area to the local membership.

This vision will be based on creating opportunities and economic development through our communities. The community run cooperatives, which retain more of their money locally and have a more loyal workforce and customer base, is a model which should be used as a basis to improve a sustainable, and green economy in Dwyfor-Meirionnydd. The constituency already has a rich history in such models – the well-known Tafarn y Fic in Llithfaen, Pengwern Cymunedol and the new Tafarn y Plu in Llanystumdwy are obvious examples, as well as the excellent community-based enterprises being developed by Antur Stiniog. These are exemplar models which should be a template for others.

We know that Wales exports far more electricity than it uses.  The same is true of Dwyfor Meirionnydd. The constituency has the infrastructure and capacity to produce 20000kw of electricity from Hydro alone. That’s enough to supply nearly all households in the constituency. Its photovoltaic capacity is about the same as well, let alone other sources of renewable energy. It has enough deep mines to allow the exploration of developing mine water as a source for heating. There are several successful projects implementing this technology already in operation, such as in Shettleston in Glasgow, Park Hills in Missouri or Kongsberg in Norway. All of these, and more, could be used to create jobs and wealth. It would bring in much needed new money but, in the case of mine water heating, it would free up the money in residents’ pockets to spend on other things.

Finally, we need to ensure investment in the area’s infrastructure. From transport, to digital technology the area has been poorly served for generations. We know that infrastructure spend alone has a multiplier effect, not only does it create immediate employment, but it creates opportunities to bring in new investment.

The North Wales Growth Deal has correctly identified this as a central part of the bid This should be prioritised and kept as a central plank of the Growth Deal. Investing in our digital infrastructure would revolutionise the economic potential of the area.

But all of this must be carried out in conjunction with the communities, allowing our communities to lead and direct.

These are just some ideas which I will be looking at and developing in my bid to win Plaid Cymru’s nomination for Dwyfor Meirionnydd.

I look forward to the campaign and talking to the membership over the coming few weeks. We already know of two others who have put their names forward, both of whom are good people who I’m proud to know and work with. Mine will be a positive campaign based on experience and vision.

Plaid Cymru is aiming to be the party of Government following the 2021 elections. Based on the trends of current polling and the clear message articulated by Adam Price I’m confident that Plaid Cymru will be in Government. I want to play a positive role in advancing Plaid Cymru and our ideas and ensuring that we do form the next Government.


We can’t run Nation.Cymru without your help! If you support the development of an independent Welsh media for the people of Wales, please donate now!


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.