Digwyddiadau Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
![](https://s3.eu-west-2.amazonaws.com/nation.cymru/wp-content/uploads/2018/08/02151745/map-nation-maes-eisteddfod.jpg)
Fe fydd sgyrsiau am annibyniaeth, y cyfryngau yng Nghymru, a ffuglen ffantasi a gwyddonias ymysg arlwy Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd y sgyrsiau yn digwydd yn y Llannerch Gudd am 2pm ar ddyddiau Sadwrn, 4 Awst, Mawrth, 7 Awst a Gwener, 10 Awst.
“Dyma’r tro cyntaf i Nation.Cymru gynnal digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gobeithio y bydd yn fodd o gyrraedd cynulleidfa newydd,” meddai golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones.
“Mae croeso i bawb i’r digwyddiadau hyn ac rydym yn gobeithio cynnwys cynifer o leisiau a phosib, gan roi llwyfan i’r drafodaeth frwd sydd wedi mynd rhagddo ar y safle dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Democrataidd
Ar ddydd Sadwrn fe fydd panel yn trafod ‘Y Diffyg Democrataidd yng Nghymru: Sut mae cynnal diddordeb y cyhoedd?’
Ymysg y pynciau trafod fydd sut y gall newyddiadurwyr, pleidiau gwleidyddol, y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wneud rhagor i ddod a newyddion am wleidyddiaeth Cymru i sylw’r genedl.
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd:
- Aled ap Dafydd, gohebydd gwleidyddol gyda BBC Cymru
- Mared Ifan gohebydd Golwg a Golwg360 yn y Senedd
- Fflur Arwel o dîm cyfathrebu Plaid Cymru
- Gareth Hughes, y newyddiadurwr gwleidyddol ffrilans profiadol
Fe fydd Ifan Morgan Jones, golygydd Nation.Cymru, yn holi’r cwestiynau, a bydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.
Gwyddonias
Ar y dydd Mawrth fe fydd sgwrs am lenyddiaeth ffantasi a gwyddonias yn y Gymraeg, gyda’r awduron Elidir Jones, Meilyr Sion, Rhiannon Williams ac Ifan Morgan Jones – pob un ohonynt wedi ac/neu yn ysgrifennu nofel ffantasi neu wyddonias.
Fe fyddant yn trafod pam fod llenyddiaeth ffantasi yn tueddu i gael ei ystyried yn eilradd yn y Gymraeg, pam bod braidd dim llenyddiaeth gwyddonias o gwbl, a hefyd a oes rhaid ysgrifennu am Gymru wrth weithio o fewn o genres rhain?
Annibyniaeth
Ddydd Gwener bydd cyfle i drafod ‘Annibyniaeth: Y Ffordd Ymlaen’, pwnc trafod sydd yn denu sylw cynyddol yn sgil Brexit, twf Yes Cymru, a’r sgarmesoedd arweinyddol ymysg y prif bleidiau yng Nghymru.
Yn cyfrannu at y sgwrs fe fydd:
- Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru
- Catrin Dafydd, awdur nofel Gwales sy’n trafod annibyniaeth
- Iestyn ap Rhobert, cadeirydd Yes Cymru
Fe fydd golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, yn eu holi. Unwaith eto fe fydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chyfrannu at y sgwrs hefyd.
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.