Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i osgoi craffu yn erydu ffydd mewn gwleidyddiaeth
Siân Gwenllian AC
Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth medden nhw.
Mewn byd o newyddion 24 awr a gyda phenawdau’n esblygu o un bwletin i’r llall, anodd weithiau yw amgyffred popeth sy’n digwydd o fewn dim ond ychydig ddyddiau.
Anoddach fyth felly yw deall sut y gall Llywodraeth Lafur Cymru weithredu mor boenus o araf ar brydiau pan ddaw’n fater o ateb cwestiynau syml gan y gwrthbleidiau.
Ar y 18fed o Ionawr, defnyddiais sesiwn graffu ar waith Gweinidog y Gymraeg yn y Cynulliad i holi Eluned Morgan faint o bobl yn y Llywodraeth sy’n gweithio ar reoliadau’n ymwneud â safonau’r iaith.
“Loads”, meddai hi.
Gan nad oedd hi’n gallu rhoi ymateb pendant i mi, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ar y 29ain o Ionawr yn gofyn “Faint o staff sydd wedi eu lleoli yn benodol yn uned Gymraeg y Llywodraeth sy’n gyfrifol am baratoi rheoliadau safonau’r Iaith Gymraeg?”
Cefais ateb gan y Gweinidog ar y 6ed o Chwefror, yn nodi mai mater i’r Ysgrifennydd Parhaol yw capasiti o fewn adrannau Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ac felly ei bod hi wedi gofyn i’r Ysgrifennydd ateb fy nghwestiwn.
Erbyn dydd Mercher wythnos ddiwethaf, doeddwn ddim wedi clywed yn ôl gan yr Ysgrifennydd Parhaol, felly mi godais y mater gyda’r Gweinidog yn uniongyrchol yn y siambr. Yn dilyn hynny, bron i dri mis wedyn, mi dderbyniais ymateb gan yr Ysgrifennydd Parhaol ddydd Iau.
Gadewch i mi ailadrodd fy nghwestiwn: “Faint o staff sydd wedi eu lleoli yn benodol yn uned Gymraeg y Llywodraeth sy’n gyfrifol am baratoi rheoliadau safonau’r Iaith Gymraeg”?
Cwestiwn syml oedd yn gofyn am ddim byd mwy nag ateb syml gan bennaeth y Llywodraeth.
Serch hyn, yr ateb gefais oedd hyn: “Mae Cangen Deddfwriaeth Is-adran y Gymraeg yn gyfrifol am Safonau’r Gymraeg a Bil y Gymraeg, Rwy’n fodlon bod digon o swyddogion polisi yn gweithio yn yr Is-adran er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol”.
Dyma’r math o ymateb y byddech yn disgwyl ei dderbyn gan Weinidog gwleidyddol – nid gan Ysgrifennydd Parhaol y Llywodraeth.
Y math o ymateb sydd yn mynd yn gwbl groes i werthoedd y Gwasanaeth Sifil, sef gonestrwydd, uniondeb, didueddrwydd a gwrthrychedd.
Bregus
Mae’r celu hwn yn arwain at lywodraethu sy’n osgoi craffu ac yn atal tryloywder. Dyma un o brif nodweddion y weinyddiaeth Llafur hon.
Mi welsom ymagwedd debyg rai misoedd yn ôl pan wrthododd yr Ysgrifennydd Parhaol wrando wedi i’r Cynulliad ennill pleidlais yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd.
Mae’r fath ymddygiad yn erydu ffydd mewn gwleidyddiaeth ac yn llwyr haeddu beirniadaeth chwyrn.
Egin ddemocratiaeth sydd gan Gymru o hyd ar ôl ugain mlynedd o ddatganoli – un fregus sydd dan fygythiad cynyddol gan rymoedd Prydeinig unoliaethol wrth i Brexit beryglu dyfodol ein cyfansoddiad.
Gwae’r llywodraeth Lafur hon am wneud gwaith Ceidwadwyr San Steffan drostynt a bwydo’r drwgdybiaeth hwnnw o Gymru’n rheoli ei materion ei hun gyda diffyg tryloywder ac effeithlonrwydd.
Mae achos diweddaraf Gweinidog y Gymraeg yn ei amharodrwydd i ddarparu gwybodaeth syml yn ein hatgoffa o’r angen i daro’r post i’r pared glywed pan ddaw’n fater o gyfrifoldebau’r llywodraeth a’i swyddogion.
Cwta dair wythnos yn ôl cafwyd achos syfrdanol a, hyd y gwyddwn i, digynsail o Lywodraeth Cymru’n lansio her gyfreithiol yn erbyn ein Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad yr ymchwiliad i ryddhau gwybodaeth am ad-drefnu’r Cabinet.
Sefyll ei thîr wnaeth y Llywydd a gwrthod gohirio’r ddadl gan atgoffa’r Prif Weinidog o un o brif egwyddorion ein sefydliad cenedlaethol – mai swyddogaeth y Cynulliad yw i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, nid y gwrthwyneb.
Yn wir, os yw wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yna mae 19 mlynedd didor mewn grym wedi rhoi gormod o gyfle o lawer i’r blaid Lafur yng Nghymru i fagu agwedd drahaus tuag at graffu.
O safonau’r iaith Gymraeg i ryddhau gwybodaeth, mae gan y Llywodraeth gwestiynau dyrys i’w hateb.
Fel unrhyw wrthblaid gyfrifol, bydd Plaid Cymru’n parhau i bwyso ar y weinyddiaeth Lafur i ateb y cwestiynau pwysig hyn ac i sicrhau nad ydi hi’n esgeuluso ei dyletswydd i fod yn agored, yn hygyrch a thryloyw. Dyw pobl ein cenedl yn haeddu dim llai.
Support our Nation today
For the price of a cup of coffee a month you can help us create an independent, not-for-profit, national news service for the people of Wales, by the people of Wales.