Sain: Galw ar bleidiau’r Cynulliad i gynnal cynadleddau wythnosol
Dylai pob un o bleidiau’r Cynulliad gynnal cynadleddau cyson i’r wasg er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn deall yn well yr hyn sy’n digwydd yno.
Dyna farn un o ohebwyr gwleidyddol y BBC, Aled ap Dafydd, wrth siarad mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan Nation.Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd.
“Yr unig blaid sy’n gwneud hyn yn wythnosol – heblaw am un wythnos lle’r oedd yna ormod o straeon negyddol felly fe benderfynon nhw beidio – ydi Plaid Cymru,” meddai.
“Fe fydden i’n ei wneud yn addewid mewn maniffesto bod pob plaid wleidyddol yn cynnal hynny bob wythnos.
“Os nad ydi hynny’n digwydd, mae’n ddigon hawdd i rywun fynd i guddio am wythnosau. A dyna’r peth gwaethaf all ddigwydd mewn unrhyw wlad ddemocrataidd ydi bod ein gwleidyddion ni ddim yn atebol i’r bobol.
“Mi’r oedd y Llywodraeth Lafur yn arfer cynnal cynhadledd i’r wasg misol gyda’r Prif Weinidog, ond dydi hynny ddim yn digwydd bellach.
“Wedi dweud hynny, mae’r Prif Weinidog yn Brif Weinidog sydd ar gael yn aml iawn.”
‘Dim diddordeb’
Roedd y newyddiadurwr gwleidyddol ffrilans, Gareth Hughes, gohebydd gwleidyddol Golwg yn y Cynulliad, Mared Ifan, a Fflur Arwel o dîm cyfathrebu Plaid Cymru, hefyd yn cymryd rhan yn y sgwrs.
Ar ddechrau’r sgwrs tynnodd golygydd Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, sylw at ffigyrau oedd yn awgrymu bod llai na hanner y cyhoedd yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli.
Dywedodd y gohebydd gwleidyddol ffrilans Gareth Hughes mai rhan o’r rheswm am hynny oedd y cwymp sylweddol yn nifer y newyddiadurwyr yn y Senedd ers dechrau datganoli.
“Y peth cyntaf yw disgwyl i’r gwleidyddion eu hunain fod yn ddiddorol,” meddai Gareth Hughes.
“Hoffwn i weld rhywbeth mwy poblogaidd o lawer yn dod allan o’r lle. Ond dydi o ddim yn dod allan o’r lle, a dyna’r diffyg mawr.
“Pan es i i’r Cynulliad roedd y Financial Times i lawr yna, roedd y Mirror yna, roedd y Guardian yna, roedd y Press Association yna, roedd yna tua saith o bapurau yna.
“A fesul tipyn ddaru nhw allan o’r lle. Pam? Am fod ‘na ddim diddordeb yn dod allan o’r lle. Mae’r newyddiadurwyr yn mynd i weithio’n galed i gael eu storis nhw i mewn i’r papurau.
“Ond os does yna ddim byd yn digwydd yna, os oes yna olygydd yn Llundain neu le bynnag wyt ti yn sgwennu yn dweud ‘that’s not very interesting’. O fewn dipyn mae’n mynd i dynnu’r newyddiadurwyr allan.
“A dyna’n union sydd wedi digwydd yn y Cynulliad.
“Mae dau beth yn gwerthu papurau: ffrae, a chlecs. A da ni eisiau’r ddau beth allan o’r Cynulliad. A dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n cael digon o glecs a digon o ffraeo.”
Awgrymodd Aled ap Dafydd bod diffyg cymeriadau yn y Senedd yn broblem yn hynny o beth.
“Pwy ydi Jacob Rees-Mogg, Boris Johnson neu Maihri Black y Cynulliad? Da ni yn oes cwlt yr unigolyn rŵan, tydan?” meddai.
“Mae pobl yn licio personoliaethau, bydded hynny’n beth da neu’n beth drwg. Dyna’r math o beth sydd o leiaf yn tynnu pobl i mewn i’r stori yn y lle cyntaf. Dydi’r math yna o berson ddim mor amlwg yn y Cynulliad ac mae o yn y Senedd.
“Lle fyddwn i’n anghytuno ydi dw i ddim yn meddwl bod y Cynulliad yn fwy cydsyniol na San Steffan, beth ydw i’n meddwl ydi o ydi ei fod yn fwy cwrtais.”
‘Lleisiau gwahanol’
Dywedodd Mared Ifan bod angen cynyddu plwraliaeth ymysg y cyfryngau yn y Cynulliad.
Rhan o’r ateb i hynny oedd nad oedd y pleidiau gwleidyddol yn “rhedeg at y BBC gyda’r stori” bob tro.
Ond cyfeiriodd at gyn lleied o amser ag adnoddau oedd gan y newyddiadurwyr i adrodd ar beth oedd yn digwydd yn y Cynulliad.
