Yr iaith: Mae’r cloc yn tician ond y Llywodraeth yn llaesu dwylo

Cloc Dinas Bangor. Llun gan Denis Egan (CC BY 2.0)

Siân Gwenllïan AC

Trwy gydol y broses o ymgynghori ar bapur gwyn y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg, mae Plaid Cymru wedi gosod ei safbwynt yn glir:

  • Nid ydym am weld unrhyw wanhau na chyfyngu ar hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg
  • Rydym yn credu fod angen cadw rheoleiddio a hyrwyddo ar wahân – a’u bod yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol
  • Rydym yn galw am symud ymlaen gyda’r Safonau Iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder ac yn galw am amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, trenau a bysys
  • Ac rydym yn galw ar y llywodraeth i ymestyn y Safonau Iaith i weddill y sector breifat.

Mi fyddai unrhyw wanhau ac unrhyw gyfyngu ar y ddeddfwriaeth yn gam sylweddol yn ôl i’r Gymraeg.

Gwyddom fod y Gymraeg yn colli tir. Dim ond mewn 7% o gymunedau Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith fyw ar y stryd ac yn y dafarn.

Mae hynny yn loes calon i mi ac ni fedraf ddim cefnogi unrhyw droi’n ôl nag unrhyw wanhau ar yr hawliau sydd eisoes wedi eu sefydlu.

I’r gwrthwyneb, rhaid i ni weithredu a chryfhau os ydym o ddifrif eisiau gweld y Gymraeg yn parhau.

Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yn mynd i wanhau ein hawliau, ac fe fydd Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu.

Mae’r Llywodraeth eisiau dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a mynd yn ôl at un corff gan ddisgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth gwbl wahanol.

Y mae hefyd eisiau rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan ddyletswydd iaith, pa bryd ac ati.

Dymuna’r Llywodraeth:

  • ddileu’r rhestrau presennol sy’n sicrhau fod hawl gan y Cynulliad i osod dyletswyddau iaith ar rai cwmnïau preifat
  • dileu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg
  • dweud mai dim ond cwynion ‘difrifol’ fydd yn cael eu hymchwilio heb ddiffinio beth yw ‘difrifol’.

Mae hyn oll yn cyfyngu ar ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg.

Hyd-braich

Mae Plaid Cymru yn credu fod angen corff annibynnol i wneud y gwaith pwysig o hyrwyddo a hybu’r iaith, gan adael y Comisiynydd yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith o osod Safonau a Rheoleiddio.

Byddai sefydlu Comisiwn fyddai’n ceisio gwneud yr holl waith sydd ei angen yn gam sylweddol yn ôl.

Dyna pam yr ydym wedi dadlau yn gyson dros gael Asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo, hybu ac i gynllunio’n strategol dros y Gymraeg ar sail egwyddorion cynllunio-ieithyddol cadarn.

Os ydym am gryfhau ein hawliau, rhaid i ni ymestyn y Safonau i’r sector breifat.

Mae sawl esiampl o pam fod angen gwneud hyn wedi amlygu eu hunain dros y misoedd diwethaf – saga Sports Direct pan geisiwyd cyfyngu ar hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio eu hiaith yn y gweithle; Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg ac yn y blaen.

Fe ymatebodd y Gweinidog yn chwyrn ar y pryd ond eto y mae wedi gwrthod gosod safonau ar y sector breifat.

Os nad yw’r Llywodraeth yn barod i reoleiddio er mwyn amddiffyn beth ddylai fod yn hawl sylfaenol i siaradwyr Cymraeg – mae arna i ofn mai geiriau gwag oedd yr ymyrraeth yma.

Cloc yn tician

Yn anffodus, mae hanes yn dangos nad yw dibynnu ar berswadio cyrff i fabwysiadu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn mynd i weithio.

Mae angen deddfu ac mae angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector breifat – ond dydy’r llywodraeth Lafur ddim yn fodlon cymryd y cam pwysig hwn.

Fy argymhelliad i’r llywodraeth yw hyn: yn lle gwastraffu amser ar y papur gwyn hwn, beth am symud ymlaen efo’r gwaith.

Mae angen gweithredu. Rydyn ni dal yn disgwyl cynnydd ar y Safonau ar gyfer cyrff iechyd wedi i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi dros ddwy flynedd yn ôl.

Mae adroddiad safonau’r cymdeithasau tai ar ddesg y Gweinidog ers dwy flynedd; adroddiad y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd; adroddiad ar fysiau a threnau a rheilffyrdd ers bron i flwyddyn.

Ac yn y cefndir wrth gwrs mae’r strategaeth Miliwn Siaradwyr. Gwell gan y Llywodraeth hon brysuro’i hun gyda thrafodaethau diangen yn hytrach na chanolbwyntio ar y gwaith sydd ei angen er mwyn gweithredu’r strategaeth honno a gwneud gwahaniaeth i fywydau siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cloc yn tician ac nid oes amser am fwy o laesu dwylo gan y Llywodraeth.

Dyletswydd y Llywodraeth yw gwarchod hawliau ei ddinasyddion – mae Plaid Cymru’n benderfynol o beidio gadael i Lafur droi cefn ar y cyfrifoldeb hollbwysig hwnnw.

Facebook Comments

Articles via Email

Get instant updates to your inbox