Nofel newydd yn cael ei chyflwyno i deulu o Ynys Môn am ‘ddal eu tir’ yn erbyn Wylfa
Fe gyflwynwyd nofel newydd Cefin Roberts, Os Na Ddôn Nhw… (Y Lolfa) i deulu Caerdegog, Ynys Môn ‘am ddal eu tir’.
Caerdegog yw un o’r ffermydd sy’n ffinio â’r Wylfa, y pwerdy niwclear a adeiladwyd dros 50 o flynyddoedd yn ôl. Fe wrthododd y teulu Jones werthu 65 acer o dir y fferm i Horizon Ltd er mwyn datblygu’r Wylfa Newydd.
Meddai Cefin Roberts “Mae’r tylwyth wedi bod yn ffermio yn y rhan yma o Ynys Môn ers canrifoedd maith ac mae unrhyw un sy’n sefyll dros hawliau ac etifeddiaeth yn uchel iawn yn fy llyfrau i.
“Fe allech gymharu’r hyn a ddigwyddodd yn ardal Cemaes i sawl cymuned Gymreig arall a chwalwyd ac a foddwyd sydd yn dal yn fyw yn ein cof fel cenedl.
“Ond tawel iawn fu pobl yn eu hymateb i’r chwalu a ddigwyddodd ar Ynys Môn. Mae’r nofel, yn ei ffordd fechan ei hun, yn deyrnged i deulu Caerdegog. Maen nhw wedi bod yn ddewr iawn yn fy marn i.”
Ac yntau newydd orffen cyfnod o chwe blynedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, mae cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy yn ystyried cyhoeddi ei drydedd nofel fel diweddglo perffaith i’w ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol.
Dathlodd ei ben-blwydd yn 65 oed y llynedd ond mae’n dal i ryfeddu bob dydd faint sydd i’w ddysgu am y grefft o ddweud stori.
“Ysgrifennu stori yw ’niléit a dwi ddim yn siŵr os yw fy arddull yn ffitio’n daclus i unrhyw niche fel y cyfryw. Er ei bod hi’n nofel ysgafn, mae hi’n ymdrin â themâu digon tywyll hefyd ac yn sicr tydi bywyd ddim yn rhwydd i’r prif gymeriadau,” meddai Cefin Roberts.
Cymeriad
Fel un a gafodd ei eni a’i fagu ar dyddyn ei hun, dywed fod yr ysbrydoliaeth wedi deillio o gyfuniad o atgofion plentyn a’r hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad ac mewn cymunedau Cymreig ar hyn o bryd.
“Fel y ddwy nofel rwyf eisoes wedi eu cyhoeddi, mae fferm a thyddyn yn rhan bwysig o gefnlen fy ngwaith,” meddai.
“Er na wn i’r nesaf peth i ddim am ynni niwclear mae ei gysgod a’i ofn wedi aros hefo fi byth ers imi weld y ffilm The War Game pan oeddwn i’n blentyn.
“Gwn fod y datblygiadau diweddaraf yma yn bwnc llosg iawn ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac fel Brexit, wedi hollti cymunedau.”
Dyma nofel gyfoes am Annest a Cemlyn. Wedi iddo fyw yn ddinod mewn tyddyn bychan gyda’i fam yng nghysgod atomfa niwclear am flynyddoedd, mae bywyd Cemlyn Owen ar fin cael ei droi ben i waered gan ferch sydd yn dod i’r ardal yn sgil cwmni ffilmiau.
Mae sgriptiau ffilm a naratif nofel yn gwau i’w gilydd. Mae’n stori lawn hiwmor, ynghyd â themâu dwys, gan awdur sy’n gyfarwydd â chreu cymeriadau byw a gonest.
“Dwi’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi dod i afael yn fy llaw bob yn hyn a hyn i gadw cwmni imi ar y daith,” meddai Cefin.
“Ond mae fy nyled yn fawr i dair yn arbennig: Angharad Price, fy nhiwtor ar y cwrs ym Mhrifysgol Bangor; Meinir Edwards o’r Lolfa; a Rhian, fy ngwraig, am afael yn dynn yn fy llaw pan oeddwn, ar adegau, yn gwangalonni a dechrau amau fy hun.”
Bydd Os Na Ddôn Nhw… yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener 12fed o Ebrill am 7pm yn Ysgol Glanaethwy, Bangor. Bydd adloniant gan Gôr Aethwy, sesiwn holi ac ateb a darlleniadau o’r nofel.
Mae Os Na Ddôn Nhw… gan Cefin Roberts ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.