“Mae yna straeon gwych yn dod allan o’r pwyllgorau ond does gen i ddim yr amser bob wythnos a bob dydd i fod yn eistedd yn gwrando ar y pwyllgorau rheini,” meddai.
“Mae yna dri ohonyn nhw yn digwydd yr un pryd ac maen nhw’n cymryd ryw dair awr o leiaf. Mae’n amhosib, ac felly mae yna angen lleisiau gwahanol.”
Roedd yn “sioc” meddai, i gyrraedd y Cynulliad dwy flynedd yn ôl a gweld mai, fel arall, dim ond Gareth Hughes oedd yno’n llawn amser.
“Golwg yw’r unig gyfrwng print sy’n cyflogi rhywun i fod yn y Cynulliad yn llawn amser,” meddai.
“Fel mae’r Cynulliad wedi cael mwy o bwerau mae’r lluosogrwydd yne – achos mae mor bwysig cael llygaid gwahanol yn edrych ar straeon o ogwydd gwahanol, mor bwysig.
“Felly mae hwnne yn heriol iawn dw i’n credu.”
Dywedodd hefyd bod angen addasu yn well i gyfryngau cymdeithasol a chreu fideos o’r hyn oedd yn digwydd yn y Cynulliad o ddydd i ddydd.
‘Buddsoddiad’
Dywedodd Fflur Arwel o dîm cyfathrebu Plaid Cymru fod yna “gyfrifoldeb anferth” ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn a gwneud rhywbeth am y diffyg adnoddau sydd ar gael i adrodd ar wleidyddiaeth Cymru.
“Mae yna le i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn barhaus mewn newyddiaduraeth Cymraeg,” meddai.
“Mae wir angen edrych i gyfeiriad Llywodraeth Cymru a gofyn, ‘ylwch, beth ydach chi’n ei wneud i’n cefnogi ni?’
“Mae’n brosiect y mae angen i bawb gyd-dynnu ag o er mwyn cryfhau democratiaeth yng Nghymru, ac rydach chi’n cryfhau’r wlad wedyn, a’r cyhoedd.
“Os ydych chi’n cytuno bod Cymru yn wlad yn ei hanfod ei hun, mae’n haeddu cyfryngau cynhenid.
“Mae’r Cynulliad yn sefydliad hynod o ifanc felly mae’r cyfryngau o’i hamgylch hi yn dal i ddatblygu rŵan. Mae dal y newydd, mae dal yn fabi ac mae dal yn dysgu.”
‘Padlo’r canŵ’
Roedd y diffyg newyddiadurwyr yn y Cynulliad yn broblem wrth ddal y pleidiau gwleidyddol a’r llywodraeth i gyfrif, meddai Aled ap Dafydd.
“Dyw hyn ddim yn feirniadaeth, mae’n ddatganiad o ffaith – fod gan ein papur cenedlaethol ddim person llawn amser yn y Cynulliad, ac mae eu golygydd gwleidyddol nhw wedi ei leoli yn Llundain,” meddai.
“Nawr dyw hynny ddim yn feirniadaeth, mae’n ffaith. Dwnim os ydi nhw’n dweud mai fanna mae’r penderfyniadau pwysig yn dal i gael eu gwneud.
“Ond mae’’n adrodd ryw fath o naratif a stori am sut y mae pobl wedi ymagweddu tuag at y Cynulliad.
“Wrth gwrs y broblem sydd gennym ni ydi’r diffyg plwraliaeth a’r diffyg momentwm.
“Y momentwm o amgylch straeon. Hynny ydi, os oes gyda chi stori dda pwy sydd yno tu cefn i chi i wthio’r stori yna ymlaen. Yn aml, neb.
“Hynny ydi, da chi’n padlo eich canŵ eich hun 99% o’r amser ac mae hynny’n beth anodd iawn i’w wneud, er fod yna gyfryngau eraill yn ymuno.”
‘Asgell dde’
Dywedodd Gareth Hughes bod angen gofyn cwestiynau am gyflwr democratiaeth ar draws y Deyrnas Unedig, nid yng Nghymru yn unig.
“Mae yna gwestiwn mwy eang i’w ofyn am ddemocrataidd yn fwy eang ar yr ynysoedd yma,” meddai Gareth Hughes.
“Os ydych chi’n edrych ar bapurau Lloegr, papurau asgell dde ydyn nhw i gyd. Ac mae’n dueddiad gan y BBC i gefnogi pwy bynnag sy’n llywodraethu – dydyn nhw ddim mor annibynnol ag ydyn ni’n credu.
“Ac mae hynny’r un fath yn ITV. Rydw i wedi gweithio i ITV ers blynyddoedd ac maen nhw’r un fath yn fan no.
“Mae’r teledu yn dilyn pwy bynnag sydd mewn llywodraeth yn y Deyrnas Unedig ar y pryd. Maen nhw’n dueddol o fod yn gydymdeimladol iddyn nhw.”
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.