Support our Nation today - please donate here
Sport

Peidiwch roi’r Wal Goch tu ôl i wal dalu

19 Aug 2022 4 minute read
Wales’ Gareth Bale (centre) celebrates with team-mates and staff after qualifying for the Qatar World Cup. Picture by David Davies

Kevin Brennan MP

Gwnaiff y 5ed o Fehefin 2022 fyw yn ein cof cyfunol fel y foment gwnaeth Cymru cadarnhau ein statws fel gwlad bêl-droed ar lwyfan rhyngwladol gan adennill ein lle yng Nghwpan y Byd dynion.

Buais i yno yn 1985 ym Mharc Ninian lle, nid am y tro cyntaf, cawsom ein gwadu gan penalti dadleuol yn erbyn Yr Alban. Dwi’n cofio bod yn yr hen stadiwm genedlaethol yn 1993 ble, yn erbyn Romania, cawsom ein rhwystro rhag cyrraedd UDA ‘94 gan ddrama penalti arall. Ac yn Bordeaux a Paris yn ystod Ewro 2016, ges i gyfle i weld rhywbeth doeddwn i braidd ddim yn disgwyl gweld eto; Cymru mewn rowndiau terfynol twrnamaint rhyngwladol.

Ond y tu hwnt i’r ymoleuad ar y cae, mae’r FAW wedi hybu hunaniaeth ddiwylliannol fras, a theimlad cryf o falchder yn yr iaith Gymraeg mewn blynyddoedd diweddar. Wedi’r cyfan, mae goroesiad y Gymraeg fel iaith byw yn yr 21ain ganrif yn wyrth ieithyddol.

Byddai darlledu neu ffrydio un o arddangosfeydd mwyaf amlwg ac effeithlon yr iaith tu ôl i wal dalu, felly, yn cynrychioli fandaliaeth ddiwylliannol. Ond dyna, mae’n edrych, sydd wedi’i gytuno ar gyfer gemau Cymru o 2024 ymlaen.

Ers i’r FAW sefydlu ei gartref newydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerdydd o dan slogan ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, mae’r hen aflonyddwch rhwng clybiau bu’n distrywio gemau Cymru wedi’i disodli gan deimlad o undeb a balchder yn ein tîm, ein diwylliant ac yn y Gymraeg.

Wedi sefydliad S4C yn yr 80au, a gyda thwf addysg cyfrwng y Gymraeg, mae’r consensws bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru yn gynyddol gryf. Mae’n cynnwys pobl fel fy mam Beryl Evans o Nantyglo, merch glöwr sydd nawr yn ei 90au, sydd erioed wedi dysgu Cymraeg. Neu fel finnau, wedi fy ngeni yng Nghwmbrân, heb gael gwersi Cymraeg fel plentyn yn yr ysgol ond wedi dysgu ychydig fel oedolyn. Neu fel fy merch, Siobhan, wedi’i geni yng Nghaerdydd ac yn rhugl yn y Gymraeg diolch i’w addysg cyfrwng Cymraeg.

Dafydd Iwan singing in the rain at the Ukraine game (Credit: PA)

Mewn gemau Cymru clywn Hen Wlad Fy Nhadau wedi’i chanu’n acapela ac yn uwch nag erioed. Mae Dafydd Iwan a Sage Todz wedi adfywio hen gan ar gyfer cenhedloedd newydd. Ac mae’r Barry Horns yn arwain y terasau mewn harmoni dwyieithog. Maent i gyd yn cyfleu’r neges bod yr iaith yn perthyn i bawb, â phob nodwedd o’n hunaniaeth pêl-droed yn adlewyrchu’n traddodiad cerddorol ac ieithyddol, ac yn flaengar yn ein cofleidiad o amrywiaeth a chynhwysiant.

Ond gydag asedau chwaraeon a diwylliannol, un o’r ffactorau allweddol sydd y tu ôl i’w tyfiant ydy datguddiad. Yng nghyd-destun tîm cenedlaethol Cymru dynion, boed hynny yng Nghynghrair y Cenhedloedd, yr Ewros neu yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, mae pob eiliad ers 2015 wedi’u sylwebu’n angerddol gan Malcolm Allen a Nic Parry ar ddarlledydd gwasanaeth cyhoeddus Cymru, S4C.

Mae adroddiadau eiconig ac yn aml feirol y pâr o ucheldiroedd a phantiau ein taith pêl-droed cynhyrfus wedi cyseinio a phobl o bob cefndir, heb ots am eu hiaith gyntaf, diolch i’r ddyletswydd a roddwyd i S4C gan Senedd San Steffan yn y Ddeddf Darlledu 1980 i ddarlledu am ddim.

Wrth i’n taith genedlaethol o lwyddiant pêl-droed mentro oes newydd, mae rôl yr FAW yng nghytundeb UEFA â Viaplay, bydd yn gosod darllediad iaith Gymraeg ein gemau rhyngwladol y tu ôl i wal dalu, yn cynrychioli ergyd diwylliannol sylweddol.

Mae’r FAW yn haeddu’r ganmoliaeth ar gyfer llwyddiant tîm Cymru, ac am fod wedi marchnata pêl-droed Cymru fel mudiad. Ond mae wedi bod yn llai parod i amddiffyn sylwebaeth byw iaith Gymraeg S4C, y darlledydd gwasanaeth cyhoeddus cafodd ei sefydlu i helpu stiwardio a hybu defnydd yr iaith.

Pan ysgrifennais i at yr FAW i godi’r pwnc ym mis Ebrill, ni dderbyniais i unrhyw atebion. Wedi’r gorfoledd o gyrraedd Cwpan y Byd, efallai bod hi’n ddealladwy na fod hyn yn flaenoriaeth am y tro. Ond os ydy’r FAW am gyflawni ar ei ymrwymiad i ddiwylliant Cymreig, bydd angen iddo ddod ag atebion cyn bo hir.


Support our Nation today

For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.

Subscribe
Notify of
guest
1 Comment
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Richard
Richard
1 year ago

Cywir 👍🏼

Our Supporters

All information provided to Nation.Cymru will be handled sensitively and within the boundaries of the Data Protection Act 2018.